12. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Effaith Brexit heb Gytundeb ar yr Amgylchedd, Amaethyddiaeth a Physgodfeydd

– Senedd Cymru am 5:34 pm ar 22 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:34, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar effaith Brexit heb gytundeb ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd yw'r eitem nesaf. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd yw'r meysydd sydd fwyaf ynghlwm â'r UE drwy’r corff mawr o ddeddfwriaeth, y mae'r rhan fwyaf ohono wedi ei ddatganoli, a'r fasnach enfawr. Deddfwriaeth yr UE sy’n darparu ein fframwaith gweithredu presennol yn y meysydd hyn ac mae'r UE yn dominyddu masnach yn rhai o'n sectorau allweddol; mae 96 y cant o'n hallforion cig yn mynd i'r UE a 97 y cant o bysgod cregyn Cymru yn cael eu hallforio, naill ai i'r UE neu i Dde Corea, drwy gytundeb masnach rydd UE.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:35, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n dibynnu ar yr UE ar gyfer mewnforion hefyd. Mae cemegion, gan gynnwys rhai o'r rheini sy’n ein helpu i ddarparu dŵr glân, meddyginiaethau milfeddygol, a mwy na phedair rhan o bump o'n mewnforion bwyd, sy’n hanner y bwyd yr ydym ni'n ei fwyta yn y DU, yn dod o'r UE. Mae’r rhain i gyd yn ddi-dariff ac wedi eu cynhyrchu i safonau yr ydym ni’n eu deall ac yn eu disgwyl. Os byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb, ni fydd cyfnod pontio trefnus na fesul cam, a bydd 40 mlynedd o ddeddfwriaeth, systemau, cyllid a masnach rydd integredig yr UE yn dod i ben dros nos. Bydd ein hallforwyr a’n mewnforwyr yn wynebu cynnydd sylweddol i brisiau, gweinyddu ac amser cyflenwi. Mae tariffau’n debygol o gael eu rhoi ar fewnforion ac allforion. Gallai gostyngiad i sterling a achosir gan Brexit heb gytundeb liniaru rhai costau tariff i fewnforwyr ond byddai’n cyfrannu at brisiau bwyd uwch i ddefnyddwyr wrth i gostau mewnforio gynyddu.

Does dim newyddion da i allforion ychwaith mewn senario 'dim cytundeb' o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, y mae cefnogwyr Brexit caled yn ei glodfori. Gallai bwydydd wedi'u prosesu ddenu tariffau o tua 15 y cant a gallai cynhyrchion eraill fod dros 50 y cant, gyda chig coch yn denu tariffau arbennig o uchel. Bydd yn rhaid i’n busnesau ddatblygu eu gallu i ymdrin â biwrocratiaeth a oedd yn ddiangen cynt, gan gynnwys datganiadau tollau, tystysgrifau iechyd allforio neu dystysgrifau dalfa pysgodfeydd. Bydd archwiliadau dogfennau, adnabod a chorfforol yn cael eu cynnal ar y ffin â'r UE ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid ac anifeiliaid byw sy'n cyrraedd o’r DU. Mae'n anochel y bydd hyn yn achosi oedi, a allai ddifetha bwyd ffres a physgod cregyn byw. Bydd hyd yn oed y paledi pren y caiff nwyddau eu cludo arnynt yn gorfod cael eu hardystio a’u harchwilio.

Mae ein llafurlu o’r UE yn bwysig i Gymru. Mae bron holl filfeddygon y Llywodraeth sy'n gweithio yn ein lladd-dai yn ddinasyddion Ewropeaidd o wledydd UE eraill, ac felly hefyd llawer o weithwyr prosesu bwyd yn fwy cyffredinol. Ni allwn fforddio i'r gweithwyr hanfodol hyn adael y DU ar adeg o dwf esbonyddol i'r galw am dystysgrifau iechyd allforio ar ôl Brexit. Bydd effeithiau Brexit heb gytundeb yn cael eu teimlo’n wahanol ledled Cymru. Yn amlwg, ein cymunedau gwledig fydd yn dioddef waethaf o golli unrhyw farchnadoedd, yn enwedig yn y sector cig coch. Bydd ein cymunedau arfordirol yn dioddef os na all busnesau bwyd môr allforio pysgod cregyn yn ddichonadwy. Er y gallai arallgyfeirio i wahanol fathau o ffermio neu bysgota leihau'r effaith, ni fydd yn gwneud iawn am golli marchnad yr UE, neu lai o fynediad ati. Mae hyn oll yn cyfuno i greu storm berffaith, a fydd yn dechrau ar 30 Mawrth ac yn para am gyfnod anhysbys. Bydd difrifoldeb y storm honno yn dibynnu ar y math o gytundeb a gawn wrth adael. Storm 'dim cytundeb' fydd y mwyaf niweidiol i Gymru.

Fel Llywodraeth rydym ni wedi bod yn gweithio ers refferendwm yr UE i baratoi ar gyfer Brexit ar ba bynnag ffurf. Ar draws fy mhortffolio i, rydym ni wedi adolygu 1,200 o ddarnau o ddeddfwriaeth. Gyda Llywodraeth y DU, rydym ni wrthi'n diwygio 900 o ddarnau o ddeddfwriaeth mewn ymarfer digynsail i sicrhau bod gennym ni lyfr statud sy’n gweithio erbyn y diwrnod ymadael. Bydd hyn yn sicrhau bod fframwaith deddfwriaeth amgylcheddol yr UE, yr ydym ni wedi datblygu ein cynlluniau uchelgeisiol ein hunain ar gyfer yr amgylchedd, hinsawdd a chenedlaethau'r dyfodol yn unol ag ef, yn parhau i fod ar gael i ni. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi chwarae rhan bwysig, a bydd yn parhau i chwarae rhan bwysig, yn y broses o ddatblygu a phasio’r ddeddfwriaeth hon, a bydd Cymru yn ennill mwy o bwerau ym meysydd yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd ar ôl Brexit.

Rydym ni wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y systemau angenrheidiol ar waith i fodloni gofynion newydd yr UE ar drydydd gwledydd, fel y byddwn ni ar ôl Brexit, neu i ddisodli systemau a redir gan yr UE na fyddant ar gael cyn bo hir. Mae hyn yn cynnwys systemau ar gyfer cymeradwyo cemegion, ar gyfer tystysgrifau iechyd allforio, ar gyfer ardystiadau dalfa a hyfforddiant ar gyfer milfeddygon ychwanegol. Mae fy swyddogion yn rhedeg mwy na 50 o brosiectau i roi'r trefniadau gofynnol ar waith. I fodloni'r amserlenni byrrach a sicrhau bod hyn ar waith erbyn y diwrnod ymadael, mae llawer o hyn wedi cael ei gyflawni ar y cyd â gweinyddiaethau eraill y DU, ac, yn benodol, adrannau Llywodraeth y DU DEFRA, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Fodd bynnag, yn y dyfodol, Gweinidogion Cymru ac yn y pen draw y Cynulliad hwn fydd yn gwneud penderfyniadau yn llawer o'r meysydd hyn.

Rydym ni'n parhau i ddarparu cyngor a gwybodaeth i fusnesau, a lansiodd Llywodraeth Cymru wefan Preparing Wales/Paratoi Cymru yr wythnos diwethaf. Rwyf i wedi ymrwymo i weithio gyda sectorau allweddol i gynllunio mecanweithiau cymorth o gwmpas yr heriau difrifol hyn, ac rydym ni eisoes wedi darparu £6 miliwn o'n cronfa bontio i'r perwyl hwn. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar gynllunio brys i ddiogelu ein cyflenwad bwyd, i sicrhau cyflenwad ynni di-dor a, chyda Dŵr Cymru Welsh Water a Hafren Dyfrdwy, i sicrhau ein cyflenwad dŵr.

Er y daw rhai cyfleoedd o Brexit yn y dyfodol, rwy’n pryderu'n fawr am yr helynt tymor byr a fydd yn dilyn, a hoffwn sicrhau bod ein sectorau yn goroesi. Rwy’n pryderu am y dystiolaeth gan y CBI, y Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill sy’n awgrymu nad yw llawer o fusnesau yn cynllunio'n ymarferol ar gyfer Brexit eto, ac ar gyfer Brexit heb gytundeb. Bydd rhai yn meddwl eu bod yn ddiogel rhag Brexit gan nad ydynt yn allforio nac yn mewnforio, ond gan fod ein heconomi mor integredig gyda'r UE, bydd yr effeithiau economaidd yn effeithio ar eu cyflenwyr a’u cwsmeriaid hefyd. Mae llawer iawn o newid i ddod, ac os na chawn ni gytundeb, mae'n debygol o fod yn ergyd galed i sawl maes ar yr un pryd. Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw rheoli rhywfaint o hyn. Fodd bynnag, ceir terfyn i'r hyn y gallwn ni wneud o wynebu bygythiad o'r maint hwn. Mae'n rhaid i fusnesau weithredu hefyd, ac yn gyflym, oherwydd ni ellir tanbwysleisio maint yr her.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:41, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Rwyf i’n rhywun sy’n credu y dylai fod cytundeb pan fyddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n meddwl bod hwnnw'n gam synhwyrol i'w gymryd. Pryd bynnag y byddwch chi'n gwahanu oddi wrth unrhyw sefydliad neu unrhyw unigolyn, neu mewn anghydfod cwmni, mae’n well i chi wneud hynny ar sail gyfeillgar, ar delerau y cytunwyd arnynt, nag mewn terfyniad arteithiol. Ac rwy’n gobeithio, yn yr amser sy'n weddill, y bydd cytundeb yn datblygu o swigen wleidyddol San Steffan, lle mae'n ymddangos bod llawer o bobl mewn ysgarmes go iawn ar hyn o bryd.

Ond, gadewch i ni gofio bod cytundeb ar y bwrdd, a bod trafodaethau ynghylch creu'r awyrgylch lle gellid dod i gytundeb. Yn anffodus, mae’r Blaid Lafur wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y trafodaethau hynny ac, yn benodol, peidio â chefnogi Prif Weinidog y DU yn ei gallu i sicrhau cytundeb. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael deall: a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi egwyddor yr hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ceisio ei gyflawni trwy greu'r amodau cywir ar gyfer dod i gytundeb? Oherwydd mae hynny'n hanfodol bwysig, ac mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru a sefydliadau ffermio eraill yn cefnogi cytundeb Prif Weinidog y DU a oedd ar y bwrdd, yr wyf i'n derbyn ei fod wedi cael ei wrthod gan bob plaid yr wythnos diwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin. Ond mae'n ffaith, yn amlwg, bod yr undebau ffermio yn arbennig wedi rhoi eu cefnogaeth i’r cytundeb penodol hwnnw.

Yn eich datganiad y prynhawn yma, Prif Weinidog, rydych chi'n sôn am y ffaith bod y Llywodraeth yma, Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gweithio ar barodrwydd yr UE ers y refferendwm, ond rwy’n credu bod hwnnw’n ddatganiad anghyson, o gofio bod y Prif Weinidog ei hun wedi dweud—neu’r Prif Weinidog blaenorol, dylwn ddweud—ar sawl adeg pan gafodd ei holi am hyn yn y Siambr na wnaed unrhyw baratoadau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer senario 'dim cytundeb'. Felly, byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod pa baratoadau y mae’r Llywodraeth wedi bod yn eu gwneud, fel y mae eich datganiad yn ei nodi, dros y ddwy flynedd diwethaf ar gyfer y senario sy'n ymddangos ar y gorwel ar hyn o bryd.

Hoffwn ddeall hefyd faint o'r £30 miliwn sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru gan Ganghellor y Trysorlys ar gyfer paratoadau 'dim cytundeb' y mae ei hadran hi yn arbennig wedi gallu ei sicrhau gan y Gweinidog cyllid, oherwydd mae hwnnw'n swm sylweddol o arian, ac rwy’n gobeithio bod hynny wedi caniatáu iddi wneud darpariaethau penodol, yn amlwg, yn unol â chapasiti cynllunio ei hadran. Mae DEFRA ei hun wedi cael £410 miliwn, ac, yn y datganiad, mae’r Gweinidog Cabinet yn tynnu sylw at y berthynas waith agos gyda DEFRA ar lawer o faterion. Felly, unwaith eto, byddwn yn falch o ddeall, gyda’r £410 miliwn hwnnw a wnaed ar gael erbyn hyn i DEFRA i gynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb, ba agweddau ar y gwaith sy’n waith a wnaed gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i liniaru rhai o'r amgylchiadau.

Mae'n hollbwysig y caniateir i waith yr adran barhau, ac ym mrecwast ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru y bore yma ac yng nghyngor yr NFU ddoe, yn y cinio neithiwr, dywedodd y Gweinidog Cabinet bod 'Brexit a’n tir'—yr ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw—wedi llithro’n ôl i'r haf erbyn hyn. Unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar deall pa effaith, yn amlwg, y mae gwahanol fentrau cynllunio yn yr adran yn ei chael ar waith yr adran o ddydd i ddydd, oherwydd, yn amlwg, mae llawer o ffermwyr, er eu bod yn gwybod bod yr arian yn ddiogel tan 2022, oherwydd dyna'r ymrwymiad y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, eisiau gallu cymryd rhan yn y broses o lunio’r gyfres nesaf o gynlluniau a mentrau a fydd yn cael eu defnyddio i gefnogi'r economi wledig, yn amlwg. Ond, fel y dywedais, o'ch datganiad neithiwr a'r bore yma, nodwyd yn eglur gennych fod yr ymateb i'r ymgynghoriad 'Brexit a’n tir' wedi llithro i’r haf erbyn hyn. Rhywbeth arall a nodwyd gan randdeiliaid yw'r ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynllunio ar gyfer 'dim cytundeb'. Byddwn yn ddiolchgar o gael deall sut rydych chi’n cyfathrebu gyda'r holl sectorau yn eich portffolio—y sector amgylcheddol, y sector ynni a'r sector amaethyddol—fel eu bod nhw'n deall yn llawn beth sy'n cael ei wneud gan yr adran a'r swyddogaeth ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyflawni yn y paratoadau hyn.

Hefyd, os byddwn ni mewn senario 'dim cytundeb' yn y pen draw, bydd cyfleoedd, yn amlwg, i sector da byw y DU wneud iawn am rai o'r diffygion o fewnforion i mewn i'r wlad. Os edrychwn ni ar gig eidion, er enghraifft, mae llawer iawn o gig eidion Iwerddon yn dod i mewn i'r farchnad. Pa baratoadau ydych chi’n eu gwneud i wneud yn siŵr bod cynhyrchwyr da byw Cymru mewn sefyllfa dda i weithio gyda phroseswyr i wneud iawn am y diffyg hwnnw? Tynnaf eich sylw at y ffaith bod gwerth £460 miliwn o gig eidion yn cael ei fewnforio i'r Deyrnas Unedig, cig eidion Iwerddon yn bennaf; dim ond £140 miliwn yr ydym ni’n ei allforio allan o'r DU. Felly, ceir cyfle enfawr yno i bontio'r diffyg hwnnw pe bai’n digwydd.

Ailadroddaf y pwynt a wnes yn fy sylwadau agoriadol—rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bwysig ein bod ni'n cael cytundeb, ac mae'n gwneud synnwyr i ni symud i sefyllfa lle mae gennym ni gyfnod pontio fel ein bod ni'n symud i sefyllfa lle gallwn ni wneud darpariaeth synhwyrol ar gyfer y newidiadau yr ydym ni'n mynd i’w datgloi drwy adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n gobeithio’n fawr, dros y 60 a mwy o ddiwrnodau nesaf sydd ar gael i ni, y byddwn ni'n sicrhau’r amodau hynny fel y gallwn ddod i gytundeb. Ond byddwn yn ddiolchgar am atebion i'r cwestiynau yr wyf i wedi eu gofyn i'r Gweinidog, ac yn benodol, y ffordd y bydd y Gweinidog yn cyfathrebu â rhanddeiliaid dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod fel y gall pobl ddeall yn llawn camau gweithredu'r adran o ran paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:46, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Andrew R.T. Davies am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy’n chwilfrydig iawn am eich optimistiaeth yng nghytundeb y Prif Weinidog. Does dim llawer o ots beth yr wyf i’n ei feddwl oherwydd cafodd y cytundeb hwnnw ei wrthod gan fwyafrif mawr iawn o 230. Ond yn sicr nid yw'r cytundeb a gyflwynwyd ganddi yn diogelu ein swyddi a'n heconomi yn y ffordd y byddem ni'n dymuno iddo ei wneud.

Soniasoch am Jeremy Corbyn yn peidio â chymryd rhan; wel, a dweud y gwir, rwy’n meddwl mai ystryw sinigaidd oedd hwn. Doedd hi ddim eisiau trafodaethau trawsbleidiol o gwbl. Fe wnaethant bara diwrnod neu neu ddau, ac rwy’n meddwl ei fod wedi gweld drwy hynny’n rhwydd. Anhyblygrwydd llwyr y Prif Weinidog yw hyn, o fethu â symud oddi wrth y cytundeb. Fe'i gwrthodwyd yn llwyr, fel y dywedaf, o un o’r mwyafrifoedd mwyaf yr wyf i'n credu yr ydym ni erioed wedi ei weld yn y Senedd, a nawr mae'n bryd iddi fod yn llawer mwy hyblyg a cheisio cynnig cytundeb gwell.

Rwy’n derbyn yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am yr NFU a’r FUW yn dweud y byddai’n well ganddyn nhw gytundeb y Prif Weinidog na 'dim cytundeb'. Roedd yn ddiddorol iawn neithiwr yng nghinio’r NFU, yr oeddech chi ac eraill yn bresennol ynddo, pan nodwyd bod Prif Weinidog y DU wedi dweud ei bod wedi siarad â ffermwyr Cymru a oedd yn frwdfrydig am 'ddim cytundeb'. Ac fe glywsoch chi Lywydd yr NFU yn dweud y byddai’n well ganddo farw mewn ffos na derbyn Brexit heb gytundeb. Roedd wedi ei syfrdanu'n llwyr y gallai Prif Weinidog y DU ddweud hynny.

Rydych chi’n holi am barodrwydd, wel, byddwch yn gwybod, a bydd llawer o Aelodau eraill yma’n gwybod mai pythefnos ar ôl pleidlais refferendwm yr UE, rwy’n meddwl, y sefydlais grŵp rhanddeiliaid gweinidogol Brexit, yr wyf i'n gadeirydd arno. Rydym ni wedi cyfarfod yn aml iawn, ac rydym ni'n cyfarfod bob mis erbyn hyn. Roedd y cyfarfod diwethaf ddydd Iau diwethaf yma yng Nghaerdydd, ac, o gwmpas y bwrdd hwnnw, mae gen i bawb o bob rhan o fy mhortffolio. Does neb yn gweithio ar wahân, rydym ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd. Felly, mae pawb wedi ei gynnwys yn hynny, a byddaf yn parhau i gynnwys aelodau o’r ford gron honno. Bu amrywiaeth o is-grwpiau, ac un o'r meysydd a ystyriwyd gan un o’r is-grwpiau oedd cynllunio ar gyfer senarios. Felly, ystyriwyd dim cytundeb gennym. A dweud y gwir, rwyf i wedi bod yn paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, ond doeddwn i hyd yn oed—. Yr haf diwethaf, rwy’n cofio rhywun yn gofyn i mi yn Sioe Frenhinol Cymru a oeddwn i'n meddwl y byddai Brexit heb gytundeb yn digwydd. Er mai dyna yn amlwg yw’r sefyllfa y byddwn ynddi os nad oes cytundeb erbyn diwedd mis Mawrth, ni allwn gredu y byddai Llywodraeth y DU a Phrif Weinidog y DU yn caniatáu i hynny ddigwydd. Felly, wrth gwrs bu'n rhaid i ni ddechrau symud nawr tuag at Brexit heb gyutundeb yn llawer mwy difrifol. Ond mae'n rhaid i chi gofio, dim ond un set o swyddogion sydd gennym ni; maen nhw'n gwneud eu gwaith bob dydd hefyd, ond yn amlwg ceir mwy o bwyslais nawr ar ddim cytundeb. A bydd rhai pethau—allwch chi ddim cael busnes fel arfer a pharatoi ar gyfer dim cytundeb a gwneud popeth arall.

Rwy’n gwybod eich bod chi yno y bore yma yn ogystal â neithiwr, a dywedais fy mod i wedi gobeithio cyflwyno cam nesaf yr ymgynghoriad ynghylch 'Brexit a’n tir' erbyn diwedd y gwanwyn, yn sicr, ond rwyf i wedi ymrwymo i ddechrau'r haf erbyn hyn. Bydd ymhell cyn y Sioe Frenhinol a sioeau’r haf, oherwydd rwy’n meddwl bod hynny’n bwysig iawn, oherwydd yn sicr dyna fy nghyfle i ymgysylltu â chynifer o bobl ar raddfa fawr. Rwyf i wedi sicrhau ffermwyr y byddaf yn gwneud cynlluniau taliad sylfaenol ar gyfer 2020 hefyd. Yn amlwg, aethom am y flwyddyn ychwanegol honno, ac rwy’n gobeithio bod hynny wedi rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl iddyn nhw.

O ran cyllid, roeddwn i'n bresennol mewn cyfarfod pedair ochrog yn Llundain yr wythnos diwethaf, ac fe'i gwnaed yn eglur iawn i Michael Gove gennyf i a'r Gweinidog cyfatebol yn yr Alban ein bod ni'n disgwyl i 'ddim cytundeb' gael ei dynnu oddi ar y bwrdd yn llwyr, ac os mai dyna oedd y canlyniad terfynol, y byddem ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU dalu am 'ddim cytundeb', ac, yn sicr, mae busnesau yn dweud wrthyf i nawr bod y posibilrwydd o 'ddim cytundeb' eisoes yn costio llawer iawn o arian. Felly, rhoddwyd y neges honno’n blaen i Michael Gove, a gwn fod y Gweinidog Cyllid wedi derbyn llythyr gan Drysorlys EM ynghylch hynny erbyn hyn.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:51, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy’n clywed y pryderon ynghylch 'Brexit a’n tir'. Wrth gwrs, y ffordd orau o leddfu’r pryderon hynny yw peidio â chael Brexit yn y lle cyntaf, ond dyna ni; mae hynny ar gyfer datganiad arall, mae'n debyg.

Nid wyf i angen i neb ddweud wrthyf i pa mor wael fyddai Brexit 'dim cytundeb' i Gymru. Rwyf o'r un farn â’r Gweinidog; rwyf i wedi bod yn eithaf eglur ynghylch hynny o'r diwrnod cyntaf un, ac mae'n rhaid i mi ddweud, wrth ddiolch i chi am y datganiad heddiw, ei fod yn eithaf trylwyr o ran amlinellu rhai o'r prif bryderon a phroblemau ac effeithiau, ond—. Ac er eich bod chi'n dweud eich bod chi'n brysur, eich bod chi'n brysur gyda'r mater o geisio lliniaru rhai o'r rheini, nid wyf i'n gweld, a dweud y gwir, llawer o ganlyniadau cadarn o ran yr hyn sy'n digwydd, heblaw, 'Ymddiriedwch ynof i, rydym ni'n gweithio ar y mater.'

Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi, o gofio bod yr UE, wrth gwrs, yn rheoleiddio’r aer yr ydym ni’n ei anadlu, y bwyd yr ydym ni’n ei fwyta, y dŵr yr ydym ni’n ei yfed—mae'n eithaf pwysig, wyddoch chi—pa mor hyderus ydych chi y bydd yr hyn y mae angen ei wneud wedi cael ei wneud mewn pryd, o ran lliniaru'r holl risgiau a ddaw o senario 'dim cytundeb'? Rwy'n meddwl bod honno'n neges allweddol yr oeddwn i'n gobeithio ei gweld yn eich datganiad. Nid wyf i'n ei gweld, felly efallai y gallech efallai roi eich sicrwydd i ni y byddwch chi'n gwneud hynny mewn pryd, mor anodd ag y gallai fod.

Ond wrth gwrs, mae cyflawni hynny, fel yr ydych chi’n ei ddweud yn eich datganiad, yn golygu gweithio'n agos â gweinyddiaethau datganoledig eraill a Llywodraeth y DU. Rwy’n meddwl tybed sut, yn yr hinsawdd sydd ohoni, yr ydych chi’n sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn y trafodaethau hynny, oherwydd, wyddoch chi, nid wyf i'n llawn hyder, hyd yn oed os yw'n cael ei glywed, bod unrhyw un yn gwrando arno. Os oes anghytuno ynghylch rhai o'r cynigion, sut ydych chi'n datrys y rheini? Fy mhryder i, yn rhy aml, yw y gallai Llywodraeth y DU fanteisio ar ei blaenoriaeth mewn ffordd sy'n gweithio’n groes i fuddiannau Cymru. Dywedodd Prif Weinidog y DU ddoe y byddai gan y gweinyddiaethau datganoledig ran fwy blaenllaw i’w chwarae. Rwy’n meddwl tybed sut yr ydych chi'n rhagweld y bydd hynny'n digwydd mewn gwirionedd.

Ddwy flynedd yn ôl, dywedasoch fod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn teimlo bod ganddyn nhw, ac rwy’n dyfynnu, 'bwerau hud', dros amaethyddiaeth Cymru, er ei fod yn fater datganoledig. Dywedasoch eich bod chi wedi ei gwneud yn eglur na allant wthio eu hunain arnom. Wel, rwy'n meddwl tybed pa ran ydych chi'n ei chwarae, felly, yn y trafodaethau am y cytundeb masnachu newydd rhwng y DU a Seland Newydd, oherwydd rydych chi'n cyfaddef eich hun y byddai mewnlifiad o gig oen Seland Newydd—yn eich geiriau eich hun yn dinistrio diwydiant cig oen Cymru yn llwyr.

Nawr, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit heb gytundeb, mae’n rhy ddychrynllyd i feddwl am effaith hynny. Felly, pan fyddwch chi'n gwneud y trefniadau hyn gyda Llywodraeth y DU, wrth gwrs, mae amseru a phwysau amser yn golygu bod yn rhaid i chi, yn aml iawn, danseilio'r gweithdrefnau craffu arferol sydd gennym ni yma yn y Cynulliad. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni fel Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau, ac i Aelodau eich meinciau cefn eich hun hefyd, y byddwn ni'n gallu craffu’n briodol ar eich penderfyniadau a’ch dwyn i gyfrif mewn ffordd sy’n caniatáu i ni gyflawni ein dyletswyddau a’n rhwymedigaethau fel Aelodau Cynulliad?

A dau bwynt byr iawn i gloi—er eu bod nhw’n bwyntiau pwysig dros ben. Mewn unrhyw senario ar ôl Brexit, ond yn enwedig o fewn cyd-destun 'dim cytundeb', pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau'r farchnad ddomestig fwyaf posibl ar gyfer cynnyrch o Gymru? Ac rwy’n meddwl yn benodol am gaffael cyhoeddus, oherwydd rydym ni wedi bod yn sôn am hyn ers blynyddoedd lawer iawn. Nid ydym ni wedi cyrraedd pwynt o hyd lle'r ydym ni’n teimlo bod arian Cymru yn gweithio mor galed ag y gall er budd Cymru, ac, wrth gwrs, bydd angen iddo weithio’n galetach nag erioed yn y math hwn o senario. Yn olaf, o ran llywodraethu amgylcheddol, dywedasoch y llynedd wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y byddech—ac rwy’n dyfynnu

'manteisio ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf i gynnwys yr egwyddorion amgylcheddol mewn cyfraith a chau'r bwlch llywodraethu.'

Wel, yn amlwg, mae'r cloc yn tician yn uwch nag erioed erbyn hyn, ac rwy’n meddwl tybed a allech chi roi diweddariad i ni ynghylch sut yr ydych chi’n bwriadu llenwi'r bwlch hwnnw yn y cyfnod byr sydd ar ôl i ni nawr, o bosibl.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:55, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Llyr am y gyfres yna o gwestiynau. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n sôn am ddwy enghraifft o le, rwy’n meddwl, yr ydym ni'n gwneud cynnydd gwirioneddol oherwydd, fel y dywedwch, mae amser yn brin. Felly, un maes—. Ac mae'n fater o gydbwysedd. Mae'n fater—. Wyddoch chi, pryd ddylech chi ddatgelu gwybodaeth? Oherwydd rydym ni’n cael ein cyhuddo o godi bwganod, ond, yn yr un modd, rwy'n meddwl, mae pobl Cymru yn haeddu cael eu hysbysu pan fydd pryderon. Felly, un maes yr oedd gen i bryderon gwirioneddol amdano oedd cyflenwadau dŵr. Felly, rydym ni wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda DEFRA—ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae fy mhrofiad o ymgysylltu â DEFRA wedi bod yn dda iawn, nid cystal mewn rhai adrannau eraill, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod DEFRA wedi bod yn dda, ac rwy’n meddwl bod hynny oherwydd y bu fframwaith rhwng DEFRA a Llywodraeth Cymru, efallai, ers cyfnod hwy nag adrannau eraill. Felly, rydym ni wedi bod yn gweithio, fel y dywedaf, yn galed iawn gyda DEFRA oherwydd fy mhryder i oedd risg 'dim cytundeb' i gemegion trin dŵr, pe na baem ni'n gallu eu storio, er enghraifft, pe bai’r cyflenwad yn brin. Ond mae hynny wedi lleihau yn ystod y misoedd diwethaf. Mae gennym ni lawer gwell dealltwriaeth o’r risgiau, mae’r sector yn cymryd y risgiau o ddifrif, maen nhw’n cymryd camau i osgoi unrhyw broblemau; ac rydym ni’n gweithio, fel y dywedais, gyda Llywodraeth y DU, ond hefyd gyda chyflenwyr Cymru ar reoli’r risgiau. Felly, rydym ni wedi cynnal ymarfer bwrdd gwaith, er enghraifft, yn gynharach y mis hwn. Profodd hwnnw, unwaith eto, gwahanol senarios yn y cynllun wrth gefn. Mae gennym ni ymarfer ymarferol ar y gweill, ac rwy'n llawer hapusach â’r cynllun wrth gefn hwnnw erbyn hyn.

Ceir pryderon hefyd, yn amlwg, ynghylch cyflenwadau bwyd, ac, unwaith eto, mae'n fater o reoli—. Wyddoch chi, daeth rhywun i'm cymhorthfa a oedd wedi darllen rhywbeth yn y wasg—roedd yn bryderus iawn ynghylch cyflenwadau bwyd, ac mae gennym ni grŵp cyswllt brys DEFRA ar y gadwyn fwyd. Mae hwnnw'n cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig ac, yn amlwg, cyrff masnach y diwydiant, ac, unwaith eto, maen nhw’n mesur parodrwydd. Felly, mae gweithgynhyrchwyr yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n hyderus iawn ynghylch y cyflenwad i'r cyhoedd. Felly, rwy’n meddwl bod honno'n neges gadarnhaol iawn i’w rhoi. Gallai dewis gael ei effeithio, wrth gwrs. Os ydych chi wedi arfer â chael bwyd o Sbaen, efallai na fydd hwnnw ar y silffoedd cyn gynted â phosibl, ac efallai y bydd yn llawer mwy cyfyngedig na'r arfer. Felly, rwy’n meddwl bod hynny'n ddau faes lle'r ydym ni’n sicrhau—gan weithio gydag adrannau eraill Llywodraeth y DU—bod llais Cymru yn cael ei glywed. Y ffordd o barhau i wneud hynny yw drwy wneud yn siŵr ein bod ni wrth y bwrdd. Felly, mae’r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn eglur iawn, fel y gwnaeth y Prif Weinidog blaenorol, os byddwn yn cael ein gwahodd i gyfarfodydd, byddwn ni’n bresennol a byddwn ni yno. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, disgwylir i ni fynd i Lundain llawer mwy nag y disgwylir i unrhyw un fynd i unrhyw le arall, ond rydym ni bob amser yno, a gwn fod hynny'n wir am fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet.

Mae'n bwysig iawn ein bod ni o gwmpas y bwrdd i drafod masnach. Rydych chi’n hollol gywir pan rydych chi'n dweud hynny, ac roeddwn ni'n gwbl bendant am Seland Newydd, ac nid oes dim byd wedi tawelu fy meddwl am hynny. Roedd yn ddiddorol gweld bod Prif Weinidog y DU wedi cyfarfod â Gweinidog Seland Newydd ddoe. Rydych chi’n gwybod fy mod i wedi ymweld â Seland Newydd fis Ebrill y llynedd a chyfarfod â’u prif drafodwr a’i gwnaeth hi’n eglur iawn i mi fod cytundeb masnach rydd â’r DU yn sicr yn un o'i brif flaenoriaethau. Felly, mae'r pryder hwnnw yno mewn gwirionedd. Felly, mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates—mae ei swyddogion, yn amlwg, yn arwain ar hyn. Rwyf i newydd gael papur yn fy mlwch heddiw y mae angen i mi ei ddarllen am fasnach, ond, unwaith eto, mae'n fater o wneud yn siŵr ein bod ni o gwmpas y bwrdd hwnnw ac yn cael y trafodaethau hynny, a gallaf eich sicrhau ein bod ni.

Mae hefyd yn ymwneud â llinellau coch, ac rydych chi'n gofyn am graffu. Cefais ddadl yn y Siamb—cyflwynodd Suzy Davies y cynnig am offerynnau statudol yr wythnos diwethaf, ac esboniais, pe bai’r Cynulliad yn craffu ar bob offeryn statudol yr wyf i'n ei glirio ar hyn o bryd, y byddai'n debygol o gymryd tua chwe mis o ddyddiau Mawrth a Mercher gydag ychydig iawn o fusnes arall. Rwy’n gwneud y gwaith, mae fy swyddogion yn gwneud y gwaith, rwy’n ceisio helpu i’ch arbed chi rhag gorfod gwneud y gwaith oherwydd mae'n bwysig iawn bod gennym ni lyfr statud cwbl weithredol pan fyddwn ni'n gadael yr UE. Fodd bynnag, mae'n bwysig hefyd, pan fyddwn ni'n cymryd pwerau pontio, er enghraifft, o Fil Amaethyddiaeth y DU a Bil Pysgodfeydd y DU—a gwn ein bod ni gerbron pwyllgor ddydd Iau—bod y llinellau coch yn cael eu bodloni, ac mae gen i linellau coch ar y Bil Amaethyddiaeth, a thrwy weithio gyda DEFRA, rydym ni wedi eu goresgyn nhw. Mae gen i linellau coch ar y Bil Pysgodfeydd, ac mae'r gwaith hwnnw’n parhau.

Rwy’n meddwl eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn ynghylch caffael cyhoeddus, ac rwy'n meddwl bod hwnnw’n un o'r cyfleoedd. Pan fyddwn ni'n sôn am gyfleoedd ar ôl Brexit, rwy’n meddwl bod caffael cyhoeddus yn un. Pan roeddwn i'n Weinidog iechyd—ac rwyf i wedi cael sgyrsiau gyda'r Prif Weinidog am y cyfnod pan roedd ef yn Weinidog iechyd—roeddem ni'n rhwystredig iawn nad oeddem ni’n gallu caffael cynnyrch o Gymru fel y gallwn. Felly, rwy’n bendant yn meddwl bod hwnnw'n gyfle. Pan fo'n anodd iawn weithiau gweld unrhyw gyfleoedd, mae'n braf dod o hyd iddyn nhw nawr ac yn y man. O ran llywodraethu, rwy'n ystyried hynny ar hyn o bryd ac yn bwriadu mynd i'r afael â hynny, gan nodi'r bwlch, a byddaf yn mynd allan i ymgynghoriad.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:00, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Ni all fod dim esgus na chyfiawnhad dros fethiant Llywodraeth y DU i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyd-fynd â mi os gwnaf i ddechrau fel hynny. Rydym ni wedi cael dwy flynedd a hanner i baratoi ar gyfer ymadael â'r UE ac mae'n gywilyddus nad oes unrhyyw waith paratoi gwirioneddol wedi cael ei wneud gan Lywodraeth y DU, oherwydd roedd hyn bob amser yn bosibilrwydd. Cafodd Monsieur Barnier ei ddyfynnu yn cylchgrawn Le Point yn Ffrainc yn dweud: Byddaf wedi llwyddo yn fy nhasg os yw'r cytundeb terfynol mor galed ar y Prydeinwyr y byddai’n well ganddyn nhw aros yn y pen draw. A dyna fu diben hyn oll, wrth gwrs, oherwydd mae tecnocratiaid heb eu hethol fel ef yn dilyn eu hagenda eu hunain, sy'n wahanol iawn i weithredu er lles y bobl. Mae Brexit yn cynnig cyfleoedd aruthrol. Ceir heriau—nid oes neb erioed wedi gwadu hynny. Mae'r heriau’n llawer mwy nawr nag yr oedd angen iddyn nhw fod, gan fod anhyblygrwydd Theresa May a’i byddardod i realiti wedi gwneud hwn yn ddiweddglo annisgwyl i'r broses ddwy flynedd, lle'r ydym ni fwy neu lai wedi gwneud dim i baratoi ar gyfer y canlyniad y mae'n ymddangos yr ydym ni'n mynd i'w gael. Mae hynny, rwy’n meddwl, yn esgeulustod difrifol ar ei rhan hi ac ar ran ei Llywodraeth gyfan.

Foment yn ôl, cyfeiriodd y Gweinidog at gyfleoedd ym maes caffael cyhoeddus. Tybed pam mae'n ymddangos nad yw'r datganiadau hyn yr ydym ni’n eu clywed y prynhawn yma yn cynnig unrhyw obaith nac optimistiaeth o gwbl yn y broses hon. Wrth gwrs, cydbwysedd yw'r holl bethau hyn yn y pen draw, ac rwyf i wedi derbyn erioed bod gadael yr UE, yn ystod cyfnod pontio beth bynnag, yn mynd i arwain at gostau penodol, ond mae'r manteision yn y tymor canolig i'r tymor hir yn llawer mwy na'r costau hynny.

Cyfeiriodd Andrew R.T. Davies at un o'r cyfleoedd, i faes amaethyddiaeth yn benodol, a gynigir gan Brexit. Cyfeiriodd at gig eidion yn unig, ond mae gennym ni ddiffyg enfawr yn ein masnach gyda’r UE yn y rhan fwyaf o feysydd cynnyrch, yn enwedig da byw. Er enghraifft, o ran dofednod, rydym ni’n mewnforio pedair gwaith cymaint ag yr ydym ni’n ei allforio; cig eidion, tair gwaith cymaint ag yr ydym ni’n ei allforio; porc, tair gwaith cymaint ag yr ydym ni’n ei allforio; a hyd yn oed pethau fel wyau—rydym ni’n mewnforio 24 gwaith cymaint ag yr ydym ni’n ei allforio. Felly, ceir cyfleoedd enfawr yma i ddisodli mewnforion. Ac os yw'r UE mor hurt â pheidio â chytuno rhyw fath o gytundeb masnach rydd dros dro sy'n cynnal y sefyllfa bresennol yn y tymor byr, heb ein cadw ni o fewn y sefydliadau llywodraethol fel y farchnad sengl a’r undeb tollau, yna mae gwledydd yr UE yn mynd i wynebu colledion enfawr, yn enwedig Gweriniaeth Iwerddon, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies—mae 82 y cant o’u hallforion llaeth nhw yn mynd i’r DU a 49 y cant o’u cig eidion. Os bydd trethi o 25 i 35 y cant ar allforio cig eidion, neu fwy fyth yn achos llaeth, rwy’n credu, yna maen nhw'n mynd i fod mewn trafferthion difrifol yn Iwerddon. Felly, mae’r un math o benbleth ag yr ydym ni'n ceisio ei datrys yma yn mynd i orfod cael ei datrys mewn mannau eraill, oherwydd mae gennym ni ddiffyg enfawr gyda bron bob aelod o'r UE: diffyg masnach o £4 biliwn gyda’r Iseldiroedd, £2 biliwn gyda Ffrainc, £3 biliwn gyda’r Almaen, a £0.5 biliwn y flwyddyn gydag Iwerddon, sy’n ffigur bach i’r DU ond yn ffigur mawr iawn i Iwerddon. Gallwn fynd drwy’r llu cyfan o wledydd a chyflwyno ffigurau tebyg. Felly, eu problemau nhw yw ein cyfleoedd ni.

Tybed pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, neu'n bwriadu ei wneud, gyda ffermwyr Cymru i lenwi'r bylchau a fydd yn agor os bydd gennym ni dariffau ar ôl 29 Mawrth ar fewnforion ac allforion bwyd, rhywbeth nad oes neb eisiau ei weld, yn enwedig fi—rwy’n credu mewn masnach rydd. Roeddwn i'n meddwl erioed y dylai cytundeb masnach rydd fod ar waith gyda'r UE erbyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd, ond yn anffodus ni ddilynodd y Llywodraeth y trywydd hwnnw. Aeth Theresa May ar drywydd a oedd yn sicr o fethu o'r cychwyn cyntaf, oherwydd doedd neb eisiau ateb hanner ffordd fel yr un y mae'n ymddangos ei bod hi’n meddwl sydd orau.

Neithiwr, yn yr un cinio yr oedd y Gweinidog yn bresennol ynddo, cefais lawer o drafodaethau gyda ffermwyr hefyd ynglŷn ag ansicrwydd Brexit, ac un ansicrwydd yr oedden nhw’n cwyno amdano oedd yr ansicrwydd yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno trwy ei gynnig i derfynu taliadau sylfaenol i ffermwyr. Un o'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru leihau ansicrwydd mewn gwirionedd—er fy mod i o blaid cyfeiriad polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru—yw trwy beidio â defnyddio’r dull telesgop, fel y cynigir rwy’n credu, ond trwy gyflwyno’r symudiad oddi wrth daliadau sylfaenol yn raddol dros gyfnod o flynyddoedd, i roi amser i ffermwyr addasu—er fy mod i'n meddwl y bydd angen rhyw fath o ddull cymorth cynllun taliadau sylfaenol ar rai mathau o uned fferm bob amser, yn enwedig ar dir ymylol, mewn ardaloedd ucheldir ac yn y blaen ac yn y blaen. Mae'n ymddangos i mi mai mynd dros ymyl y dibyn, i ddefnyddio cyfatebiaeth gyfarwydd iawn, fel y mae'r Gweinidog yn ei gynnig yn ei hymgynghoriad, yw’r ffordd hollol anghywir o ymdrin â pha bynnag ansicrwydd a fydd yn codi o ganlyniad i fethiant strategaeth drafod Theresa May.

Y trydydd pwynt a'r olaf yr hoffwn holi yn ei gylch yw: un o'r cyfleoedd a fydd gennym ni o ganlyniad i ailwladoli polisi amaethyddol yma i Gaerdydd yw diwygio rheoleiddio. Ceir llawer o feysydd rheoliadau y mae ffermwyr yn cwyno amdanynt y gellid eu symleiddio, lle gellid lleihau costau, heb amharu dim ar y materion polisi cyhoeddus cyffredinol y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno arnynt o ran amddiffyniadau amgylcheddol. Mae’r UE eisiau gwahardd glyffosad, er enghraifft, fel chwynladdwr, a does dim math mwy effeithlon o ladd chwyn ar gael i ffermwyr. Byddai glyffosad yn broblem fawr i lawer o fathau o ffermwyr, pe na bai ar gael. Rheoliadau nitradau, rheoliadau cynefinoedd—ceir newidiadau manwl y gellid eu gwneud i'r mathau hyn o reoleiddio a fydd yn gwneud bywydau ffermwyr yn haws ac yn llai costus. Mae hynny hefyd yn helpu i greu cyfleoedd newydd, oherwydd, oes, os oes costau a fydd yn cael eu gorfodi o ganlyniad i Brexit, ceir arbedion gwrthbwysol y gellid eu gwneud hefyd trwy gael polisi amaethyddol sydd wedi'i deilwra ar gyfer gwahanol draddodiadau topograffig, hinsoddol a diwylliannol Cymru. Felly, pa waith sy’n cael ei wneud i edrych ar lyfr statud yr UE, fel petai, gyda'r bwriad o leihau costau rheoleiddio heb beryglu’r amcanion polisi cyffredinol, y byddem ni i gyd yn eu rhannu?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:07, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Nid wyf i'n gwybod pam rydych chi'n synnu cymaint bod Michel Barnier wedi dweud hynny am gytundeb caled. Mae 27 ohonyn nhw. Mae un ohonom ni. Os oeddech chi'n meddwl erioed y byddem ni’n cael cytundeb gwell drwy adael yr UE—wel, roeddech chi'n amlwg yn meddwl y byddem ni’n cael cytundeb gwell drwy adael yr UE, oherwydd dyna roeddech chi ei eisiau—. Dydw i ddim yn deall pam mae pobl yn meddwl y byddai hynny'n digwydd. Rwyf i wedi bod i gyngor amaethyddol a chyngor amgylcheddol a chyngor pysgodfeydd, lle rwy'n teimlo mor ar wahân, gan fy mod i'n gwylio 27 yr UE yn cyflawni eu busnes, ac rydym ni ar ein pen ein hunain yn llwyr. Mae pam y byddech chi’n meddwl na fydden nhw’n cael gwell cytundeb na ni y tu hwnt i mi.

Rydych chi'n dweud bod cyfleoedd enfawr. Nid wyf i'n gweld y cyfleoedd enfawr hynny. Rwy’n gweld heriau enfawr, a dyna beth yr wyf i wedi ei drafod yn fy natganiad. Roeddwn i'n ceisio dweud wrth Llyr fy mod i'n meddwl bod caffael cyhoeddus yn un cyfle, ond rwy’n ei chael hi'n anodd y tu hwnt i hynny. Rwy’n gweld heriau yn fy nghymhorthfa fy hun pan fydd gen i etholwr sy'n dod ataf sydd, os yw eisiau mynd â’i anifail anwes ar wyliau ddydd Gwener, cyhyd ag y bo ganddo basbort anifeiliaid anwes, gall fynd â’i anifail anwes ar wyliau ddydd Gwener. Ni fydd hynny'n digwydd ar ôl 29 Mawrth. Mae'n debyg y bydd yn cymryd tua phedwar mis. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi fynd â’ch anifail anwes at y milfeddyg dair neu bedair gwaith i gael profion gwaed. Mae'r cyfan yn mynd i fod yn llawer anoddach nag y mae pobl wedi arfer ag ef, ac mae angen gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod beth fydd yr heriau hynny.

Roedd gennym ni—wel, mae gennym ni, ar hyn o bryd, am ddau fis arall o leiaf, fasnach ddidrafferth â'n cymdogion agosaf: 0.5 biliwn o bobl. Pam na fyddech chi eisiau i hynny barhau? Rydych chi’n sôn am reoliadau a safonau amgylcheddol. Fe'i gwnaed yn eglur iawn gennyf na fydd safonau amgylcheddol yn gostwng, ond hoffwn gael gwared â chymaint o fiwrocratiaeth ag y gallaf, oherwydd, yn sicr, pan ddes i’r swydd hon gyntaf, a chafwyd canlyniad y refferendwm, a siaradais â ffermwyr, roedd llawer ohonyn nhw wedi pleidleisio i adael, a phan ofynnais iddyn nhw pam, biwrocratiaeth oedd un o'r pethau yr oedden nhw’n dweud wrthyf i eu bod nhw eisiau cael gwared arno. Ac eto, rydym ni’n gwybod mai’r effaith ar ein sector amaethyddol yw: os bydd gennym ni 'ddim cytundeb', bydd gennym ni dariffau uchel, bydd gennym ni fwy o fiwrocratiaeth, bydd oedi ar y ffin, a bydd hynny i gyd yn ychwanegu at y gost o allforio. Felly, er fy mod innau hefyd eisiau lleihau biwrocratiaeth, nid yw'n hynny'n mynd i ddigwydd mewn senario 'dim cytundeb'. Rwy’n clywed yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud nad ydych chi’n meddwl y dylai fod senario 'dim cytundeb'. Hon oedd y sefyllfa ddiofyn, ac, a dweud y gwir, roedd yno bob amser, onid oedd—y perygl o hynny.

O ran 'Brexit a’n tir', rwyf i wedi ei gwneud yn eglur iawn na fydd ymyl clogwyn. Un o'r rhesymau am fynd allan i Seland Newydd oedd i weld beth oedd yn digwydd yno, ac rwyf i wedi dweud o'r cychwyn y bydd cyfnod pontio aml-flwyddyn. Ni fydd ymyl clogwyn. Ni fydd cynlluniau newydd yn cael eu cyflwyno tan eu bod yn hollol barod, ac ni fydd yr hen gynlluniau yn cael eu diddymu tan fod y cynlluniau newydd hynny ar waith.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:10, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Dau bwynt cyflym. Y cyntaf yw: pe bai pobl wedi dweud wrthyf, pan wnaethom ni gyflwyno Erthygl 50 a’i sbarduno, na fyddem ni, bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, wedi cael yn agos at gytundeb, fyddwn i ddim wedi eu credu nhw. Rydym ni hefyd yn sôn llawer am gaffael cyhoeddus. Os ydym ni eisiau cael mwy o gaffael cyhoeddus yng Nghymru, nid yw'n fater o reolau, mae'n fater o faint y contractau. Po fwyaf yw’r contractau yr ydych chi’n eu cyflwyno, y mwyaf tebygol ydynt o gael eu hennill gan gwmnïau mawr. Gwnewch y contractau yn llai, a bydd cwmnïau lleol yn eu hennill nhw. Mae hynny'n gweithio ar gyfer priffyrdd ac amaethyddiaeth, neu bron unrhyw beth arall.

Yn 2017, daeth 50 y cant o'r bwyd a gafodd ei fwyta yn y DU o’r DU, daeth 30 y cant o Ewrop a daeth 20 y cant o weddill y byd—i roi gweddill y byd ac Ewrop mewn rhyw fath o gyd-destun o ran Prydain. Y bore yma, dywedodd Mr Roberts o’r FUW:

Dydyn ni ddim yn gwybod pa gyfraddau tariff fydd yn cael eu codi ar fewnforion o wledydd eraill ar ôl mis Mawrth, gan na fydd y tariffau drafft yn cael eu cyhoeddi tan ddiwedd mis Chwefror ac mae angen i’r senedd eu cymeradwyo—felly mae'n rhaid dod i gytundebau â mewnforwyr heb unrhyw wybodaeth am y costau ychwanegol sy'n debygol o godi mewn porthladdoedd.

Dydy hynny ddim yn ffordd dda o redeg dim a dweud y gwir, nac ydy?

Wrth gwrs, yn ogystal â thariffau, ceir archwiliadau amgylcheddol hefyd o unrhyw gynnyrch amaethyddol neu gynnyrch pysgodfeydd sy’n cael ei allforio. Gan fod nifer o'n hallforion, fel pysgod cregyn, yn sensitif o ran amser, byddai unrhyw achos o arafu allforion—yn hytrach na mynd â nhw i'r farchnad, yn mynd â nhw i’r domen sbwriel.

Mae gen i ddau gwestiwn i'r Gweinidog. A all y Gweinidog esbonio sut y gallwn ni gael cytundebau masnach amaethyddol buddiol nawr nad oeddem ni’n gallu eu cael cyn 1973? Yr ail beth yw: a all y Gweinidog weld sut y byddai'n bosibl i gytundeb masnach sy'n cynnwys cig oen gyda Seland Newydd beidio â bod yn drychinebus? Nid wyf i'n anghofio, wrth gwrs, y ffermwr o'r gorllewin a oedd yn edrych ymlaen at allforio ei gig oen i Seland Newydd.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:12, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau hynny ac, unwaith eto, am ei sylwadau. Yn anffodus, wrth i amser fynd heibio, roeddwn i’n gallu gweld y sefyllfa 'dim cytundeb' hon. Fel y dywedais, yr haf diwethaf, yn y sioeau amaethyddol, cefais lawer o sgyrsiau gan fy mod i'n gallu gweld beth oedd ar y gorwel, yn anffodus. Fel y dywedais, pam byddai 27 gwlad yr UE yn rhoi cytundeb da i ni? Ofer yw beio’r UE. Mae'n ymddangos bod pobl yn beio’r UE. Ein llanastr ni yw hwn. Ni sydd wedi gwneud y llanastr hwn.

Rwy’n meddwl eich bod chi’n iawn am gaffael cyhoeddus. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud wrth y ddau siaradwr blaenorol fy mod i’n teimlo bod hwnnw’n gyfle mawr, ac mae angen i ni edrych ar sut yr ydym ni’n caffael. Mae tariffau hefyd yn anhygoel o bwysig, ac mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn ystyried rhyddfrydoli masnach—dileu tariffau ar nwyddau o’r UE a gweddill y byd fel mesur wrth gefn mewn senario 'dim cytundeb'. Felly, gallwch chi weld pam mae ein ffermwyr mor arbennig o bryderus am hynny.

O ran pysgod cregyn, rydych chi yn llygad eich lle. Mae’r rhan fwyaf o bysgod cregyn yn gadael y llong neu'r cwmni ac o fewn 24 awr, yn cael eu danfon, yn fyw, i rywle arall. Felly, os bydd yn aros mewn porthladd am unrhyw gyfnod hwy na hynny, bydd pysgod yn marw. Bydd pysgod yn cael eu difetha, ac rwyf i wir yn bryderus dros ben. Dywedais y bore yma yn y brîff i'r lobi fy mod i'n bryderus iawn am y diwydiant os na fydd cytundeb

Mae cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd yn peri pryder mawr. Fel y dywedais, pan gefais gyfarfod â Vangelis Vitalis, y prif drafodwr yn Seland Newydd, fe'i gwnaeth yn eglur iawn i mi ei fod yn brif flaenoriaeth. Mae pob un o’n ffermwyr yr wyf i'n siarad â nhw yn bryderus iawn oherwydd, yn amlwg, mae marchnad cig oen Cymru wedi bod yn crebachu yma yng Nghymru, ac maen nhw'n bryderus iawn am gael eu boddi gan gig oen rhad.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:14, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy’n meddwl, er y gallai fod rhai cyfleoedd i ddisodli mewnforion yn y tymor canolig, mai’r pryder mwyaf uniongyrchol y dylai fod gan unrhyw Lywodraeth yw sicrhau diogelwch bwyd. Felly, gan fod dros dri chwarter y bwyd yr ydym ni’n ei fwyta yn cael ei fewnforio o'r UE, gan gynnwys hanner ein llysiau a 95 y cant o'n ffrwythau sy'n cael eu mewnforio, mae hyn oll yn bwysig iawn. Felly, byddwn yn awyddus i gael gwybod, os yw'n bosibl, pa dariff fydd ar ffrwythau a llysiau ffres sy’n dod o Ewrop yn y dyfodol. Cyfeiriasoch at 15 y cant ar fwydydd wedi'u prosesu, felly rwy’n gobeithio y gallwch chi ein goleuo ni ynghylch hynny.

I droi at y bygythiadau sydd hefyd yn gyfleoedd posibl, os cawn ni’r tariffau hyn wedi eu gorfodi gan Sefydliad Masnach y Byd, mae’n newid yr achos busnes dros dyfu mwy o’n llysiau a’n ffrwythau ein hunain, ac roeddwn i'n meddwl tybed, gan fod y tymor tyfu’n dechrau fis nesaf, a yw hon yn sgwrs weithredol yr ydych chi'n ei chael gyda’n ffermwyr ar hyn o bryd. A yw hyn yn rhywbeth sy'n mynd i gael ei godi yng nghynhadledd Cyswllt Ffermio ar 7 Chwefror?

Ac, y cwestiwn olaf sydd gen i, mae'n debyg, yw eich bod chi'n sôn am Gymru yn ennill mwy o bwerau dros yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd ar ôl Brexit. Yn wahanol i Neil Hamilton, y mae'n ymddangos ei fod o blaid cyfleoedd i daenu nitradau’n ddi-hid, rwy’n eithaf awyddus i ddeall, os na fydd gennym ni amddiffyniadau rheoliadau bwyd yr UE mwyach, sut ydym ni’n mynd i atal llif o gyw iâr clorinedig a bwydydd difwynedig eraill rhag boddi ein marchnadoedd a rhoi ein ffermwyr, sydd â safonau uwch o lawer o ran lles ac ansawdd, allan o fusnes.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:16, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. O ran eich cwestiwn ynghylch pa un a fydd y drafodaeth ynghylch ffrwythau a llysiau o Gymru yn cael ei chodi yn y gynhadledd Cyswllt Ffermio, nid wyf yn rhy siŵr beth yw'r agenda, ond yn sicr gallaf gael yr wybodaeth a rhoi gwybod i chi.

O ran tariffau, ni allaf roi unrhyw ffigurau ichi, oherwydd, fel y byddwch wedi clywed yn gynharach, ni fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi—ac mae'n rhaid iddyn nhw fynd drwy'r Senedd—tan ddiwedd mis Chwefror. Ond, yn sicr, gallai sefyllfa 'dim cytundeb' olygu y gellid gweld tariffau o 50 y cant yn cael eu gosod ar rywfaint o'n bwydydd. Dyna'r ffigur uchaf yr wyf i wedi ei glywed, ac, yn sicr yr wythnos diwethaf, yn y drafodaeth a gefais yn y cyfarfod pedairochrog gyda'm cymheiriaid a Michael Gove, defnyddiwyd y ffigurau hynny. Ac, fel y dywedwch chi, mae'n beryglus iawn os mai Brexit heb gytundeb a gawn ni, a'r sefyllfa waethaf i amaethyddiaeth Cymru yw ein bod yn caniatáu mewnforio bwyd rhad ar adeg pan fydd tariff mor uchel â 50 y cant ar ein hallforion.

Mae llygredd amaethyddol yn rhywbeth sydd, yn amlwg, yn peri pryder mawr i mi, ac rwyf newydd gymryd camau er mwyn edrych ar reoliadau llinell sylfaen, a byddwch yn ymwybodol o ddatganiad ysgrifenedig a gefais. Rydym wedi ei gwneud hi'n glir iawn. Yn ffodus, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru, wrth edrych yn ôl, wedi bod yn eithaf rhagweledol wrth gyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 fel y gwnaethom ni, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac, yn sicr, pan siaradaf â'm cymheiriaid yn yr Alban, maen nhw'n gweld bod hynny'n flaengar iawn. Fodd bynnag, fe fyddwch chi'n ymwybodol fy mod yn cymryd pwerau pontio o'r Bil Amaethyddiaeth, yn bennaf fel y gallwn barhau i dalu ein ffermwyr. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud yr un peth gyda'r Bil Pysgodfeydd, oherwydd, er nad ydym ni'n talu ein pysgotwyr yn yr un ffordd ag yr ydym ni'n talu ein ffermwyr, mae'r arian EMFF yn dal gennym ni ac mae angen inni ei ddefnyddio, yn amlwg, yn y ffordd y buom ni'n ei ddefnyddio. Felly, pwerau dros dro yn unig fydd y rheini hyd nes y byddwn yn cyflwyno ein Bil Amaethyddiaeth ein hunain a'n Bil Pysgodfeydd ein hunain.

Mae mynd i'r afael â'r bylchau amgylchedd yn bwysig iawn, a byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Llyr y byddwn yn trefnu ymgynghoriad ynghylch sut y byddwn ni'n mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw, oherwydd bod y bwlch yn wahanol iawn yng Nghymru i'r hyn ydyw yn y DU oherwydd ein Deddf yr amgylchedd.