Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 22 Ionawr 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym ni'n parhau i weithio gyda Chyngor Sir Fynwy ar asesiad o ddewisiadau i wella llif y traffig ar hyd yr A48 a'r A466 drwy Gas-gwent. Gan fod hwn yn llwybr trawsffiniol allweddol, mae nifer o randdeiliaid yn rhan o'r trafodaethau hyn, gan gynnwys Cyngor Sir Swydd Gaerloyw.