Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dyma adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cyflwynwyd adroddiad gennym ar y Bil Awtistiaeth (Cymru) ar 7 Rhagfyr ac fe wnaethom chwe argymhelliad. Rwy'n falch o nodi bod yr Aelod cyfrifol wedi derbyn ein holl argymhellion, ac os yw'r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2, edrychwn ymlaen at weld y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu cyflwyno. Bydd fy nghyfraniad y prynhawn yma yn canolbwyntio ar ddau o'n hargymhellion: argymhellion 3 a 5. Y cyntaf o'r rhain: yn absenoldeb darpariaethau gorfodi yn y Bil, rydym yn bryderus ei bod hi'n ymddangos mai'r unig rwymedi posibl a allai fod ar gael fyddai camau i ofyn am adolygiad barnwrol, a chredwn fod hynny'n anfoddhaol oherwydd ei gymhlethdod, ei gost uchel a'r perygl o oedi. Mae ein hargymhelliad 3 yn awgrymu y dylai'r Aelod cyfrifol ailystyried a yw'r rhwymedïau sydd ar gael i ddinasyddion o dan y Bil yn briodol, ac os oes angen, dylid cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu ffordd fwy effeithiol o orfodi darpariaethau'r Bil.
Nodaf fod yr Aelod cyfrifol wedi dweud ei fod, ar hyn o bryd, wedi gallu nodi ffordd ystyrlon o ddiwygio'r Bil yn y cyswllt hwn. Fodd bynnag, rwy'n croesawu ei ymrwymiad i weithio gydag Aelodau ac arbenigwyr eraill gyda'r nod o gryfhau rhwymedïau sydd ar gael o dan y Bil, os yw'n mynd ymlaen i'r cyfnod nesaf. Fodd bynnag, deil hwn i fod yn faes pryder pwysig i'r pwyllgor ac yn wendid yn y Bil ar ei ffurf bresennol.
Gan symud ymlaen, mae'r pŵer i ddiwygio'r diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn adran 9 i gynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol eraill yn eithriadol o eang. Rydym yn pryderu ynglŷn â'r ymagwedd hon am nifer o resymau. Mae'n amlwg o femorandwm esboniadol yr Aelod cyfrifol fod cryn dipyn o feddwl a gwaith ymchwil wedi mynd i baratoi Bil sy'n ymwneud yn unig ag awtistiaeth. Fodd bynnag, mae'r Bil yn caniatáu defnyddio is-ddeddfwriaeth i ymestyn darpariaethau'r Bil i gynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol—term nad yw'r Bil yn ei ddiffinio—amhenodol eraill heb warant y bydd y ddeddfwriaeth honno wedi'i hategu gan yr un lefel o dystiolaeth a dadansoddiad i'w chynnal. Pe bai'r Bil yn cael ei roi mewn grym, a phe defnyddid y pwerau yn adran 9(1), gallai ddod yn Ddeddf awtistiaeth sy'n berthnasol i amrywiaeth o anhwylderau niwroddatblygiadol ac nid awtistiaeth yn unig. Mae potensial i hyn achosi dryswch. At hynny, byddai'n golygu na fyddai is-ddeddfwriaeth a fo'n ymwneud ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill yn ddarostyngedig i'r un lefel o graffu â'r Bil awtistiaeth, ond yn hytrach fel darn o is-ddeddfwriaeth, ac y byddai ehangu cymhwysiad y ddeddfwriaeth weithredol yn amodol ar bleidlais i'w derbyn neu ei gwrthod, heb gyfle i ddiwygio'r ddeddfwriaeth honno. O ystyried ehangder y pŵer, nid ydym yn credu y byddai hyd yn oed cymhwyso gweithdrefn uwchgadarnhaol yn goresgyn ein pryderon.
Yn ein barn ni, nid yw dull gweithredu'r Bil yn ymarfer deddfwriaethol da ac ni fyddai'n arwain at ddeddfwriaeth dda. Am y rheswm hwnnw, awgrymodd ein hargymhelliad 5, os yw'r Bil yn symud ymlaen i'r cyfnod nesaf, y dylai'r Aelod cyfrifol gyflwyno gwelliant i adran 9(1) o'r Bil er mwyn dileu paragraff (b) ar y diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Wrth ffurfio'r farn hon, rydym yn cydnabod bod y darpariaethau wedi'u cynnwys ar sail ymatebion ymgynghoriad a ddaeth i law'r Aelod cyfrifol. Fodd bynnag, yn ein barn ni, y ffordd briodol o fod wedi cyflawni hyn fyddai cyflwyno Bil yn ymwneud ag anhwylderau niwroddatblygiadol yn gyffredinol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd y byddai hyn wedi bod y tu allan i delerau'r bleidlais ar gais gwreiddiol yr Aelod cyfrifol, ac roedd ei allu i wneud hyn yn gyfyngedig. Felly, mae'n destun pryder fod hyn yn ymddangos yn rhan o'r Bil.
Rwy'n nodi ac yn croesawu'r ffaith bod yr Aelod cyfrifol wedi derbyn ein casgliadau a'n hargymhellion ar y mater hwn. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.