Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:44, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, oherwydd bod cefn y Cwnsler Cyffredinol tuag ataf ar y diwedd ni chlywais yn union beth a ddywedodd. Dechreuodd Canada, wrth gwrs, o sefyllfa wahanol iawn i'r Deyrnas Unedig. Rydym wedi bod yn aelod o'r UE ers tua 40 mlynedd, ac mae gennym ymochredd rheoleiddiol llawn â hwy oherwydd, yn amlwg, mae gennym yr un cod cyfraith a rheoliadau. Ni ddylai fod unrhyw anhawster dod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE. Ond beth bynnag, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y bydd erthygl 24 o'r cytundeb cyffredinol ar dariffau a chytuniad masnach, cytuniad Sefydliad Masnach y Byd bellach, pan fyddwn wedi dechrau negodiadau â'r UE, yn ein galluogi yn y tymor byr i barhau i fasnachu gyda'r UE yn ddi-dariff tra byddwn yn trafod y cytundeb tebyg i'r un sydd gan Ganada?