Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 22 Ionawr 2019.
Diolch am y sylwadau a'r gyfres o gwestiynau. Yn sicr ni allaf roi'r holl fanylion y gallwn i eu gwneud. Byddwn yn mynd ag amser nifer o Weinidogion eraill. Gallem dreulio'r prynhawn cyfan yn siarad dim ond am yr holl feysydd gwahanol ac amrywiol a fydd yn effeithio ar y system iechyd a gofal cymdeithasol os oes Brexit heb gytundeb.
O ran radioisotopau, rwyf wedi dweud hyn yn gyson ynghylch yr her nid yn unig o ddod â radioisotopau i mewn i'r wlad, ond heriau ynglŷn â rheoleiddio o ran a all gweithgynhyrchwyr yn gyfreithiol fewnforio radioisotopau i'r Deyrnas Unedig, yn enwedig os yw'r Deyrnas Unedig yn parhau gyda'r cynnig presennol i adael Euratom a bod Brexit heb gytundeb. Mae sgyrsiau'n digwydd am hynny. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain ei hun, er enghraifft, wedi cynhyrchu cyfarwyddyd yn crybwyll ambell her ynglŷn â hynny. Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn dweud bod ganddi—neu ei bod hi'n ffyddiog y bydd ganddi—drefniadau ar waith i wneud yn siŵr y gall y cyflenwad o radioisotopau barhau. Mae o fudd iddi hi, nid yn unig o fudd i ninnau, i hynny ddigwydd.
Daw hynny â mi at fy mhwynt i ynghylch y materion hynny y mae'r DU yn gyfrifol amdanyn nhw, a'r cwestiwn ehangach o arweinyddiaeth. Ceir rhai meysydd—er enghraifft, rheoleiddio staff a meddyginiaethau—lle mai cyfrifoldeb y DU yw'r rhain mewn gwirionedd. Yr her yw pa mor agored yw'r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ledled y Deyrnas Unedig, a sut caiff gwybodaeth ei rhannu a'i defnyddio. Er, bod gennym ni, wrth gwrs, safbwyntiau gwahanol ar yr hyn a ddylai ddigwydd yn ystod yr wythnosau nesaf ac ar ôl 29 Mawrth, mae o fudd i bob un ohonom fod systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU yn rhannu cymaint o wybodaeth â phosib, gyda pha fath bynnag o Brexit a allai ddigwydd neu beidio. Felly, rwy'n awyddus nid yn unig i'r sgyrsiau hynny rhwng swyddogion barhau, ond bod cyswllt uniongyrchol rhwng Gweinidogion.
Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen at Matt Hancock. Rwy'n gwybod bod Jeane Freeman, Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros iechyd, lles a chwaraeon, wedi ysgrifennu hefyd yn gofyn am gyfarfod wyneb yn wyneb. Rwyf wedi ysgrifennu unwaith eto i ofyn hynny hefyd. Mae hynny mewn gwrthgyferbyniad i Aelodau eraill y Llywodraeth yma yng Nghymru. Mae Lesley Griffiths a Kirsty Williams wedi cael cyswllt uniongyrchol â Gweinidogion eraill. Nid pawb fydd yn eiddigeddus o Lesley Griffiths â'i chyfarfodydd uniongyrchol â Michael Gove, ond mae angen cyswllt uniongyrchol rhwng llywodraethau cenedlaethol y Deyrnas Unedig. Byddaf yn sicr yn parhau i fynd ar drywydd hynny oherwydd mae cyfrifoldeb arweinyddiaeth ar bob un ohonom ni ac, wrth gwrs, arnaf innau yma yng Nghymru.
Ynglŷn â'r sgwrs barhaus gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a gweithredu eu hargymhellion, rydych chi'n deall y cyhoeddwyd yr adroddiad sylweddol ar ddechrau'r wythnos hon, ddydd Llun. Rwyf wedi darllen y crynodeb gweithredol. Rwyf wedi ystyried amryw o rannau'r adroddiad, ond wnaf i ddim ceisio cymryd arnaf fy mod i wedi gweithredu ar yr holl argymhellion. Wrth gwrs, mae sgwrs barhaus yn digwydd ynghylch ymateb y system iechyd a gofal yma yng Nghymru, o gofio bod argymhellion wedi'u gwneud. Ond, rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr wrth inni lunio ymateb llawnach a fydd, wrth gwrs, yn gorfod esblygu, gan fod cwestiwn Brexit ymhell o fod wedi ei ddatrys wrth inni siarad.
Ynghylch gofal cymdeithasol a heriau'r gweithlu gofal cymdeithasol, rwy'n disgwyl rhoi diweddariadau pellach i'r tasglu a fydd yn cyfarfod yn fwy rheolaidd bellach. Cafwyd cyfarfod yr wythnos diwethaf. Yn sicr bydd angen inni gyfarfod yn gynnar ym mis Chwefror, ac rydym yn ystyried dyddiad, eto nid yn unig i rannu gwybodaeth, ond i wneud dewisiadau. Byddaf yn ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, pan fyddwn yn gallu gwneud hynny, i wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud a'r mesurau yr ydym ni'n eu gweithredu drwy'r system gyfan. Rwyf hefyd yn gwneud yr un peth ynglŷn â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am feddyginiaethau—materion rheoli a chyflenwi meddyginiaethau, a'r sicrwydd yr ydym ni wedi'i gael, a realiti hynny, gan gynnwys y sgyrsiau gyda chynrychiolwyr y diwydiant fferyllol yma yng Nghymru hefyd.
O ran nwyddau traul clinigol, mae yna gynhyrchion gwahanol a ddefnyddir yn rheolaidd rhwng y system iechyd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, felly bydd amrywiaeth o'r pethau hynny ar gael i'r DU gyfan. Bydd angen inni wneud yn siŵr bod pob un o'r defnyddiau traul clinigol amrywiol yr ydym ni eisiau parhau i'w defnyddio yng Nghymru ar gael. Felly, rwy'n bendant yn edrych ar y trefniadau i sicrhau bod hynny ar gael, ac i'r symiau angenrheidiol o stoc fod ar gael hefyd. Bydd gennyf fwy i'w ddweud pan fyddaf yn gallu gwneud penderfyniad terfynol ar hynny yn yr wythnosau nesaf hefyd. Felly, gallwch ddisgwyl clywed rhagor o ddiweddariadau ysgrifenedig gennyf dros yr wythnosau nesaf.