Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 22 Ionawr 2019.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at bobl sy'n credu mewn breuddwyd gwrach, a oedd yn cyfeirio at gytundebau masnach rydd, ond, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod mai'r realiti yw na fyddem ni'n gallu gwneud unrhyw gytundebau masnachu mewn mannau eraill o gwmpas y byd o dan eich cynigion chi, sy'n ceisio ein cadw mewn undeb tollau. Dyna'r realiti, a tybed a allech chi gadarnhau eich bod yn derbyn mai dyna'r realiti o dan y cynigion yr ydych chi wedi eu datblygu ac wedi eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn eich dogfen. Dyna yw'r realiti; nid oes neb yn—. Mae'r UE wedi'i gwneud yn gwbl glir, os ydym ni mewn undeb tollau, ni all fod unrhyw gytundebau masnach rydd. Ac eto, dyma un o'r pethau yr oedd y cyhoedd ei eisiau ac y pleidleisiodd llawer ohonyn nhw drosto wrth bleidleisio o blaid Brexit.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at lawer o'r cwmnïau, yn gwbl briodol, sy'n allforio ac sy'n pryderu am ddyfodol marchnadoedd allforio yn yr UE. Rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r pryderon hynny, ac mae'n gwbl briodol y dylem ni eu trafod yn agored. Ond, a ydych chi'n derbyn nad yw'r mwyafrif llethol o fusnesau Cymru yn allforio i'r UE ac felly na fydd yn effeithio arnyn nhw yn y ffordd a awgrymwyd gennych chi?
Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at rai o'r heriau a all godi o ganlyniad i Brexit 'heb gytundeb' o ran cynnydd mewn biwrocratiaeth a chymhlethdod o ran rhwystrau di-dariff. Rwy'n derbyn y byddai'n rhaid i bethau newid, ond a ydych chi'n derbyn nad yw'r heriau hynny'n anorchfygol? Mae gennym ni'r mathau hynny o archwiliadau eisoes ar gyfer nwyddau o fannau eraill y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ac ymddengys nad ydyn nhw'n achosi unrhyw un o'r problemau yr ydych chi wedi awgrymu a allai godi yn eich datganiad.
Nid wyf yn hollol siŵr at beth yr ydych chi'n cyfeirio pan ddywedasoch chi y byddai'n amhosibl i lawer o fusnesau allforio dim ond oherwydd y byddai ganddyn nhw reolau gwahanol ar gyfer pob un o 27 gwlad yr UE. Nid wyf yn deall hynny. Os oes marchnad sengl, siawns nad oes rheolau sengl i'r farchnad honno, ac ni allaf ddeall pam yr ydych chi'n awgrymu y byddai 27 o wahanol gyfresi o reolau. Felly, nid wyf yn siŵr ai smonach lwyr yw hynny yn y datganiad yr ydych chi newydd ei ddarllen, neu'r un a gafodd ei ddosbarthu, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod yn union beth yr ydych chi'n ei olygu gan y datganiad arbennig hwnnw.
Nodais i chi gyfeirio at y sector addysg, ac, yn ddealladwy, maen nhw'n pryderu ynghylch cael gafael ar arian ymchwil a rhywfaint o'r cydweithio y maen nhw'n cymryd rhan ynddo ar hyn o bryd. Wrth gwrs, hoffwn i, yn sicr, weld y cydweithredu hynny yn parhau, oherwydd fy mod yn berson sy'n credu y dylem ni geisio taro bargen. Ond, a ydych chi'n cytuno â mi felly, bod cyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe, bod £0.25 biliwn yn ychwanegol—yn wir, £279 miliwn o fuddsoddiad gan y Llywodraeth—er mwyn datblygu gallu ymchwil ledled y DU, gan gydweithio â phartneriaid rhyngwladol i fynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf y byd, i'w groesawu? Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i ymgysylltu â Llywodraeth y DU er mwyn ceisio denu rhywfaint o'r buddsoddiad ymchwil hwnnw yma i Gymru?
Rydych chi wedi awgrymu mai'r risg i ddyfodol ein gwlad yw Llywodraeth adain dde a fydd yn ymateb drwy geisio lleihau costau a hybu cystadleurwydd, ac eto, y gwir amdani yw bod gennym Lywodraeth, Llywodraeth y DU, sydd wedi rhoi ymrwymiadau cwbl glir i beidio ag erydu unrhyw un o'r safonau amgylcheddol sydd gennym ar hyn o bryd, na'r safonau cyflogaeth sydd gennym ychwaith. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi nad Brexit 'heb gytundeb' yw'r risg fwyaf, ond Llywodraeth adain chwith eithafol dan arweiniad Jeremy Corbyn, a fyddai, unwaith eto, yn dinistrio ein cyllid cyhoeddus ac yn achosi i lawer o'n cynghreiriaid ledled y byd ymgilio o'r math o Lywodraeth a allai fod gennym?
Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at yr angen i ni sicrhau ein bod yn groesawgar i bobl o wledydd eraill, a bod gennym weithlu yma yng Nghymru sy'n gallu darparu gwasanaethau ac anghenion busnesau ledled y wlad. A ydych chi'n derbyn felly ei bod yn llawer gwell bod â chyfle cyfartal i bobl, pa un a ydyn nhw o Berlin neu Bangalore os oes ganddyn nhw'r sgiliau iawn, i allu dod i'r wlad hon i allu gwasanaethu yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac, mewn gwirionedd, y canlyniad posibl yma yw system fewnfudo decach, y mae'r Prif Weinidog wedi ceisio negodi drwy ei chytundeb hi?
Ac a ydych chi hefyd yn derbyn, wrth bennu'r chwe phrawf, bod y Blaid Lafur mewn gwirionedd yn pennu nifer o linellau coch ei hun ynghylch perthynas bosibl â'r UE yn y dyfodol, ac ar yr un pryd yn beirniadu'r llinellau coch y mae Llywodraeth y DU wedi eu pennu?
Ac yn olaf, a gaf i ofyn ichi: pa berson yn ei iawn bwyll fyddai'n cytuno ar unrhyw adeg i daro bargen gyda rhywun o dan unrhyw amgylchiadau, ni waeth pa mor wael y gallai'r fargen honno fod, oherwydd dyna beth yr ydych chi'n gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud drwy ddweud, 'Peidiwch â chynnwys ymadael heb gytundeb fel dewis'? Dyna'r realiti. Pwy pan fyddan nhw'n mynd i brynu tŷ sy'n gwarantu—[Torri ar draws.] Pwy pan fyddan nhw'n mynd i brynu tŷ sy'n gwarantu y byddan nhw'n prynu'r tŷ hwnnw ac y byddan nhw'n dod i drefniant wrth brynu'r tŷ hwnnw heb y gallu i gerdded i ffwrdd os yw cost y tŷ hwnnw yn rhy uchel? Nid oes neb yn gwneud hynny. Dyna'r gwir, a dyna pam mae'r Prif Weinidog yn gwbl iawn i beidio â dileu ymadael heb gytundeb o'r dewisiadau.