Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 22 Ionawr 2019.
Wel, Dirprwy Lywydd, mae bron yn amhosibl dychmygu'r trallod a achosir i unrhyw unigolyn o dan yr amgylchiadau y mae'r Aelod newydd eu hamlinellu. Mae hi'n iawn, wrth gwrs, bod y newid i'r gyfraith a geisir yn rhywbeth mai dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r awdurdod i'w wneud. Pe byddai gan yr Aelod wybodaeth y byddai'n bosibl ei rhannu â'm swyddfa i er mwyn darparu rhywfaint o gefndir ychwanegol i'r achos a godwyd ganddi ar y llawr y prynhawn yma, byddwn yn fodlon iawn i ystyried hynny yn y cyd-destun a godwyd ganddi.