Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 22 Ionawr 2019.
O ran y mater radioisotopau, mae hyn mewn gwirionedd, fel mae'n dweud, yn berygl difrifol posib. Nid bod unrhyw un yn mynd i ddymuno peidio â'u gwerthu i GIG Cymru o'u gwirfodd mwyach, ond mae yna, fel y tynnodd sylw atynt yn briodol, faterion ymarferol—y gellir eu goresgyn, ond ar gost sylweddol—ac wrth gwrs mae materion cyfreithiol. Nawr, mae'r Athro Wyn Owen wedi ein rhybuddio bod perygl, os nad oes unrhyw gytundeb, y bydd cyflenwyr naill ai'n penderfynu y byddan nhw'n parhau i gyflenwi'r DU nes y dywedir wrthyn nhw am beidio â gwneud hynny, a fyddai'n iawn yn y tymor byr, neu ni fyddan nhw'n cyflenwi hyd nes y cânt gadarnhad cyfreithiol y caniateir iddyn nhw wneud hynny. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi ychydig mwy o fanylion am y trafodaethau a gafodd gyda'r bobl berthnasol yn Llywodraeth y DU i sicrhau y caiff y sefyllfa gyfreithiol hon ei hegluro os bydd Brexit heb gytundeb. Ac rwy'n ei annog i ystyried, o gofio cyflwr Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, yr ymddengys na all drefnu i gael ei hun allan o fag papur gwlyb—rwy'n gofyn iddo ystyried bod yn barod i ymdrin yn uniongyrchol â Brwsel ar y mater penodol hwn. Yn amlwg, mae angen ateb arnom ni ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, ond, os nad yw hynny'n ymddangos yn debygol, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi na allwn fforddio i adael y bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn a GIG Cymru heb y cyflenwadau angenrheidiol.
Mae'r Gweinidog yn sôn yn ei ddatganiad am y gwaith sy'n mynd rhagddo—yr ymchwil—i edrych ar gyfansoddiad y gweithlu gofal plant a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd hyn yn ddefnyddiol iawn, ond rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi ychydig o fanylion inni y prynhawn yma am amserlen y gwaith hwnnw, oherwydd, yn amlwg, mae'n fater o frys canfod lle mae'r bylchau hynny'n debygol o fod. Ac, os yn y pen draw y bydd gennym broblemau yn y gweithlu gofal cymdeithasol, bydd hynny'n effeithio'n anochel, wrth gwrs, ar ofal iechyd, oherwydd ni fyddwn yn gallu rhyddhau pobl o ysbytai.
O ran y pwyntiau a wnaiff ynglŷn â meddyginiaethau, ac mae'n siarad ynghylch bod yn ddibynnol yn y bôn ar waith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—ac nid wyf yn obeithiol, nid wyf yn ffyddiog, ynghylch hynny, er y sylweddolaf, ar rai lefelau, fod angen hynny—tybed a all y Gweinidog rannu â ni y prynhawn yma, neu efallai y gall ysgrifennu at yr Aelodau maes o law, unrhyw fanylion ynghylch meddyginiaethau yr effeithir arnyn nhw, fwy na thebyg, ac a yw'n fodlon ai peidio, fel y mae pethau, gyda'r sicrwydd y mae gweithgynhyrchwyr yn ei roi. Yn yr un modd, o ran dyfeisiau meddygol a nwyddau traul, yn natganiad y Gweinidog dywedodd y bydd yn gwneud rhagor o waith mewn meysydd sy'n achosi pryder. Tybed a yw mewn sefyllfa i roi unrhyw awgrym cynnar inni heddiw o'r hyn y gallai'r meysydd pryder hynny fod, a pha gynlluniau wrth gefn sydd ar waith.
Nawr, mae'r Gweinidog yn cyfeirio, yn briodol, at adroddiad da iawn Iechyd Cyhoeddus Cymru a ddaeth i law lawer ohonom ni heddiw neu ddoe. Rwy'n ei gymeradwyo fel darn gwerthfawr o waith, ond hoffwn anghytuno ag un agwedd. Un o ganlyniadau cadarnhaol posib Brexit heb gytundeb sy'n cael ei amlygu yw gostyngiad posib yn y defnydd o alcohol. Wel, o'm rhan i, credaf fod Brexit heb gytundeb yn fwy tebygol o fy nghymell i yfed, a bod yn onest, os gwnewch chi faddau fy ngwamalu, Dirprwy Lywydd.
Ond hoffwn i dynnu sylw'r Gweinidog at rai o'r argymhellion. Mae naw yn yr adroddiad—meysydd y mae angen rhagor o waith arnyn nhw. Mae argymhelliad 7 yn dweud bod angen ymchwil bellach i effaith Brexit ar iechyd meddwl a lles, cydnerthedd cymunedol, gyda phwyslais arbennig ar blant ac oedolion ifanc, a ffermwyr a chymunedau gwledig, ardaloedd y porthladdoedd, a phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. A all y Gweinidog ddweud a yw eto wedi llwyddo i gael, neu a yw ei swyddogion eto wedi llwyddo i gael unrhyw drafodaethau gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru am natur yr ymchwil honno a phwy ddylai wneud hynny? Ac, yn yr un modd, o ran argymhelliad 9, lle mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod diffyg profiad a sgiliau yn y gweithlu iechyd cyhoeddus ar hyn o bryd i ddylanwadu a chyfrannu at gytundebau masnach. Maen nhw'n dweud y dylai system iechyd y cyhoedd ystyried sut i feithrin gwybodaeth, sgiliau a gallu i sicrhau bod iechyd a lles yn cael eu hystyried wrth galon prosesau o'r fath. Unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni naill ai beth sydd eisoes wedi ei wneud i ddechrau ymateb i'r argymhelliad hwnnw, neu beth arall fydd yn ei wneud, oherwydd ymddengys y gallai hynny fod yn hollbwysig.
Yn olaf, mae argymhelliad 3 yn ymwneud ag arweinyddiaeth, a'r argymhelliad yw bod angen i'r arweinyddiaeth ar holl faterion Brexit barhau i roi cyfarwyddyd cyffredinol o ran ymateb Cymru. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ein sicrhau y bydd yn parhau i fod â rhan glir a phersonol iawn o ran arweinyddiaeth yn hyn o beth, gyda'r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ei ddatganiad yn dangos y byddwn ni'n parhau, ar hyn o bryd, i ddibynu i raddau helaeth iawn ar drefniadau a chynlluniau'r DU. O gofio rhai o'r pethau y mae'r Gweinidog wedi eu dweud yn y gorffennol, rwy'n synnu ei fod ychydig yn fwy gobeithiol na minnau y bydd trefniadau a'r cynlluniau hyn o eiddo'r DU yn cyflawni rhywbeth. A gaf i ofyn am ei sicrwydd heddiw, o ystyried yr anhrefn llwyr ynglŷn â Brexit yn San Steffan ar hyn o bryd, ei fod yn barod i wneud yn siŵr bod unrhyw sylwadau uniongyrchol y mae angen eu gwneud ar ran Cymru ym maes iechyd a gofal yn cael eu gwneud ganddo ef?