Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn i gael cyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 yma mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Bil Awtistiaeth (Cymru).
Nawr, ar yr achlysur hwn, nid oedd modd i'r pwyllgor ddod i unrhyw gasgliad ar ddilysrwydd yr asesiad effaith rheoleiddiol. Dyw hwn ddim yn safbwynt y mae'r pwyllgor am ei chymryd, gan, wrth gwrs, nad yw'n helpu Aelodau'r Cynulliad i graffu ar y ddeddfwriaeth dan sylw.
Yn ystod ein sesiynau tystiolaeth, mi ddaeth hi i'r amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu manylion unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaethau presennol i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil. Yn sgil hynny, ni chafodd y pwyllgor gyfle i drafod gwerth am arian opsiynau 1 a 2 yn llawn, gan nad oedd llawer o wybodaeth ar gael am gostau cyfredol Llywodraeth Cymru i lywio trafodaethau o'r fath. Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth, fel prif ffynhonnell y wybodaeth ariannol, i ymgysylltu â'r broses hon, ac mae gennym ni bryderon sylweddol ynglŷn â diffyg ymgysylltu Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn. Nawr, fe roddwyd gryn sylw i'r honiad mai cyfrifoldeb yr Aelod sy'n gyfrifol yw cynhyrchu'r asesiad effaith rheoleiddiol a darparu costau ar ei gyfer e, ond mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb hefyd i ymgysylltu ac i gydweithio'n llawn â'r broses yma. Nawr, mae ein profiad ni ar yr achlysur hwn yn awgrymu nad yw hyn wedi digwydd. Mi ddaeth Ysgrifennydd y Cabinet, fel oedd ei deitl e ar y pryd, i sesiwn dystiolaeth, gan gwestiynu nifer o'r ffigurau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, ni chawsom ni wybod am ei bryderon tan y cyfarfod hwnnw, ac roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn amharod i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys manylion am ei bryderon ynghylch y costau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Felly, cyfyngwyd ar allu'r pwyllgor i gwestiynu ac i graffu ar y tybiaethau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.
Yn ystod ein sesiynau tystiolaeth, mi ddaeth hi i'r amlwg nad oedd eglurder ynghylch gwariant penodol y Llywodraeth ar anhwylder sbectrwm awtistiaeth o fewn y darlun ehangach o wariant ar gyflyrau datblygu niwrolegol. Mae'r diffyg gwybodaeth hwn yn peri pryder i'r pwyllgor. Sut y gallwn ni ystyried effeithiolrwydd un o bolisïau'r Llywodraeth heb wybod faint o arian sydd wedi'i wario arno fe? Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu bod ei chynllun strategol diwygiedig ar ASD yn cwmpasu pob un o rannau allweddol y Bil hwn, ac eto, nid oes ganddi unrhyw wybodaeth ariannol am yr hyn sy'n cael ei wario yn y maes yma. Roedd y diffyg gwybodaeth a'r diffyg ymgysylltu hwn yn golygu ei bod hi'n anodd i'r pwyllgor ddod i unrhyw gasgliadau. Er enghraifft, roeddem ni'n ansicr a oedd y galw ychwanegol posib am adnoddau a allai ddeillio o ddull gweithredu diagnosis wedi'i adlewyrchu'n llawn yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, nid oedd modd inni brofi'r ansicrwydd hwn yn sgil diffyg gwybodaeth glir am yr arian sy'n cael ei wario ar wasanaethau ASD.
Felly, ar yr achlysur yma, dyw'r pwyllgor ddim yn gallu gwneud penderfyniad ar ddilysrwydd yr asesiad effaith rheoleiddiol hwn. Dyw'r Aelodau ddim wedi cael unrhyw reswm ariannol sylweddol i'r ddeddfwriaeth beidio â symud yn ei blaen, ond dŷn ni ddim wedi gallu pennu a oes unrhyw werth am arian yn y ddeddfwriaeth hon yn sgil y diffyg gwybodaeth ariannol. Nawr, mae llwyddiant deddfwriaeth yn dibynnu ar wybodaeth gywir, ac roedd methu â darparu'r wybodaeth ar yr achlysur hwn wedi rhwystro'r broses graffu.
Rŷn ni'n credu bod hwn yn gynsail sy'n peri pryder, ac yn gynsail na ddylid ei ailadrodd. Mi fydden ni'n annog y Llywodraeth, os yw o'r farn ei bod yn briodol pleidleisio o blaid caniatáu i Fil Aelod symud yn ei flaen ar y cam 'caniatâd i fwrw ymlaen', hynny yw 'leave to proceed'—mi ddylai sicrhau ei bod yn barod i ymgysylltu'n llawn â'r Aelod sy'n gyfrifol. Gall beidio â gwneud hynny arwain at waith craffu gwael, gall arwain at ddefnydd gwael o amser y Cynulliad ac, yn wir, adnoddau'r Cynulliad, ac yn bwysicaf oll, wrth gwrs, gall arwain at annhegwch i randdeiliaid sydd â diddordeb dilys a gwirioneddol yn y pwnc sydd o dan sylw.