– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 22 Ionawr 2019.
Rwyf i wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.67, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ofyn y cwestiwn brys. Rhun ap Iorwerth.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am y cyhoeddiad ynglŷn ag Wylfa Newydd? (EAQ0004)
Diolch. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig mewn ymateb i'r cyhoeddiad ar 17 Ionawr, ac ers hynny rwyf i wedi bod yn siarad â Hitachi, â Horizon Nuclear Power, Llywodraeth y DU, rhanddeiliaid lleol, ac roeddwn i hefyd yn bresennol yng nghyfarfod brys Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ddoe, a gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni'n gwneud popeth posibl wrth i'r sefyllfa hon sy'n datblygu fynd rhagddi.
Diolch yn fawr iawn. Mi oeddem ni, dwi'n meddwl, yn disgwyl y cyhoeddiad yma ers rhai misoedd. Dwi'n meddwl y gallem ni ofyn cwestiynau ynglŷn â beth wnaeth Llywodraeth Prydain yn yr amser yna i geisio achub y cytundeb, ond, o ran Llywodraeth Cymru, mae'n werth gofyn heddiw, o bosib, pa gamau, o ystyried ein bod ni'n disgwyl y cyhoeddiad, fu Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i lunio camau gweithredu, cynllun gweithredu, ar gyfer cyhoeddiad o'r math yma. Tybed a allwch chi amlinellu y cynlluniau hynny.
O ran y camau nesaf, mae gweld beth all gael ei wneud i gadw'r cynllun presennol yn fyw yn rhan amlwg o'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i fi ddweud fy mod i'n ofni bod Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth Prydain yn bod yn anghyfrifol yn sôn am y posibilrwydd o adfer y prosiect o fewn blwyddyn neu ddwy, neu dair. Ond os mai'r bwriad ydy trio creu model ariannu newydd, a gaf i ofyn pa rôl mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ei chwarae yn y rôl honno, ar y cyd â phartneriaid eraill yn lleol?
Ond, beth bynnag sy'n gallu cael ei wneud o ran adfer y cynllun penodol yma, mae'n amlwg bod angen buddsoddiad rŵan, yn ychwanegol, i wneud i fyny am yr hyn sy'n cael ei golli, o leiaf yn y tymor byr. Mae gwleidyddiaeth niwclear yn un peth—rwy'n deall y dadleuon o blaid ac yn erbyn niwclear—ond fel cyfle economaidd, wrth gwrs, mae'r cyhoeddiad yma wedi bod yn ergyd i genedlaethau o bobl ifanc yn Ynys Môn, ac maen nhw angen gweld rŵan bod popeth yn cael ei wneud i fuddsoddi yn eu dyfodol nhw. Felly, a wnaiff y Gweinidog, sydd wedi rhoi arwyddion o hyn yn barod, wneud ymrwymiad i fuddsoddi rhagor rŵan yng nghynllun twf y gogledd? Mae £120 o filiynau wedi'i glustnodi yn barod, yn ogystal â £120 o filiynau gan Lywodraeth Prydain. Mi fydd angen cynyddu y swm hwnnw yn sylweddol rŵan er mwyn buddsoddi mewn cynlluniau adfywio a datblygu economaidd ym Môn, yn enwedig yng ngogledd yr ynys ac ardal Amlwch. Mae angen symud i agor lein Amlwch. Mae angen sicrhau cyllid i wneud y cyswllt trydan i gynllun parth ynni Morlais. Mae angen cefnogi buddsoddiad Minesto. Felly, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sicrwydd yn hynny o beth gan Lywodraeth Cymru.
Ac ymhellach, a gawn ni sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwthio ar Lywodraeth Prydain i gynyddu eu cyfraniad nhw at fargen twf y gogledd? Dyma brosiect arall i Gymru sydd wedi methu â chael ei ddelifro ganddyn nhw. Mae'n rhaid iddyn nhw ddangos ymrwymiad drwy fuddsoddi pellach, yn cynnwys, o bosib, drwy gyfeirio arian ymchwil sylweddol addysg uwch i Brifysgol Bangor. Mae Cymru yn methu a chael ei siâr o arian cyllid ymchwil fel ag y mae.
Ac yn olaf, a gaf i sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pob cymorth i'r staff, y rheini sy'n gweithio efo Horizon yn Wylfa ar hyn o bryd, sydd, wrth gwrs, wedi cael llythyrau rhybuddio am ddiswyddo yr wythnos diwethaf? Pobl dda o'r gweithlu lleol fydd angen cefnogaeth rŵan.
A gaf i ddiolch i'r Aelod lleol am y pwyntiau pwysig iawn a wnaeth a'r cwestiynau a godwyd ganddo?
O ran cynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn, wel, wrth gwrs, roeddwn i eisoes wedi rhoi caniatâd i ddatblygu cynllun rhanbarthol ar gyfer y gogledd, ochr yn ochr â datblygu cynlluniau rhanbarthol ar gyfer y ddau ranbarth arall. Mae'r cynllun hwnnw wrthi'n cael ei ddatblygu wrth i ni gyfarfod yma heddiw, a bydd, wrth gwrs, yn cymryd y sefyllfa yr ydym ni ynddi i ystyriaeth a'r gwahanol sefyllfaoedd a allai ddod i'r amlwg yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Ond, ochr yn ochr â'r cynllun rhanbarthol, wrth gwrs, mae bargen twf gogledd Cymru, â'r 16 o brosiectau sydd wedi eu cynnwys ynddo. Mae rhai yn sensitif i brosiect Wylfa Newydd, ond, wrth gwrs, mae eraill nad ydynt. Ddoe, yn ystod cyfarfod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, trafodwyd gennym sut y gellid rhoi blaenoriaeth i nifer o'r prosiectau, a'r prosiectau hynny sydd o bosibl y mwyaf gweddnewidiol i'r rhanbarth, ac, yn wir, sut y gellid eu cyflymu a'u hehangu o bosibl. Os caf i ddim ond nodi un fel enghraifft, rwy'n credu bod gan y prosiect digidol botensial enfawr ac y gellid ei ehangu a'i ddarparu yn gyflym iawn.
Cododd Rhun y pwynt pwysig hefyd am y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y misoedd nesaf, cyn belled ag y mae model ariannu newydd posibl yn y cwestiwn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud bod yn rhaid i ni wneud popeth a allwn ar y cyd—yma, yn y gogledd, a Llywodraeth y DU, gan weithio gyda Horizon, i sicrhau bod y prosiect, os gall fynd rhagddo, yn mynd rhagddo gyda chyn lleied o oedi â phosibl. O ran y model ariannu newydd a'r gwaith sydd ar y gweill, rydym ni wedi cael ein sicrhau y bydd yr adolygiad a'r adroddiad yn cael eu cwblhau erbyn yr haf hwn. Defnyddiwyd y model sylfaen asedau rheoleiddiedig mewn rhaglenni seilwaith mawr eraill. Un y byddwn yn cyfeirio ato fel yr enghraifft orau efallai o'i ddefnydd yn ddiweddar yn y math hwn o faes yw'r Thames Tideway. Mae angen i ni gymryd rhan lawn mewn unrhyw sgyrsiau, trafodaethau ac ystyriaethau ynghylch y model ariannu posibl hwnnw, ac rwyf i wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu'n llawn â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
O ran cefnogaeth i economi'r gogledd ac, yn fwy cyffredinol, sector ynni morol Cymru, rydym ni'n credu fel Llywodraeth y dylai Llywodraeth y DU geisio datblygu trefn dariffau newydd sy'n cynorthwyo datblygiad y sector yn yr un ffordd, er enghraifft, ag y cynorthwywyd gwynt yn ei flynyddoedd ffurfiannol. Byddai hynny'n galluogi Cymru i arwain y maes o ran defnyddio technoleg ynni'r môr, a byddai'n sicrhau, wrth i ni geisio sicrhau diogelwch ynni, ein bod ni'n gallu dibynnu mwy ar ynni adnewyddadwy. Ac wrth gwrs, ar Ynys Môn ac yn y cyffiniau, ceir canolfannau rhagoriaeth presennol eisoes a chyfleusterau ymchwil yn ymwneud ag ynni'r môr.
O ran y swm a ddyrannwyd gennym i fargen twf gogledd Cymru, roeddwn i'n eglur iawn erioed ein bod ni, trwy gynorthwyo'r fargen twf drwy swm o £120 miliwn, ein bod ni'n darparu'r un faint o arian â Llywodraeth y DU. Ond roeddwn i hefyd yn eglur iawn mewn datganiadau a wnaed cyn y Nadolig ein bod ni'n credu y dylai Llywodraeth y DU gynyddu ei chyfraniad, ac, os gwnaiff hynny, y byddwn ninnau'n gwneud yr un fath. Ac rwy'n disgwyl am newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth y DU ynghylch y swm o arian y mae'n barod i'w gyfrannu at y cytundeb pwysig hwn. Ac mae hefyd yn werth cofio, yn ychwanegol at ein cyfraniad i fargen twf gogledd Cymru, ein bod ni hefyd yn cynllunio gwerth £600 miliwn o raglenni seilwaith ar draws y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod. Ac yn ogystal â hynny, bydd swm enfawr o arian yn cael ei fuddsoddi yn ein seilwaith cymdeithasol—mewn ysgolion newydd, canolfannau iechyd, cyfleusterau ysbyty, gan wneud yn siŵr unwaith eto ein bod ni'n cyfrannu at yr economi ranbarthol a'i chydnerthedd economaidd.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, wrth ystyried unrhyw adnoddau ychwanegol ar gyfer prosiectau newydd, yw na ddylem ni oddef galwad anghyd-drefnus am gymorth i raglenni yn y gogledd. Mae'n gwbl hanfodol bod y cynllun rhanbarthol, a bargen twf gogledd Cymru, yn ganolog o ran datblygu ôl troed ac ymyraethau economaidd y gogledd. Ac felly, byddwn ni'n galw ar unrhyw bartïon â diddordeb i sicrhau bod eu gwaith, eu cynigion, yn gydnaws â chais y fargen twf a'n cynllun rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le hefyd i alw am gynnydd i wariant ymchwil a datblygu yn y rhanbarth, a byddwn yn ehangu hynny i ddweud y dylem ni gael mwy o wariant yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, o fewn y fargen twf, ceir prosiect gwerth £20 miliwn ar gyfer mynediad at ynni clyfar, sy'n gysylltiedig â datblygiad Trawsfynydd fel canolfan ar gyfer defnyddio adweithyddion modiwlaidd bach. Hoffwn i Lywodraeth y DU archwilio nawr y potensial i neilltuo symiau yn y cytundebau sector ar gyfer niwclear ac awyrofod yn y rhanbarth ac yng Nghymru, i sicrhau ein bod ni ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol mewn dau faes arbenigedd y credaf ein bod ni'n enwog amdanynt ar draws y byd.
Ac yn olaf, o ran cyflogeion, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r bobl hynny sydd wedi gweithio mor ddiwyd dros gyfnod sylweddol o amser. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Horizon am y niferoedd a fydd yn cael eu cadw, ond mae gennym ni hanes cadarn o allu cynorthwyo pobl sy'n cael eu heffeithio gan benderfyniadau o'r fath, drwy ReAct a thrwy ymateb cydgysylltiedig ar draws nifer o asiantaethau'r Llywodraeth. Wrth gwrs, byddwn yn cynorthwyo unrhyw un sy'n cael ei effeithio yn yr un modd. Ond gallaf hefyd sicrhau'r Aelod ein bod ni'n ceisio mynd y tu hwnt i hyn, trwy ymgysylltu'n ddwys â busnesau ar draws y rhanbarth a oedd yn ehangu ac yn gwella sgiliau er mwyn manteisio ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn. Rydym ni'n ystyried pob ffordd bosibl o gynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith ac i fusnesau fanteisio arnynt yn ystod y cyfnod y mae'r prosiect hwn wedi'i oedi.
A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r Aelod dros Ynys Môn am godi'r cwestiwn brys pwysig iawn hwn, a hefyd i'r Gweinidog am ei ymateb? A gaf i hefyd ychwanegu bod fy nghydymdeimlad gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad diweddar hwn?
Rwyf wir yn gobeithio y gallwn ni ddod o hyd i ateb o ran y mater hwn, oherwydd mae'r bobl leol a'r cymunedau lleol ar yr ynys, ond hefyd y cymunedau ar draws y gogledd i gyd, wedi bod yn gweithio'n arbennig o galed i gefnogi a chynllunio ar gyfer y prosiect hwn ers bron i 10 mlynedd, ac mae hynny oherwydd bod manteision eglur iddo: y miloedd o swyddi adeiladu, y cannoedd o swyddi gweithredol a pheirianyddol a'r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau medrus o ansawdd uchel. Felly, rwy'n croesawu cynnig y Gweinidog o gymorth i'r teuluoedd hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn.
Dirprwy Lywydd, mae gen i dri phwynt i'r Gweinidog. Yn gyntaf, mae'n amlwg i mi yn dilyn y cyhoeddiad hwn, a'r cyhoeddiad blaenorol ynghylch y morlyn llanw, bod angen gwell mecanwaith ar waith arnom ar gyfer ariannu prosiectau adeiladu mawr. Yn ail, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi bod angen i ninnau hefyd ddysgu o'r gwersi a rhoi ein cefnogaeth lawn i brosiectau eraill yn y gogledd, yn union fel canolfan ehangu logisteg Heathrow, sy'n brosiect parhaus? Nawr, byddai sicrhau'r buddsoddiadau hyn yn dod â swyddi a ffyniant i'm hetholwyr i, ond hefyd i'r bobl hynny ar draws arfordir y gogledd. Ac yn olaf, Gweinidog, mae pobl yn y gogledd ac ar draws y wlad yn colli ffydd mewn prosiectau mawr nad ydynt yn cael eu cyflawni, ac, fel y saif pethau, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ein siomi. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n bryd i brosiectau fel hyn gael eu cyflawni fel y gall pobl Cymru weld newid gwirioneddol yn eu cymunedau a chyfleoedd eglur i genedlaethau'r dyfodol?
A gaf i ddiolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am ei bwyntiau pwysig a'r cwestiynau y mae wedi eu codi? Wrth gwrs, mae'n cynrychioli ardal o Gymru sy'n rhan annatod o'r arc niwclear sy'n ymestyn o ogledd-orllewin Cymru yr holl ffordd i ogledd-orllewin Lloegr, ac er y bydd pwyslais y gweithgarwch wedi ei ganolbwyntio, wrth gwrs, yn Ynys Môn, rwy'n ymwybodol bod llawer o bobl sy'n gweithio ar raglen Wylfa Newydd yn dod o rannau eraill o ogledd Cymru. Mae hwn wir yn brosiect o arwyddocâd rhanbarthol ac, yn wir, cenedlaethol o ran y sylfaen gyflogaeth. Yn wir, yn y sector niwclear yn ei chyfanrwydd, mae cymaint o alw am bobl fedrus fel bod cyflogeion yn fodlon teithio yn eang i gael gwaith. A dweud y gwir, mae un o'm ffrindiau gorau, sy'n byw ar gyrion yr Wyddgrug, yn teithio i Drawsfynydd bob dydd ar gyfer y prosiect datgomisiynu yno. Felly, mae gweithgareddau cysylltiedig â niwclear yn y rhanbarth o fudd enfawr i Gymru gyfan.
Credaf ei bod yn hanfodol bod gwaith ar y model ariannu amgen yn cael ei ddatblygu yn gyflym a, chyda chydweithrediad swyddogion Llywodraeth Cymru, rwyf i hefyd wedi addo i ddarparu nodyn briffio a diweddariadau rheolaidd i gydweithwyr mewn llywodraeth leol yn y gogledd. Rwy'n credu bod yr Aelod hefyd yn codi'r pwynt pwysig o chwilio am gyfleoedd eraill ar gyfer cyflogaeth yn y rhanbarth a ledled Cymru. Rwy'n credu y gallai'r ganolfan logisteg yn Heathrow y mae'r Aelod yn cyfeirio ati fod yn brosiect gweddnewidiol yng ngwaith Tata, ac edrychaf ymlaen at gael diweddariad ar y gwaith a wnaed yn ddiweddar i benderfynu lle y dylid lleoli'r ganolfan.
Ac, yn olaf, cyn belled ag y mae prosiectau seilwaith mawr yn y cwestiwn a buddsoddiadau mawr yn y cwestiwn, ni wnaf ailadrodd y pwyntiau y mae Aelodau eisoes wedi eu gwneud hyd yn hyn ynghylch siomiant i Gymru a methiannau i Gymru, ond byddwn yn dweud, mewn gwrthgyferbyniad, bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni. Efallai ei fod yn eironi trist iawn, ar y diwrnod y clywsom ni am y methiant i fwrw ymlaen â Wylfa Newydd ar sail y model ariannu presennol, fy mod i yn y gogledd yn lansio dechrau'r gwaith ar ffordd osgoi newydd gwerth £135 miliwn Caernarfon i Bontnewydd. Hefyd, rydym ni'n darparu'r fasnachfraint gwerth £5 biliwn, ac mae'r ganolfan gonfensiwn ryngwladol ar fin cael ei chwblhau. Rydym ni wedi gwario mwy nag erioed o ran seilwaith yn y rhanbarth lle disgwyliwyd i Wylfa Newydd gael ei leoli, a lle rwy'n gobeithio y bydd yn dal i gael ei adeiladu.
Gweinidog, diolch am eich sylwadau y prynhawn yma, a dydd Mercher diwethaf hefyd, ac yn enwedig dydd Mercher diwethaf pryd y gwnaethoch chi gymeradwyo'n llawn cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ynni niwclear, a oedd yn amlwg yn bryder i rai pobl o ystyried y gystadleuaeth arweinyddiaeth ddiweddar a gynhaliwyd o fewn y Blaid Lafur. Ond yr hyn y mae'n bwysig ei ddeall, fel y mae Horizon a Hitachi wedi ei nodi, yw bod hyn yn fater o'r model ariannu sydd ar gael i adeiladu'r prosiect hwn yn y pen draw. Rydym ni'n cael ein harwain i gredu bod Llywodraeth y DU wedi cynnig pris taro o £75 y megawat. Mae'n amlwg nad yw'n ymddangos bod hynny wedi bod yn ddigon fel y gallai Hitachi bwyso'r botwm gwyrdd ar gyfer y prosiect penodol hwn. Beth yw eich asesiad chi o ba bris taro sydd ei angen i ganiatáu i'r prosiect hwn fynd rhagddo? Ac, yn y pen draw, yr hyn sy'n bwysig iawn i'r cymunedau yn y gogledd, ac yn enwedig ar Ynys Môn, yw nad yw trafodaethau yn parhau am gyfnod amhenodol ond bod y trafodaethau hynny yn cael eu cwblhau.
Pryd ydych chi'n credu y bydd y Llywodraethau ar ddau ben yr M4 mewn sefyllfa i wneud penderfyniad rhesymol ar ddatblygiad y safle hwn fel y gellir sicrhau partneriaid eraill os nad yw Hitachi yn gallu datblygu'r safle hwn? Oherwydd dyma'r safle gorau i ddatblygu cyfle niwclear yn Ewrop, nid yn unig yn y DU, ac mae'n hanfodol bwysig bod Hitachi fel cwmni, os bydd yn teimlo na all barhau gyda'r prosiect hwn, yn cael ei ddisodli gyda gweledigaeth amgen sy'n gallu datblygu'r cyfleoedd y mae llawer iawn o Aelodau o gwmpas y Siambr hon wedi eu nodi ar gyfer swyddi a ffyniant ar Ynys Môn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Ac, wrth gwrs, y model ariannu sydd wedi torri. Nid wyf i'n meddwl mai fy lle i fyddai nodi'r pris taro y byddai ei angen i fwrw ymlaen â hyn, gan fod trafodaethau wedi eu cynnal yn gyfrinachol, er bod y ffigurau, rwy'n deall, allan yn gyhoeddus erbyn hyn. Yr hyn sydd ei angen yw gwerthusiad o fodel ariannu amgen i gael ei gynnal cyn gynted â phosibl, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, o'r safbwynt y bydd amynedd unigolion a'r ffydd sydd gan unigolion yn y rhanbarth yn cael eu herio os na chaiff y sefyllfa hon ei datrys y naill ffordd neu'r llall cyn gynted â phosibl.
Ac rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig dweud na ellir cael dim mwy o obeithion gwag, camgychwyniadau, oherwydd mae'n cymryd llawer iawn o ewyllys a buddsoddiad gan fusnesau a phobl i baratoi ar gyfer gweithgarwch ar y math o raddfa a welsom ni yn y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf. Os a phan—. Ac rwy'n gobeithio y bydd y prosiect yn mynd rhagddo. Pan fydd yn mynd rhagddo, rwyf yn gobeithio y bydd busnesau ac unigolion ar draws y rhanbarth yn manteisio'n llawn arno. Ond, er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni gynnal y momentwm a'r tyniant a ddatblygwyd yn ddiweddar, ac felly mae angen ymyrraeth bellach gan Lywodraeth o ran y Llywodraeth yn gallu sicrhau ei bod yn gwneud popeth posibl i ddod â'r prosiect hwn i Ynys Môn, ei bod yn egluro yn gyhoeddus iawn y model ariannu a sut y bydd yn gweithio a pha un a yw'n ymarferol cyn gynted â phosibl. Hoffem gael sicrwydd ehangach hefyd ynghylch goblygiadau ehangach i economi ranbarthol y gogledd a sut, yng ngoleuni'r penderfyniad, y gellid cyfeirio cymorth at feysydd eraill o weithgarwch economaidd, er enghraifft, fel yr wyf i wedi sôn eisoes, yr adweithyddion modiwlar bach a seilwaith digidol.
Credaf ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n gwybod beth fydd Llywodraeth y DU yn ei wneud i gynorthwyo datblygiad sgiliau a'r gadwyn gyflenwi yn ystod y cyfnod oedi. Yn ogystal â bod yn bwysig i'r gogledd—mae'n bwysig i Gymru gyfan ac, yn wir, mae'n lledaenu ymhellach: mae'n bwysig i'r arc niwclear gyfan ac i ddiogelwch ynni Prydain.
Diolch. Mae gen i ddau siaradwr arall, ac os y gwnân nhw addo i mi mai dim ond gofyn cwestiynau y byddan nhw, byddaf yn galw ar y ddau ohonyn nhw. Mark Isherwood.
Diolch. [Chwerthin.] Diolch. Cwestiwn: beth wnewch chi ei ddweud nawr i dynnu yn ôl eich datganiad yr wythnos diwethaf bod Prif Weinidog y DU wedi bod yn Japan yr wythnos flaenorol a ddim wedi codi hyn, pryd yr oedd Prif Weinidog Japan yn Llundain mewn gwirionedd, ac y cadarnhawyd ganddi yn Nhŷ'r Cyffredin ei bod hi wedi, fel y gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a gadarnhaodd ei fod yntau hefyd wedi cyfarfod â hi yn Nhŷ'r Cyffredin? Atebodd gwestiwn i Ian Lucas yn cadarnhau ei bod hi wedi. Ac, o ystyried bod hyn yn cynyddu'r angen am fargen twf, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael, neu y byddwch chi'n eu cael, gydag Ymchwil ac Arloesi yn y DU, y corff sydd â chyllid o £7 biliwn ar gyfer cyllideb gyfunol at ddibenion fel hyn, yr wyf i'n deall y gallai fod yn hygyrch i gynorthwyo'r adweithyddion modiwlaidd bach ac adweithyddion modiwlaidd uwch i helpu i lenwi unrhyw fwlch sy'n cael ei greu ac i ysgogi Trawsfynydd a gogledd-orllewin Cymru fel canolfan Ewropeaidd, ac o bosibl fel un o ganolfannau blaenllaw'r byd, ar gyfer datblygu adweithyddion modiwlar bach ac adweithyddion modiwlar uwch?
Edrychwch, dylwn i ddweud ar y cychwyn na fydd datblygu adweithyddion modiwlar bach yn gwneud iawn am y golled bosibl o 9,000 o swyddi ar draws y gogledd a gweddill Cymru. Yn syml, ni fydd yn gwneud hynny. Bydd yn cyfrannu at lenwi'r bwlch, ond nid yw un prosiect yn unig, mae arnaf i ofn, yn fwled arian. Wrth gwrs, mae Innovate UK wedi chwarae rhan fawr mewn gweithgareddau yma yng Nghymru yn ddiweddar. Rydym ni'n chwilio am bob un cyfle i gael gafael ar gyllid cystadleuol ar gyfer ymchwil a datblygu ac arloesi yng Nghymru, ac, fel y mae'r Aelod yn gwbl ymwybodol, rwy'n siŵr, rydym ni'n defnyddio swyddfeydd y Llywodraeth yn Llundain erbyn hyn fel yn ffenestr siop ar gyfer arloesedd Cymru er mwyn tynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn ein sefydliadau ymchwil.
Ac o ran y trafodaethau a gynhaliwyd neu na chynhaliwyd rhwng Prif Weinidog Japan a Phrif Weinidog y DU, mae'n ymddangos bod datganiadau croes i'w gilydd yn cael eu gwneud. Er mwyn egluro'n union yr hyn a ddywedwyd, efallai y byddai'n ddefnyddiol gwybod beth oedd ymateb Prif Weinidog Japan i ymholiadau tybiedig gan Theresa May.
A gaf i ofyn pa oleuni y gallai hyn ei daflu ar y cyfleoedd ar gyfer datblygiadau ynni eraill yn y gogledd, a morlyn llanw Gogledd Cymru yn arbennig, prosiect a allai, wrth gwrs, greu hyd at 20,000 o swyddi, sydd â'r potensial i wneud cyfraniad sylweddol at anghenion ynni Cymru a'r DU ehangach, ac sydd, yn ôl y cwmni sydd wedi cynnig y prosiect hwn, â diddordeb sylweddol gan fuddsoddwyr ledled y byd ac a all ddarparu'r ynni hwn am bris fforddiadwy? Mae'n ymddangos i mi fod cyfle yma y gallem ni o bosibl ei ystyried fel dewis arall yn hytrach na Wylfa, o gofio iddo gael ei roi o'r neilltu am y tro, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa waith y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud gyda Llywodraeth y DU er mwyn gwneud cynnydd ar y cynllun amgen hwn, a fyddai, wrth gwrs, hefyd yn dod â manteision ychwanegol o ran diogelwch rhag llifogydd ar gyfer arfordir y gogledd.
Ie. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Orllewin Clwyd. Rwy'n credu ei bod hi yr un mor bwysig i ailddatgan pwysigrwydd dod o hyd i fodel ariannu ffafriol ar gyfer sector ynni'r môr os ydym ni'n mynd i fwrw ymlaen ag unrhyw un o'r cynigion a roddwyd ar y bwrdd, boed hynny yn ardal bae Abertawe neu yn y gogledd. Rwy'n ymwybodol o nifer o gynigion ar gyfer morlynnoedd llanw ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y caiff y rhain eu hymchwilio ymhellach yn yr uwchgynhadledd ynni'r môr sy'n cael ei chynnal yn Abertawe yr wythnos nesaf, sydd, yng ngoleuni'r penderfyniad gan Hitachi, ag arwyddocâd ychwanegol erbyn hyn rwy'n credu.
Rwy'n credu mai'r hyn y mae hefyd yn bwysig ei ddweud am forlynnoedd llanw yw bod yn rhaid i ni archwilio nid yn unig eu potensial i greu swyddi a chreu datblygiad economaidd ac nid yn unig ystyried eu swyddogaeth o ran darparu ynni glân, adnewyddadwy, ond hefyd eu swyddogaeth o ran adeiladu lleoedd a diffinio lleoedd, o bosibl. Rwy'n credu yr hoffai pob un ohonom ni yn y Siambr hon—wel, y rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon, yn sicr—yn hoffi i Gymru gael ei chydnabod fel y wlad ynni adnewyddadwy. Er mwyn cyrraedd y pwynt hwnnw, nid wyf i'n credu y dylem ni—ac mae risg bob amser y bydd hyn yn digwydd—roi un rhanbarth mewn cystadleuaeth yn erbyn rhanbarth arall yng Nghymru neu un prosiect yn erbyn y llall. Credaf ei bod hi'n deg i ddweud yr hoffai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon weld sawl morlyn llanw ledled Cymru, ac yr hoffai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon weld amrywiaeth o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cael eu defnyddio mor eang a chyn belled â phosibl.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Diolch.