Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 16 Ionawr 2019.
Mae'r adroddiad, yr ymatebais iddo yn gynharach y mis hwn—ac fel y dywedodd David Melding, dyna oedd un o'r pethau cyntaf a wneuthum pan gefais y portffolio hwn—yn ychwanegiad sydd i'w groesawu'n fawr i'r corff o wybodaeth sy'n datblygu wrth inni roi camau ar waith i wneud yn siŵr y gallwn sicrhau bod pobl yn ddiogel pan fyddant yn byw mewn adeilad uchel iawn, gan gynnwys beth yw adeilad uchel iawn mewn gwirionedd ac ar ba uchder y mae'r problemau penodol hyn yn codi. Cefais gryn dipyn o drafodaethau yn yr amser byr y bûm yn y portffolio hwn, a gwn fod fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, wedi cael nifer o drafodaethau o'r blaen pa un ai uchder neu gyfansoddiad neu beth bynnag yr adeilad sy'n bwysig, a'r llwybrau dianc a dosbarth y meddianwyr a'r holl bethau felly. Fel y nododd y Fonesig Judith Hackitt yn ei hadroddiad, 'Building a Safer Future', system effeithiol a chydlynol yw'r allwedd i'r sicrwydd hwnnw. Comisiynwyd adroddiad y Fonesig Judith gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn adnabod y darlun y mae'n ei baentio yn iawn. Yr hyn a wnawn yn awr yw ystyried a yw'r argymhellion yn gywir mewn cyd-destun Cymreig. Mae'n hanfodol, felly, fod ein penderfyniadau ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwn maes o law a'r system y maent yn sail iddi yn cyflawni rhywbeth real a chydlynol, rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac i'w lles, fel y mae pob Aelod a gyfrannodd wedi dweud. Mae hynny'n golygu gwella dylunio mewn prosesau adeiladu, egluro cyfrifoldebau, sicrhau cydymffurfiaeth yn ystod gwaith adeiladu ac ar ôl i bobl symud i mewn, a diogelwch parhaus adeiladau uchel iawn yng Nghymru, ac mae hefyd yn golygu cyfundrefn orfodi gref lle bynnag y bo angen.
Rwyf am ymdrin yn fyr iawn â mater y drysau ffrynt—dim ond i ddweud bod yna gwestiwn yn dal i fod ynglŷn â hynny. Rwy'n ymwybodol iawn ohono. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau ar hynny, ac mae'r grŵp arbenigol yn ymwybodol ohono hefyd. Ceir rhai problemau ynghylch yswiriant ac ati sydd hefyd yn gymhleth a gwn fod y pwyllgor wedi mynd ar drywydd y rheini. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Nid oes gennyf ateb iddo ar hyn o bryd, ond rydym yn ymwybodol iawn ohono ac mae'n rhan o'r hyn rydym yn edrych arno.
Cyfarfûm â grŵp arbenigol y Gweinidog yr wythnos diwethaf am y tro cyntaf. Mae'r grŵp hwnnw'n dod ag ystod o arbenigedd ynghyd, gan gynnwys datblygwyr, cyrff rheolaeth adeiladu, penseiri, landlordiaid cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol diogelwch tân, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chynrychiolwyr amrywiol o'r sector. Maent wedi clywed gan gynrychiolwyr o Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ac arbenigwyr technegol, ac o ganlyniad i fewnbwn arbenigol y grŵp rydym ar y trywydd cywir i gynhyrchu'r hyn a alwn yn fap gwaith, a fydd yn rhoi ffurf a chydlyniant i'n dulliau o weithredu ar y problemau a ddisgrifiwyd gan adroddiad y Fonesig Judith. Felly, maent wedi cael eu cyfarfod olaf ond un, sef yr un a fynychais er mwyn eu cyfarfod, ac yna byddant yn cael eu cyfarfod olaf cyn bo hir. Felly, bydd gennym fap gwaith yn fuan iawn ar ôl hynny—yn sicr erbyn diwedd tymor yr haf, ond rwy'n gobeithio erbyn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei alw'n 'wanwyn'; gadewch inni obeithio mai mis Mai fydd hynny—cyn gynted â phosibl. Maent yn bobl ymroddedig iawn. Rhoesant lawer o'u hamser eu hunain i'r gwaith dros doriad y Nadolig i gynhyrchu'r pethau interim roeddent yn ymdrin â hwy yn eu cyfarfod olaf ond un. Felly, rwy'n hyderus y cawn hwnnw'n gyflym.
Hefyd, roeddwn am roi mwy o deimlad o ble'r ydym yn awr. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid llywodraeth leol a thrydydd sector i nodi nifer a manylion yr holl adeiladau preswyl uchel yng Nghymru. Roedd honno'n dasg anoddach o lawer nag y byddech yn ei ddisgwyl, yn enwedig yn y sector preifat, ond bellach mae gennym ddata llawer mwy cadarn a mwy dibynadwy. Rydym wedi rhannu'r wybodaeth drwy gyfrwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn sicrhau ein bod mewn sefyllfa fwy cadarn o ran y wybodaeth a gedwir ac yr adeiladir arni. Yn anecdotaidd, Ddirprwy Lywydd, dywedir wrthyf, yn y pen draw, ein bod wedi gorfod anfon pobl allan i edrych i weld lle'r oedd pethau tal am nad oedd cofrestr ar gael mewn gwirionedd. Felly, mae honno'n wybodaeth sydd gennym bellach.
Ond nid yw'r wybodaeth honno, wrth gwrs, ond yn mynd â chi beth o'r ffordd. Gwelwyd bod tri adeilad tal yn y sector cymdeithasol a 12 yn y sector preifat wedi eu gorchuddio mewn deunydd cyfansawdd alwminiwm, neu ACM, y cladin penodol a achosodd yr anhawster o ran lledaeniad cyflym y tân yn Nhŵr Grenfell. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda pherchnogion adeiladau a datblygwyr i sicrhau bod penderfyniadau cyfrifol wedi'u gwneud. Fel y mae, mae'r gwaith naill ai wedi'i gwblhau, neu mae ar y gweill ar dynnu ac ailosod cladin ar bob un ond dau o'r adeiladau hynny. Yn achos y ddau sydd ar ôl, argymhellwyd y dylid cynnal profion ar raddfa fawr ar union natur y cladin a'i berfformiad ac mae'r datblygwr wedi ymrwymo i gydymffurfio ag unrhyw argymhellion dilynol ac mae'n rhoi gwybod inni am gynnydd y broses. Felly, rydym yn falch iawn fod hynny'n digwydd yn gyflym.
Yn y trafodaethau gyda fy rhagflaenydd, Rebecca Evans, dynododd datblygwyr a pherchenogion y byddent yn gwneud y peth iawn ar gyfer y trigolion. Fe'i gwnaethom yn glir iawn nad oedd Llywodraeth Cymru am weld cost y gwaith hwnnw'n cael ei drosglwyddo i breswylwyr. Rwy'n falch o weld na ofynnir i breswylwyr ysgwyddo'r gost o dynnu ac ailosod cladin ACM. Dyna yw'r penderfyniad cywir, mae'n amlwg, ac rydym yn ei groesawu, a bydd yn rhyddhad i'r bobl sydd wedi prynu'r adeiladau penodol hynny neu sy'n byw ynddynt.
O ran adeiladau newydd neu yn y dyfodol, rydym wedi ymgynghori ar wahardd deunyddiau llosgadwy yn gyfan gwbl. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn dadansoddi'r ymatebion ac yn ymgymryd â'r gwaith asesu effaith angenrheidiol ar yr adborth ymgynghori sydd wedi dod yn ôl. Er y bwriedir gosod gwaharddiad er mwyn ychwanegu rhagor o ddiogelwch, rwy'n deall wrth gwrs fod adeiladwyr ac yswirwyr eisoes yn cymryd camau ymarferol i sicrhau nad yw adeiladau newydd yn cael eu datblygu gan ddefnyddio cladin llosgadwy, ond yn amlwg mae cwestiwn anferth yn codi ynghylch ôl-osod yn ogystal.
Wrth gwrs, fel y dywedodd llawer o bobl, ceir materion cymhleth sy'n mynd ymhell y tu hwnt i broblem cladin ACM. Mae swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda chymheiriaid llywodraeth leol a'r gwasanaethau tân ac achub i fabwysiadu dull gwaith achos o weithredu ar adeiladau y nodwyd pryderon eraill yn eu cylch. Un maes rydym yn dal i ddysgu ohono yw dod â gweithredwyr allweddol at ei gilydd, ac fel adroddiad y pwyllgor, bydd y profiad hwnnw'n deall ac yn datblygu systemau cadarn i wella eu diogelwch.
Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, rwyf wedi bod yn awyddus i dderbyn argymhellion lle bynnag y bo modd ac i sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried yng ngwaith y grŵp arbenigol. Roedd y Fonesig Judith yn glir iawn ynghylch yr angen am ddull sy'n gydlynol, yn hytrach na dull sy'n dewis a dethol, o gyflawni newid system gyfan, ac rydym yn awyddus iawn i wneud hynny, oherwydd gwyddom ar hyn o bryd fod yna gyfres o reoliadau ac yn amlwg, y broblem yw bod yna fylchau, a bydd rhai pethau'n disgyn i'r bylchau hynny, fel bod dull cydlynol, system gyfan yn hanfodol er mwyn dileu'r bylchau hynny. Mae'r grŵp arbenigol yn deall hynny'n iawn. Maent wedi cadarnhau bod y system bresennol yn dameidiog, yn gymhleth ac yn aneffeithiol yn eu barn hwy. Byddwn yn ei thrawsnewid. Rhaid inni wneud hynny os ydym yn mynd i gadw pobl yn ddiogel rhag y mathau o danau a welsom yn Grenfell, neu unrhyw fath o dân yn wir.
O ran yr amser, credaf ei bod yn well—. Rhaid inni gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, felly nid ydym am wneud rhywbeth yn gyflym a'n bod yn methu un o'r bylchau wedyn. Felly, rydym am gael y cyfuniad cywir o gymryd digon o amser i sicrhau ein bod wedi cwmpasu dull system sy'n gydlynol a'r cyflymdra angenrheidiol. Felly, hoffwn allu dweud y gallwn ei wneud o fewn tymor y Cynulliad hwn—yn sicr byddem wrth ein bodd—ond mae'n bwysig iawn inni gael y system yn iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod wedi llenwi'r holl fylchau eraill sy'n bodoli yn y ddeddfwriaeth bresennol, a'n bod wedi archwilio pob un o'r posibiliadau. Felly, nid wyf am ymrwymo i hynny heblaw dweud fy mod yn rhannu'r uchelgais, ond pa un a allwn wneud hynny ai peidio, nid wyf yn gwybod. Ond mae'n bwysig iawn, ac nid wyf yn ymddiheuro, ein bod yn cael y cymhwysiad ymarferol yn iawn ac yna'n ymgorffori hynny yn y ddeddfwriaeth. Rydym am gael yr holl ymgynghoriadau priodol gyda'r gweithredwyr allweddol, wrth gwrs, gan gynnwys safbwyntiau a lleisiau preswylwyr. Rydym am fod yn glir, fel y dywedais, ynglŷn â natur yr adeiladau. Nid uchder yw'r unig broblem o reidrwydd. Ceir risgiau eraill i wahanol grwpiau. Felly, mae'n amlwg, onid yw, y bydd cartref nyrsio, er enghraifft, sydd ond yn ddau lawr, yn wynebu anawsterau penodol a gallai fod angen amddiffyniadau tân arbennig na fydd eu hangen o bosibl ar adeilad domestig preswyl cyffredin ac ati. Felly, mae'n amlwg fod yna faterion mwy cymhleth nag uchder yn unig yn codi, er bod uchder yn parhau i fod yn broblem.
Felly, fel y dywedais, rwy'n disgwyl cael yr adroddiad hwnnw yn y gwanwyn cynnar. Byddwn yn rhoi ystyriaeth drylwyr i'w argymhellion, ac rwy'n glir na fydd unrhyw oedi rhwng eu hadroddiad a'n hymateb na fydd ei angen i wneud yn siŵr fod ein tŷ mewn trefn os caf ddefnyddio'r ymadrodd.
Rwy'n hapus iawn i dderbyn argymhelliad David Melding fy mod yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau drwy'r pwyllgor ac ar lawr y Senedd, Ddirprwy Lywydd. Bydd fy swyddogion yn datblygu cynllun rhaglen a llinell amser wrth inni ymgynghori a gweithredu argymhellion tymor byr, tymor canolig a hirdymor i ddangos ein hymrwymiad.
Rwy'n glir iawn ynglŷn â phwysigrwydd y gwaith hwn i sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn. Mae fy mhortffolio yn cynnwys tai, cynllunio a chyfrifoldeb am bolisi tân, felly rwy'n ymrwymedig i ddefnyddio hyd a lled y portffolio i oruchwylio a gweithredu'r agenda bellgyrhaeddol, gan ddwyn ynghyd y gwahanol elfennau i sicrhau bod y system yng Nghymru yn glir ac yn effeithiol ac yn gwella diogelwch yn y ffordd iawn. Yn hynny o beth, hoffwn ailadrodd fy nghroeso i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'i ran yn llywio'r penderfyniadau allweddol a'r camau a gymerwn, ac fel y dywedais wrth gwrs, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd a wnawn. Diolch yn fawr.