Cwestiwn Brys: Wylfa Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 22 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:35, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Cododd Rhun y pwynt pwysig hefyd am y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y misoedd nesaf, cyn belled ag y mae model ariannu newydd posibl yn y cwestiwn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud bod yn rhaid i ni wneud popeth a allwn ar y cyd—yma, yn y gogledd, a Llywodraeth y DU, gan weithio gyda Horizon, i sicrhau bod y prosiect, os gall fynd rhagddo, yn mynd rhagddo gyda chyn lleied o oedi â phosibl. O ran y model ariannu newydd a'r gwaith sydd ar y gweill, rydym ni wedi cael ein sicrhau y bydd yr adolygiad a'r adroddiad yn cael eu cwblhau erbyn yr haf hwn. Defnyddiwyd y model sylfaen asedau rheoleiddiedig mewn rhaglenni seilwaith mawr eraill. Un y byddwn yn cyfeirio ato fel yr enghraifft orau efallai o'i ddefnydd yn ddiweddar yn y math hwn o faes yw'r Thames Tideway. Mae angen i ni gymryd rhan lawn mewn unrhyw sgyrsiau, trafodaethau ac ystyriaethau ynghylch y model ariannu posibl hwnnw, ac rwyf i wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu'n llawn â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

O ran cefnogaeth i economi'r gogledd ac, yn fwy cyffredinol, sector ynni morol Cymru, rydym ni'n credu fel Llywodraeth y dylai Llywodraeth y DU geisio datblygu trefn dariffau newydd sy'n cynorthwyo datblygiad y sector yn yr un ffordd, er enghraifft, ag y cynorthwywyd gwynt yn ei flynyddoedd ffurfiannol. Byddai hynny'n galluogi Cymru i arwain y maes o ran defnyddio technoleg ynni'r môr, a byddai'n sicrhau, wrth i ni geisio sicrhau diogelwch ynni, ein bod ni'n gallu dibynnu mwy ar ynni adnewyddadwy. Ac wrth gwrs, ar Ynys Môn ac yn y cyffiniau, ceir canolfannau rhagoriaeth presennol eisoes a chyfleusterau ymchwil yn ymwneud ag ynni'r môr.

O ran y swm a ddyrannwyd gennym i fargen twf gogledd Cymru, roeddwn i'n eglur iawn erioed ein bod ni, trwy gynorthwyo'r fargen twf drwy swm o £120 miliwn, ein bod ni'n darparu'r un faint o arian â Llywodraeth y DU. Ond roeddwn i hefyd yn eglur iawn mewn datganiadau a wnaed cyn y Nadolig ein bod ni'n credu y dylai Llywodraeth y DU gynyddu ei chyfraniad, ac, os gwnaiff hynny, y byddwn ninnau'n gwneud yr un fath. Ac rwy'n disgwyl am newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth y DU ynghylch y swm o arian y mae'n barod i'w gyfrannu at y cytundeb pwysig hwn. Ac mae hefyd yn werth cofio, yn ychwanegol at ein cyfraniad i fargen twf gogledd Cymru, ein bod ni hefyd yn cynllunio gwerth £600 miliwn o raglenni seilwaith ar draws y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod. Ac yn ogystal â hynny, bydd swm enfawr o arian yn cael ei fuddsoddi yn ein seilwaith cymdeithasol—mewn ysgolion newydd, canolfannau iechyd, cyfleusterau ysbyty, gan wneud yn siŵr unwaith eto ein bod ni'n cyfrannu at yr economi ranbarthol a'i chydnerthedd economaidd.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, wrth ystyried unrhyw adnoddau ychwanegol ar gyfer prosiectau newydd, yw na ddylem ni oddef galwad anghyd-drefnus am gymorth i raglenni yn y gogledd. Mae'n gwbl hanfodol bod y cynllun rhanbarthol, a bargen twf gogledd Cymru, yn ganolog o ran datblygu ôl troed ac ymyraethau economaidd y gogledd. Ac felly, byddwn ni'n galw ar unrhyw bartïon â diddordeb i sicrhau bod eu gwaith, eu cynigion, yn gydnaws â chais y fargen twf a'n cynllun rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le hefyd i alw am gynnydd i wariant ymchwil a datblygu yn y rhanbarth, a byddwn yn ehangu hynny i ddweud y dylem ni gael mwy o wariant yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, o fewn y fargen twf, ceir prosiect gwerth £20 miliwn ar gyfer mynediad at ynni clyfar, sy'n gysylltiedig â datblygiad Trawsfynydd fel canolfan ar gyfer defnyddio adweithyddion modiwlaidd bach. Hoffwn i Lywodraeth y DU archwilio nawr y potensial i neilltuo symiau yn y cytundebau sector ar gyfer niwclear ac awyrofod yn y rhanbarth ac yng Nghymru, i sicrhau ein bod ni ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol mewn dau faes arbenigedd y credaf ein bod ni'n enwog amdanynt ar draws y byd.

Ac yn olaf, o ran cyflogeion, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r bobl hynny sydd wedi gweithio mor ddiwyd dros gyfnod sylweddol o amser. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Horizon am y niferoedd a fydd yn cael eu cadw, ond mae gennym ni hanes cadarn o allu cynorthwyo pobl sy'n cael eu heffeithio gan benderfyniadau o'r fath, drwy ReAct a thrwy ymateb cydgysylltiedig ar draws nifer o asiantaethau'r Llywodraeth. Wrth gwrs, byddwn yn cynorthwyo unrhyw un sy'n cael ei effeithio yn yr un modd. Ond gallaf hefyd sicrhau'r Aelod ein bod ni'n ceisio mynd y tu hwnt i hyn, trwy ymgysylltu'n ddwys â busnesau ar draws y rhanbarth a oedd yn ehangu ac yn gwella sgiliau er mwyn manteisio ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn. Rydym ni'n ystyried pob ffordd bosibl o gynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith ac i fusnesau fanteisio arnynt yn ystod y cyfnod y mae'r prosiect hwn wedi'i oedi.