Part of the debate – Senedd Cymru am 7:37 pm ar 22 Ionawr 2019.
Diolch i chi am y cyfraniad yna. Rwyf yn aml yn cytuno i raddau helaeth â David Melding, ac rwyf yn gwerthfawrogi'r teimladau a fynegodd yn y fan yna. Rwyf i, yn un, wrth fy modd ein bod wedi diddymu'r hawl i brynu, ac mae'n destun cryn drafodaeth rhyngom, ond rwyf yn deall ei deimladau ar hynny.
O'n safbwynt ni, roedd y Ddeddf yn angenrheidiol i sicrhau diogelu ein stoc hanfodol o dai cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf am dai. Fel y dywedodd ef, mae'r Ddeddf yn caniatáu ar gyfer cyfnod o flwyddyn i denantiaid cymwys arfer eu hawliau. Rydym yn teimlo ei fod yn gyfnod teg a rhesymol o amser i denantiaid benderfynu pa un a ydyn nhw'n dymuno arfer eu hawliau, ac i gael cyngor cyfreithiol ac ariannol priodol.
Mae'r diwygiadau a'r darpariaethau arbed y bydd y rheoliadau yn eu hachosi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau eglurder y gyfraith, fel y mae David Melding wedi ei gydnabod, ac felly, Llywydd, rwy'n annog pawb i gefnogi'r rheoliadau.