Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 16 Ionawr 2019.
Rhaid imi ddweud, fel aelod o'r pwyllgor iechyd, dechreuais y broses hon yn teimlo bod gennyf rywfaint o ymwybyddiaeth o'r materion, ond roeddwn ymhell o fod wedi fy argyhoeddi mai deddfwriaeth oedd yr ateb a thrwy'r broses o dderbyn tystiolaeth, rwyf wedi newid fy meddwl.
Cefais fy nigalonni, a fy nhristáu weithiau, gan y dystiolaeth a gawsom gan bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd am yr heriau y maent yn eu hwynebu i gael rhyw fath o ddiagnosis, i ddod o hyd i gymorth lle y mae angen cymorth, a lle y mae'n bodoli, i gael mynediad at y cymorth hwnnw. Roedd rhai o'r straeon yn dorcalonnus, ac mewn rhai mannau yng Nghymru, mae arnaf ofn fod gwasanaethau i bobl ifanc, yn arbennig, fawr gwell nag yr oeddent pan oeddwn yn athrawes anghenion arbennig yn y 1980au. Ceir diffyg cysondeb syfrdanol yn genedlaethol, a lle mae pethau'n dda, maent yn aml yn dibynnu gormod ar unigolion medrus a gofalgar mewn proffesiynau penodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg o'r ddadl heddiw y gallwn i gyd gytuno na ellir caniatáu i hyn barhau a bod yn rhaid gwneud rhywbeth, felly pam rwyf fi mor argyhoeddedig fod angen deddf arnom? Nawr, mae'n wir mai cymysg oedd y dystiolaeth a gawsom gan ein pwyllgor, ac mae'r gwahaniaethau wedi'u crynhoi gan eraill. Yn fras, roedd y rhai sy'n darparu gwasanaethau neu sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn erbyn deddfu. Caiff eu pryderon eu hadlewyrchu yn yr adroddiad. Ni cheisiaf ateb eu pwyntiau i gyd, ond hoffwn ddweud hyn: mae'n amlwg nad yw'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn darparu fframwaith cyfreithiol digonol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r holl bobl sydd ag awtistiaeth. Mae'r pryderon a godwyd ynglŷn ag adnoddau yn rhai dilys, wrth gwrs, ac mae angen rhoi sylw iddynt. Ond rhan o drafodaeth ehangach yw hon ynglŷn â darparu adnoddau ar gyfer gofal a chymorth i bawb sydd eu hangen, ac nid yw'n rheswm naill ai dros beidio â deddfu neu dros ddeddfu. Ac wrth gwrs, a siarad yn gyffredinol, anaml y bydd darparwyr gwasanaethau'n dymuno gweld eu gwasanaethau yn ddarostyngedig i fwy o ddeddfwriaeth nag y credant sy'n angenrheidiol.