Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Lansiodd Gweinidog yr economi y porth yn ôl ym mis Medi, rwy'n credu, a phwrpas y porth yw darparu pecyn cymorth diagnostig i fusnesau i gwmpasu'r ystod gyfan o heriau posibl a allai godi yng nghyd-destun Brexit a'u cynorthwyo i fod yn barod ar gyfer byd ôl-Brexit, ac fel y noda'i chwestiwn, un o'r prif faterion sy'n codi yw cwestiynau ynglŷn â masnachu rhyngwladol a chwestiynau ynglŷn â chynllunio'r gweithlu, sydd fel ei gilydd yn ffactorau y mae busnesau'n pryderu yn eu cylch yng nghyd-destun Brexit. Bydd gwefan Paratoi Cymru, a grybwyllais yn gynharach, yn cyfeirio busnesau at y porth hwnnw wrth gwrs er mwyn tynnu sylw pellach at ei argaeledd a hefyd at amrywiaeth o fesurau eraill y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith i gefnogi busnesau drwy Brexit, ac mae'r gronfa cydnerthedd busnes, a ariennir drwy gronfa bontio'r UE, yn enghraifft berffaith o hynny.