Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 16 Ionawr 2019.
A gaf fi ddweud wrth y Siambr, gyda phob parch, mai dyna'r ail dro i mi glywed rhywun yn dweud 'shame' pan na fydd pleidlais at eu dant? Rydym yn ceisio siarad—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Rydym yn ceisio siarad am wleidyddiaeth fwy caredig. Rydym yn ceisio arfer gwleidyddiaeth fwy caredig yn y Siambr hon, ac mae i Aelodau eraill weiddi pan fydd gan rywun farn wahanol, o ystyried yr hyn rydym newydd fynd drwyddo, rwy'n cael hynny'n dipyn o embaras i'r Cynulliad hwn, ac rwyf am ofyn i'r Aelodau hynny ystyried eu hymddygiad.