Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 22 Ionawr 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd yw'r meysydd sydd fwyaf ynghlwm â'r UE drwy’r corff mawr o ddeddfwriaeth, y mae'r rhan fwyaf ohono wedi ei ddatganoli, a'r fasnach enfawr. Deddfwriaeth yr UE sy’n darparu ein fframwaith gweithredu presennol yn y meysydd hyn ac mae'r UE yn dominyddu masnach yn rhai o'n sectorau allweddol; mae 96 y cant o'n hallforion cig yn mynd i'r UE a 97 y cant o bysgod cregyn Cymru yn cael eu hallforio, naill ai i'r UE neu i Dde Corea, drwy gytundeb masnach rydd UE.