– Senedd Cymru am 6:48 pm ar 22 Ionawr 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar effaith Brexit heb gytundeb ar Gymru, ac dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ymwybodol efallai bod yr holl sôn am Brexit heb gytundeb yn achosi syrffed erbyn hyn. Ond, wrth gloi'r gyfres hon o ddatganiadau y prynhawn yma, rwyf am ganolbwyntio ar yr effaith cyffredinol ar ein heconomi ac ar les pobl Cymru.
Bydd Brexit heb gytundeb yn cael effaith negyddol ddifrifol ar weithwyr, ar fusnesau, ar addysg uwch ac addysg bellach ac ar yr economi yng Nghymru. Yn wir, mae effaith y ddwy flynedd ddiwethaf o ansicrwydd i'w weld yn barod, gyda dirywiad yn nifer y cwmnïau sy'n gwneud penderfyniad terfynol i fuddsoddi yma. Mae llawer un o'r farn mai'r ansicrwydd oherwydd Brexit yw un o'r prif resymau am hyn.
Mae ymchwilwyr ac academyddion amlwg ac annibynnol yn gytûn y gallai adael y farchnad sengl a mabwysiadu'r rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn lle hynny achosi i economi'r Deyrnas Unedig fod 8 y cant i 10 y cant yn llai nag y byddai wedi bod fel arall. Mae hynny'n golygu nid yn unig niwed i fusnesau, ond niwed gwirioneddol hefyd i swyddi a chyflogau. Byddai Brexit heb gytundeb yn cael effaith uniongyrchol ar safonau byw, gydag incwm y pen hyd at £1,500 i £2,000 yn is ar gyfartaledd. Byddai hyn yn ychwanegol at y twf is sydd wedi bod ers canlyniad y refferendwm, dirywiad sydd, ym marn Banc Lloegr, wedi achosi gostyngiad o £800 mewn incwm aelwydydd yn barod. Felly, mae Brexit heb gytundeb yn golygu llai o swyddi, incwm is a mwy o risg o dlodi i bobl mewn cymunedau dros Gymru.
Rwy'n gwybod y bydd rhai Aelodau yn diystyru hyn fel codi bwganod, ond i'r rhai hynny sy'n credu bod cyfnod da ychydig rownd y gornel os symudwn ni i delerau Sefydliad Masnach y Byd, gadewch imi ddyfynnu Llywydd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, John Allan, a ddywedodd yr wythnos diwethaf:
Mae'r syniad mai ni yw'r unig genedl o bwys ar y ddaear sy'n gweithredu dim ond ar delerau Sefydliad Masnach y Byd yn ymddangos i mi ein bod ni'n ffyddiog bod gennym ni ras filltir ond fe rown ni gyfle i bawb arall redeg o amgylch y trac o'n blaenau—a pheidiwch â phoeni, rydym ni'n mor dda byddwn ni'n dal i ennill. I fod yn onest,' dywedodd,
Rwy'n credu bod hynny'n freuddwyd gwrach.
Mae'r rheini sy'n dadlau y byddai'n well ymadael heb gytundeb oherwydd y byddai'n caniatáu i'r DU negodi cytundebau masnach rydd newydd yn twyllo'u hunain. Hyd yn oed ar gyfres optimistaidd iawn o dybiaethau Llywodraeth y DU, byddai cytundebau masnach rydd newydd yn ychwanegu 0.2 y cant at ein cynnyrch domestig gros, o'i gymharu â'r golled o 8 i 10 y cant a achosir gan lai o fynediad at farchnadoedd Ewropeaidd. Nid yw'r rhesymau dros yr effeithiau macro-economaidd hyn yn anodd eu hegluro. Mae gan economi Cymru gysylltiad agos â marchnad sengl yr UE, ac mae rhyw 60 y cant o allforion adnabyddadwy Cymru yn mynd i wledydd yr UE. Os byddwn yn gadael heb gytundeb, bydd gan Lywodraeth y DU ddewisiadau anodd eu gwneud. Mae rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn golygu na fyddwn, heb gytundeb masnach rydd, yn gallu parhau i fasnachu heb dariffau â 27 gwlad yr UE a byddwn ni'n codi tariffau ar gynhyrchion tebyg o wledydd eraill. Bydd gennym ddewisiadau ar wahân i'w gwneud ar nwyddau o bob math. Naill ai ein bod yn codi tariffau ar gynhyrchion yr UE, gan sbarduno chwyddiant, erydu safonau byw, a, fan bellaf, gwneud bywyd yn ddrutach ac yn anoddach i'r rhai hynny sy'n defnyddio cydrannau a wneir yn Ewrop yn eu gwaith cynhyrchu, neu ein bod yn torri tariffau yn unochrog, yn tanseilio ein sefyllfa fargeinio, ac yn creu risg y bydd gwledydd â sylfeini costau is a safonau amgylcheddol a marchnad lafur llawer is yn gallu gwerthu nwyddau yn rhatach na chynhyrchwyr y DU.
O dan unrhyw amgylchiadau, pe byddem yn ymadael heb gytundeb, byddem yn gweld tariffau newydd yr UE sy'n effeithio ar lawer o sectorau a'r nwyddau y maen nhw'n eu cynhyrchu ar gyfer eu hallforio, yn tanseilio'r gallu i gystadlu. Ac mae'n gamarweiniol awgrymu y bydd effaith tariffau yn cael ei gwrthbwyso gan ostyngiad pellach yng ngwerth sterling. Yn ôl arolygon gan Ffederasiwn y Cyflogwyr Peirianneg, dim ond 6 y cant o weithgynhyrchwyr sy'n credu y byddai sterling gwannach yn eu helpu, heb sôn am y ffaith y byddai gostyngiad mewn sterling yn sbarduno chwyddiant ac yn erydu safonau byw ymhellach. Y rhai hynny sydd eisoes yn ei chael yn anodd fydd y rhai a fydd yn dioddef fwyaf os na all eu pecyn cyflog gynyddu ar yr un raddfa â chostau byw.
Mae'r hysbysiadau technegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn datgelu'r realiti o fwy o fiwrocratiaeth a chymhlethdod o ran rhwystrau di-dariff, y mae economegwyr yn credu eu bod yn cael effaith negyddol hyd yn oed yn fwy ar fusnesau—gofynion newydd ar gyfer achredu technegol, datganiadau tollau, rheolaethau allforio, prosesau a rhwymedigaethau TAW newydd. A bydd y rhai hynny sy'n darparu gwasanaethau yn 27 gwlad yr UE hefyd yn gweld eu mynediad i'r farchnad yn cael ei gwtogi'n sylweddol. At hynny, byddant yn wynebu gwahanol gyfresi o reolau a rheoliadau ym mhob un o'r aelod-wladwriaethau. I lawer o fusnesau bach, byddai hyn yn llythrennol yn ei gwneud yn amhosibl allforio.
Ac, ar gyfer ein sector addysg, bydd colli mynediad at gyllid ymchwil, cydweithredu, rhaglenni cyfnewid a thalent ryngwladol nid yn unig yn niweidio ein prifysgolion a'n colegau, ond yn mygu arloesi ac yn culhau ein gorwelion. Felly, gadewch inni beidio â bod dan unrhyw amheuaeth, o ran ein heconomi, byddai Brexit heb gytundeb yn drychineb, ac, fel yr wyf eisoes wedi pwysleisio, mae economi llai yn golygu llai o swyddi a swyddi â llai o gyflog, llai o arian yn dod i mewn i aelwydydd sydd dan bwysau. Mae hefyd yn golygu gostyngiad mewn incwm i'r Trysorlys. Mae llai o fusnesau a busnesau llai proffidiol a chyflogau is yn golygu sylfaen dreth lai. Mae hynny'n golygu gwneud dewisiadau anodd: dewisiadau i gwtogi gwariant cyhoeddus hyd yn oed ymhellach, cynyddu'r baich treth neu gynyddu benthyca cyhoeddus. Nid yw'r un o'r rhain yn ddewis deniadol dros y tymor hir. A'r risg yw y bydd Llywodraeth asgell dde yn ymateb drwy geisio lleihau costau a hybu cystadleurwydd nid trwy fuddsoddi, ond trwy gwtogi ar hawliau'r farchnad lafur a safonau amgylcheddol, yn dilyn model Singapore y mae'r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt yn ei ganmol i'r cymylau. Singapore—lle, rwy'n darllen heddiw, mae cefnogwr mawr Brexit, James Dyson, wedi symud ei bencadlys yno o Wiltshire. I lawer o gefnogwyr eraill Brexit, mae'n gwbl glir mai gadael yr Undeb Ewropeaidd yw'r cam cyntaf, ac nid y gair olaf, ar lwybr i Brydain lle ceir mwy o ansicrwydd swyddi a llai o fesurau diogelu.
Yn ystod y prynhawn, mae fy nghyd-Aelodau wedi ei gwneud yn glir, hyd yn oed wrth wynebu'r posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb' trychinebus, ein bod yn gwneud yr hyn a allwn ni, er bod hyn yn gyfyngedig yn anochel, i helpu i liniaru'r effaith, gan gynnwys rhoi ar waith ein gwefan newydd Paratoi Cymru fel adnodd gwybodaeth pwysig ar gyfer dinasyddion. Mae hyn yn wir hefyd am yr economi ehangach, ond rwy'n ymwybodol o'r hyn a ddywedwyd wrthyf dros y dyddiau diwethaf gan bobl fusnes arweiniol Cymru—na ddylem gymryd arnom y bydd unrhyw beth y gallwn ni ei wneud yn gwneud iawn am sefyllfa lle bydd allforio i fusnesau bach yn dod yn anhyfyw.
Byddwn yn parhau i ymfalchïo yn ein cyflawniadau fel cenedl ac yn hyrwyddo Cymru fel lle i fyw, gweithio, buddsoddi a gwneud busnes ynddi, byddwn yn gwella ein proffil rhyngwladol ac yn pwysleisio, yng Nghymru o leiaf, ein bod yn parhau i groesawu'r rhai hynny sydd wedi dewis dod o dramor i astudio, gweithio a gwneud eu bywydau yma. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan yr egwyddorion craidd a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd, yn anad dim, yr ymrwymiad i ddatblygu perthynas newydd a deinamig rhwng Llywodraeth a busnes sy'n seiliedig ar egwyddor buddsoddi cyhoeddus â diben cymdeithasol.
Rydym yn defnyddio ein cronfa cydnerthedd busnes newydd—fel y dywedodd Gweinidog yr economi yn gynharach—i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau wrth iddyn nhw geisio paratoi ar gyfer Brexit, a'n porth busnes i nodi'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud. Rydym ni'n trafod gyda Banc Datblygu Cymru sut y gallai ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i'r problemau llif arian a allai effeithio ar fusnesau mewn sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys defnyddio cronfa fuddsoddi hyblyg gwerth £130 miliwn, a grëwyd mewn ymateb i Brexit yn 2017. Pe byddem yn ymadael heb gytundeb, byddem hefyd yn ceisio sicrhau cydbwysedd o ran y galwadau am gymorth uniongyrchol ac ar unwaith i fusnesau sy'n cael trafferthion o gymharu â buddsoddiadau, er enghraifft yn ein seilwaith ffisegol a digidol a'n sylfaen sgiliau, a fydd yn dwyn budd i fusnesau ar draws rhanbarthau cyfan a'r economi ehangach yng Nghymru.
Rwyf eisiau cloi drwy ailbwysleisio'r neges glir a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn yr wythnos diwethaf, ac eto gan y Prif Weinidog, fod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddileu Brexit 'heb gytundeb' o'r dewisiadau a gynigir. Os bydd ymadael heb gytundeb yn dod yn realiti, bydd cyfrifoldeb clir ar Lywodraeth y DU i ryddhau cyllid i Lywodraeth Cymru i'n galluogi ni i weithio gyda phartneriaid busnes ac eraill a'u cefnogi wrth iddyn nhw geisio ymateb i'r effeithiau negyddol a ddaw o ganlyniad trychinebus o'r fath. A bydd effaith anghymesur Brexit 'heb gytundeb' ar Gymru yn golygu na fydd swm sylfaenol fformiwla Barnett yn ddigonol ar gyfer hyn o gwbl. Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am ei chyfrifoldeb ac i flaenoriaethu swyddi a thwf yma yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i chi am ddarparu'r datganiad cyn ei gyflwyno'r prynhawn yma, ac a gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am ymestyn y cwrteisi hwnnw?
Mae'n rhaid imi ddweud, nid ydym ni wedi dysgu unrhyw beth newydd o gwbl heddiw, er gwaethaf yr holl ddatganiadau ychwanegol sydd wedi'u gwneud. Y gwir amdani yw bod Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig, ac fe wnaeth y Deyrnas Unedig—gan gynnwys Cymru fel rhan gyfansoddol—bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. A hoffwn atgoffa'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, yn ei ardal ei hun, roedd gwahaniaeth o fwy na 13 y cant o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Nawr, rydych chi wedi gwneud llawer o gyfeiriadau at yr hyn sydd yn y bôn wedi'i ddweud yn y datganiadau lawer sydd eisoes wedi'u gwneud y prynhawn yma, ond fe wnaf godi rhannau penodol, oherwydd fy mod i'n credu ei bod yn gwbl briodol i mi allu gwneud hynny. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ragfynegiadau llawer o bobl y gwnaethoch chi eu galw yn ymchwilwyr ac academyddion prif ffrwd ac annibynnol. Yn ddiau y rhain yw'r un ymchwilwyr ac academyddion prif ffrwd ac annibynnol a ddywedodd, yn union ar ôl refferendwm yr UE yn ôl ym mis Mehefin 2016, pe byddai pleidlais i ymadael, y byddem ni yn mynd i mewn i ddirwasgiad ar unwaith. Dywedwyd wrthym y byddai cynnydd mewn diweithdra; dywedwyd wrthym y byddai cwymp yn y farchnad stoc—y cyfan yn union ar ôl y bleidlais honno. Dywedwyd wrthym y byddai gostyngiad mewn buddsoddiad tramor hefyd. Ond y gwir amdani yw bod gennym ni fwy o bobl mewn cyflogaeth nag erioed o'r blaen, mae'r economi wedi parhau i dyfu, rydym ni wedi ychwanegu gwerth ar y farchnad stoc ac, wrth gwrs, mae gennym fwy o fuddsoddiad uniongyrchol tramor net nag erioed o'r blaen—mae wedi cynyddu ers y bleidlais Brexit honno. Felly, mae'n rhaid imi ddweud bod yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed drwy'r prynhawn yn ddim mwy na chodi bwganod gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw addasu o gwbl yn eu safbwynt, sy'n eithaf syfrdanol, o ystyried y ffaith y buon nhw'n anghywir yn eu rhagfynegiadau o'r blaen, ar y mater arbennig hwn.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at bobl sy'n credu mewn breuddwyd gwrach, a oedd yn cyfeirio at gytundebau masnach rydd, ond, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod mai'r realiti yw na fyddem ni'n gallu gwneud unrhyw gytundebau masnachu mewn mannau eraill o gwmpas y byd o dan eich cynigion chi, sy'n ceisio ein cadw mewn undeb tollau. Dyna'r realiti, a tybed a allech chi gadarnhau eich bod yn derbyn mai dyna'r realiti o dan y cynigion yr ydych chi wedi eu datblygu ac wedi eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn eich dogfen. Dyna yw'r realiti; nid oes neb yn—. Mae'r UE wedi'i gwneud yn gwbl glir, os ydym ni mewn undeb tollau, ni all fod unrhyw gytundebau masnach rydd. Ac eto, dyma un o'r pethau yr oedd y cyhoedd ei eisiau ac y pleidleisiodd llawer ohonyn nhw drosto wrth bleidleisio o blaid Brexit.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at lawer o'r cwmnïau, yn gwbl briodol, sy'n allforio ac sy'n pryderu am ddyfodol marchnadoedd allforio yn yr UE. Rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r pryderon hynny, ac mae'n gwbl briodol y dylem ni eu trafod yn agored. Ond, a ydych chi'n derbyn nad yw'r mwyafrif llethol o fusnesau Cymru yn allforio i'r UE ac felly na fydd yn effeithio arnyn nhw yn y ffordd a awgrymwyd gennych chi?
Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at rai o'r heriau a all godi o ganlyniad i Brexit 'heb gytundeb' o ran cynnydd mewn biwrocratiaeth a chymhlethdod o ran rhwystrau di-dariff. Rwy'n derbyn y byddai'n rhaid i bethau newid, ond a ydych chi'n derbyn nad yw'r heriau hynny'n anorchfygol? Mae gennym ni'r mathau hynny o archwiliadau eisoes ar gyfer nwyddau o fannau eraill y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ac ymddengys nad ydyn nhw'n achosi unrhyw un o'r problemau yr ydych chi wedi awgrymu a allai godi yn eich datganiad.
Nid wyf yn hollol siŵr at beth yr ydych chi'n cyfeirio pan ddywedasoch chi y byddai'n amhosibl i lawer o fusnesau allforio dim ond oherwydd y byddai ganddyn nhw reolau gwahanol ar gyfer pob un o 27 gwlad yr UE. Nid wyf yn deall hynny. Os oes marchnad sengl, siawns nad oes rheolau sengl i'r farchnad honno, ac ni allaf ddeall pam yr ydych chi'n awgrymu y byddai 27 o wahanol gyfresi o reolau. Felly, nid wyf yn siŵr ai smonach lwyr yw hynny yn y datganiad yr ydych chi newydd ei ddarllen, neu'r un a gafodd ei ddosbarthu, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod yn union beth yr ydych chi'n ei olygu gan y datganiad arbennig hwnnw.
Nodais i chi gyfeirio at y sector addysg, ac, yn ddealladwy, maen nhw'n pryderu ynghylch cael gafael ar arian ymchwil a rhywfaint o'r cydweithio y maen nhw'n cymryd rhan ynddo ar hyn o bryd. Wrth gwrs, hoffwn i, yn sicr, weld y cydweithredu hynny yn parhau, oherwydd fy mod yn berson sy'n credu y dylem ni geisio taro bargen. Ond, a ydych chi'n cytuno â mi felly, bod cyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe, bod £0.25 biliwn yn ychwanegol—yn wir, £279 miliwn o fuddsoddiad gan y Llywodraeth—er mwyn datblygu gallu ymchwil ledled y DU, gan gydweithio â phartneriaid rhyngwladol i fynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf y byd, i'w groesawu? Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i ymgysylltu â Llywodraeth y DU er mwyn ceisio denu rhywfaint o'r buddsoddiad ymchwil hwnnw yma i Gymru?
Rydych chi wedi awgrymu mai'r risg i ddyfodol ein gwlad yw Llywodraeth adain dde a fydd yn ymateb drwy geisio lleihau costau a hybu cystadleurwydd, ac eto, y gwir amdani yw bod gennym Lywodraeth, Llywodraeth y DU, sydd wedi rhoi ymrwymiadau cwbl glir i beidio ag erydu unrhyw un o'r safonau amgylcheddol sydd gennym ar hyn o bryd, na'r safonau cyflogaeth sydd gennym ychwaith. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi nad Brexit 'heb gytundeb' yw'r risg fwyaf, ond Llywodraeth adain chwith eithafol dan arweiniad Jeremy Corbyn, a fyddai, unwaith eto, yn dinistrio ein cyllid cyhoeddus ac yn achosi i lawer o'n cynghreiriaid ledled y byd ymgilio o'r math o Lywodraeth a allai fod gennym?
Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at yr angen i ni sicrhau ein bod yn groesawgar i bobl o wledydd eraill, a bod gennym weithlu yma yng Nghymru sy'n gallu darparu gwasanaethau ac anghenion busnesau ledled y wlad. A ydych chi'n derbyn felly ei bod yn llawer gwell bod â chyfle cyfartal i bobl, pa un a ydyn nhw o Berlin neu Bangalore os oes ganddyn nhw'r sgiliau iawn, i allu dod i'r wlad hon i allu gwasanaethu yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac, mewn gwirionedd, y canlyniad posibl yma yw system fewnfudo decach, y mae'r Prif Weinidog wedi ceisio negodi drwy ei chytundeb hi?
Ac a ydych chi hefyd yn derbyn, wrth bennu'r chwe phrawf, bod y Blaid Lafur mewn gwirionedd yn pennu nifer o linellau coch ei hun ynghylch perthynas bosibl â'r UE yn y dyfodol, ac ar yr un pryd yn beirniadu'r llinellau coch y mae Llywodraeth y DU wedi eu pennu?
Ac yn olaf, a gaf i ofyn ichi: pa berson yn ei iawn bwyll fyddai'n cytuno ar unrhyw adeg i daro bargen gyda rhywun o dan unrhyw amgylchiadau, ni waeth pa mor wael y gallai'r fargen honno fod, oherwydd dyna beth yr ydych chi'n gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud drwy ddweud, 'Peidiwch â chynnwys ymadael heb gytundeb fel dewis'? Dyna'r realiti. Pwy pan fyddan nhw'n mynd i brynu tŷ sy'n gwarantu—[Torri ar draws.] Pwy pan fyddan nhw'n mynd i brynu tŷ sy'n gwarantu y byddan nhw'n prynu'r tŷ hwnnw ac y byddan nhw'n dod i drefniant wrth brynu'r tŷ hwnnw heb y gallu i gerdded i ffwrdd os yw cost y tŷ hwnnw yn rhy uchel? Nid oes neb yn gwneud hynny. Dyna'r gwir, a dyna pam mae'r Prif Weinidog yn gwbl iawn i beidio â dileu ymadael heb gytundeb o'r dewisiadau.
Wel, rwy'n gresynu at y difaterwch a'r optimistiaeth debyg i Pollyanna yn nhôn yr hyn y mae'r Aelod wedi'i gynnwys yn ei gwestiynau. Os yw'n credu bod economi sydd 2 y cant yn llai nag y byddai wedi bod fel arall yn unrhyw beth heblaw newyddion drwg i bobl Cymru, yna bydd yn canfod na fydd llawer o bobl yng Nghymru yn cytuno â'r safbwynt hwnnw, oherwydd, er ein bod ni'n trafod pethau yn y Siambr hon fel canrannau ac ystadegau, y tu allan i'r Siambr hon mae'r rheini'n swyddi ac yn fywoliaeth ac yn lles, ac mae'r difaterwch yn ei sylwadau yn fy syfrdanu.
Mae'n seilio—[Torri ar draws.] Mae'n seilio ei ddadl gyfan ar y farn y bydd allforion yn parhau ac y byddan nhw'n ffynnu fel y maen nhw. Rydym ni'n gwybod bod allforwyr Cymru yn gweithio'n galed iawn. Rydym ni'n gwybod bod lefelau allforio yn codi. Rydym ni'n gwybod, mewn gwirionedd, bod lefelau allforio i'r UE yn cynyddu'n gyflymach ac o sylfaen uwch, a dyna drasiedi'r model y mae'n ei ddisgrifio yn y fan yma i ni heddiw. Nid oes gan neb yn y Siambr hon unrhyw brofiad o fyw mewn DU sydd wedi cynnal polisi masnachu annibynnol effeithiol, oherwydd nad ydym wedi gwneud hynny ers degawdau.
Ac mae Liam Fox, ac rwy'n gwybod ei fod yn ei edmygu'n fawr, yn anad dim yn ei brognosis am y cyfleoedd sydd gennym ni i gyd i fynd i ryw wynfyd o fasnach rydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, eisoes wedi dweud ei fod e'n credu y byddem ni'n gallu ailadrodd 40 neu fwy o'r cytundebau masnach rydd hynny gyda'r UE cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, felly ni fyddai unrhyw darfu ar fasnach. Wel, rydym yn gwybod erbyn diwedd yr wythnos diwethaf, ers 2016, dim ond un cytundeb cyd-gydnabyddiaeth ag Awstralia a oedd wedi'i lofnodi. Felly, ar y gyfradd honno, mae angen iddo lofnodi pedwar yr wythnos dros y cyfnod nesaf cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae ef wedi dweud, 'Rydym ni'n barod', dywed am Lywodraeth y DU ond bod nifer o wledydd... yn amharod i wneud y paratoadau.
Os nad yw hynny'n swnio fel Ysgrifennydd masnach ryngwladol cwbl analluog, nid yw'n fodel hyderus, byd-eang—. Ac nid wyf i'n credu ei fod hyd yn oed yn hawlio y byddan nhw i gyd yn llofnodi—[Torri ar draws.] Nid yw—
Darren Millar, rydych chi eisoes wedi gofyn pob un o'ch cwestiynau chi. Fe fyddwn i wedi meddwl y byddech chi eisiau clywed yr atebion. Na, nid gwahoddiad i barhau i siarad oedd hynny. Cwnsler Cyffredinol.
Diolch, Llywydd.
Y math o gefnogaeth ar gyfer addysg yw'r math o gefnogaeth ar gyfer y sector addysg y mae Llywodraeth Cymru wedi'i hamlinellu yn ei dogfennau polisi seiliedig ar dystiolaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oes cysylltiad â'r math o gymorth y mae Llywodraeth y DU yn ei ragweld yn y datganiad gwleidyddol nac unrhyw beth arall y maen nhw wedi'i wneud, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg yn cymryd rhan lawn yn y trafodaethau hynny â Llywodraeth y DU, ac yn pwyso arnyn nhw ar bob cyfle i ddangos y gefnogaeth a'r eglurder sy'n ofynnol gan y sector yma yng Nghymru, a bydd ef yn gwybod bod y sector yn teimlo trawma'r cyfnod hwn sydd o'n blaenau.
Mae'n sôn am ddileu ymadael heb gytundeb o'r dewisiadau. Nid wyf yn gwybod faint o brofiad o negodi masnachol sydd gan yr Aelod—mae'n siŵr bod ganddo lawer ohono. Treuliais i'r 20 mlynedd ddiwethaf o'm hamser, mae'n debyg, cyn dod yma, yn negodi cytundebau ddydd ar ôl dydd, a'r un peth yr wyf i wedi'i ddysgu yw na fydd gwrthwynebydd wrth negodi yn rhoi unrhyw hygrededd i rywun sy'n honni bod ganddo ddylanwad y mae'n gwbl amlwg nad oes ganddo. A'r hyn y mae Theresa May wedi'i ddangos yn y fan yma yw ei diffyg dealltwriaeth o sut i gynnal trafodaethau priodol, sydd wedi ein rhoi yn y cyflwr enbyd y mae Llywodraeth y DU wedi ein rhoi ni ynddo heddiw.
A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am ei ddatganiad cynhwysfawr iawn, yn amlwg, yn y bôn ar economi Cymru a lles Cymru? Ychydig o gwestiynau yn unig sy'n deillio o hynny. A gaf i dawelu ei feddwl ynghylch ei lais, i ddechrau? Oni bai iddo ddechrau canu'n uchel, mae'n iawn, felly ni fyddwn yn awgrymu canu'n uchel mewn ymateb i unrhyw un o'r cwestiynau hyn.
Ond beth bynnag, mae llawer iawn o bobl yn dweud wrthyf fod cyllid Ewropeaidd yn amlwg yn ansicr erbyn hyn. Mae gennym ni gronfa rhannu ffyniant ac, yn amlwg, fe wnaeth yr ochr ymadael warantu y byddai'r holl arian Ewropeaidd yn parhau i ddod i Gymru, er gwaethaf gadael Ewrop. A gawn ni'r newyddion diweddaraf am unrhyw drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael o ran beth sy'n digwydd gyda'r gronfa rhannu ffyniant ac arian Ewrop i Gymru?
Yn amlwg, ar y meinciau hyn neu yn y cadeiriau hyn, ym Mhlaid Cymru, rydym ni'n poeni am golli pwerau. Efallai bod y Cwnsler Cyffredinol wedi fy nghlywed i o'r blaen yn sôn am unrhyw fwriad i gymryd pŵer. Ond rwyf hefyd yn poeni am gymhlethdod a diffyg amser bellach o ran y sefyllfa Brexit 'heb gytundeb' a 29 Mawrth ar y gorwel, bod y cymhlethdod a'r angen i wneud pethau gyda deddfwriaeth Brexit o bosibl yn cael eu defnyddio o bosibl i ddychwelyd ein pwerau datganoli. Mae'n amserol i dalu gwrogaeth i waith clercod, cynghorwyr cyfreithiol ac ymchwilwyr y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol sy'n tynnu sylw at y materion hyn, ac fel corff gwarchod materion cyfansoddiadol yn y fan yma. Clywais yr hyn a ddywedodd Lesley Griffiths yn gynharach am waith caled y cynghorwyr cyfreithiol ar ochr y Llywodraeth, ond mae hefyd ar ochr y Cynulliad yma fel deddfwrfa, oherwydd mae tensiwn rhwng pwerau, nid dim ond pwerau yn cael eu colli o bosibl rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan, ond, yn amlwg, o'r ddeddfwrfa hon i Lywodraeth Cymru hefyd.
Ac, yn amlwg, er gwaethaf ennill refferendwm yn 2011 i gael mwy o bwerau i'r Senedd hon, rydym ni wedi ein gweld yn y fan yma, yn sgil Deddf Cymru 2017, yn colli pwerau, unwaith eto, fel yr amlinellwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac eraill, ac wrth ymadael â'r UE, rydym wedi gweld colli'r Bil Parhad yn dilyn hynny, mae gennym gytundeb rhynglywodraethol anstatudol, mae gennym fframweithiau cyffredin a llywodraethu cyffredin, oes, ond pa mor gyffredin yw'r llywodraethu hwnnw yn y pen draw yw'r pwynt dadleuol. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi awgrymu'n gynharach fod ganddo bryderon tebyg ynghylch gweithredu'r fframweithiau cyffredin, yn enwedig yn awr yn y tymor byr.
Nawr, bydd y Cwnsler Cyffredinol, â'i wybodaeth a'i arbenigedd, yn gwybod am drafodaethau yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y Bil cyd-drefniadau gofal iechyd, Bil amaethyddiaeth y DU, Bil Pysgodfeydd y DU, os byddwn yn ymadael heb gytundeb. Yn sicr, yn y tymor byr, roedd pob un ohonom ni yn disgwyl dim ond trosglwyddo pwerau—dylai'r hyn sy'n digwydd yn awr o ran trefniadau gofal iechyd barhau i ddigwydd. Ond yr hyn a gawn pan fyddwch yn gweld rhywbeth fel y Bil cyd-drefniadau gofal iechyd yw bod pwerau ehangach wedi'i sleifio i mewn o dan gymal 2. Mae gennym bwerau Harri'r VIII o hyd, sy'n golygu gallu Gweinidogion y DU i ddeddfu ar faterion sydd eisoes wedi'u datganoli i Gymru.
Nawr, hefyd, clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach—na ddylem boeni am hyn, ond, yn amlwg, ceir pryder gwirioneddol am gymhlethdod deddfwriaeth Brexit yn awr a'r pwysau o ran amser arni, rydym ni i gyd yn cael ein hannog i, 'Nawr, dewch ymlaen, San Steffan, mae gennym ni'r gallu, rydym ni o dan bwysau i lawr yn y fan yma, nid oes gennym ni'r amser. Siawns ein bod ond yn dilyn arweiniad San Steffan.' Ond a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn rhannu fy mhryder felly na ddylai Brexit gael ei ddefnyddio i ddileu, o bosibl, pwerau o'r Senedd hon?
Fy mhwynt olaf, oherwydd rwy'n sylweddoli bod y Llywydd yn edrych arnaf i: a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno ein bod, mewn gwirionedd, mewn trafferthion? Mae gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn San Steffan wedi methu. Yr hyn y mae Theresa May yn ei gynnig nawr yw cytundeb gwael neu ymadael heb gytundeb—y dewisiadau hynny. Mae'r hyn sydd ar gael yn awr—cytundeb gwael neu ymadael heb gytundeb—yn waeth nag aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn y lle cyntaf. Nid oes unrhyw ucheldiroedd Brexit yng ngoleuni'r haul. Mae angen refferendwm arall arnom ni. A yw'n cytuno?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran y gronfa rhannu ffyniant, fel y bydd yn gwybod, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir na ddylai Cymru dderbyn ceiniog yn llai o ganlyniad i Brexit ac y dylai'r holl benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyllid rhanbarthol, fel y mae, aros yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Y tro diweddaraf i mi wneud y pwyntiau hynny wrth yr Ysgrifennydd Gwladol oedd ar ddechrau'r wythnos ddiwethaf. Ni chefais ymrwymiad ynghylch y naill na'r llall o'r rheini, a cheisiais gyfranogiad ystyrlon yn yr ymgynghoriad ynglŷn â hynny er mwyn i ni allu gwneud y pwyntiau hynny unwaith eto, fel y gŵyr ef. Mae consensws clir yng Nghymru bod yr egwyddorion hynny yn sylfaenol ac mai dyna'r ffordd orau o sicrhau polisi buddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit yma yng Nghymru.
Mae'n gwneud cyfres o bwyntiau am y broses o gywiro'r llyfr statud er mwyn sicrhau Brexit trefnus o ran statud a'n llyfrau cyfreithiau ni. Mae'n gwneud y pwynt dilys bod y risg a chymhlethdod y broses o wneud hynny yn gofyn am lefel uchel o wyliadwriaeth er mwyn sicrhau nad yw'r pwerau yn cael eu colli. Fe ddywedaf wrtho: soniodd am y Bil parhad—bydd yn gwybod yn iawn nad oedd y Bil parhad yn enghraifft o ildio pwerau. Roedd y Bil parhad yn ffordd a ddefnyddiwyd gennym ni i gyflawni cytundeb rhynglywodraethol, a oedd, yn wir, yn gwarchod y pwerau sydd gennym yma yng Nghymru ac, yn wir, rhoddodd bwerau ychwanegol inni o ganlyniad i'r gwelliant i Ddeddf ymadael â'r UE, na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall. Mae hynny'n rhoi enghraifft iddo o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y setliad datganoli yng nghyd-destun Brexit.
Ar y pwynt am ddeddfwriaeth yn fwy cyffredinol, bydd yn gwybod mai'r hyn yr ydym ni wedi'i fabwysiadu fel safbwynt, fel Llywodraeth, yw, oherwydd problemau adnoddau yn gyffredinol—ac rwy'n credu na ddylem ni ddiystyru’r rheini—byddai maint y ddeddfwriaeth a'r is-ddeddfwriaeth y byddai'n ofynnol iddyn nhw fynd drwy'r Siambr hon yn cyfateb i werth 12 mis, a byddai'n gorfod dod trwy'r Siambr mewn cyfnod o chwe mis, a byddai hynny'n ddigyffelyb o ran graddfa'r gweithgarwch deddfwriaethol. Ond rydym wedi dweud, pan nad oes gwahaniaethau polisi a phan nad oes unrhyw sensitifrwydd gwleidyddol, rydym wedi gofyn i'r cywiriadau hynny gael eu gwneud ar lefel y DU gyda'n caniatâd ni. Mae'n nodi yn gywir nifer o enghreifftiau lle cafwyd problemau—mae'r cyd-drefniadau iechyd yn un o'r rheini—ac mae hynny'n codi nifer o faterion cymhleth am y ffin rhwng materion a gedwir yn ôl a materion datganoledig a sut, fel y mae'n sôn am Ddeddf Cymru 2017, mae'r ffin honno, weithiau, er ei bod yn glir, yn aml yn cydgymysgu, felly mae materion a gedwir yn ôl a materion datganoledig yn gymysg â'i gilydd. Mae'r rheini yn ddyfarniadau anodd inni eu pennu. Ac mae hynny, wedyn, yn enghraifft, mewn gwirionedd, o achos lle'r ydym wedi bod yn gwthio yn ôl er mwyn sicrhau bod y pwerau hynny yn aros gyda ni yma yng Nghymru.
A gaf i gloi trwy ddiolch iddo am ei ddiagnosis o'm llais cryg? [Chwerthin.]
A gaf i gymeradwyo'r Llywodraeth am gyflwyno cyfres o ddatganiadau heddiw ar baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb? A gaf i gymeradwyo'r Gweinidog Brexit a'r Cwnsler Cyffredinol, i ddefnyddio cyfatebiaeth griced, am aros wrth y crîs, dangos stoiciaeth, wrth i bwerau ei lais bylu? [Chwerthin.] Mae'n gwneud yn eithriadol o dda.
Mae hen ddihareb Maleiaidd, sef: paratowch yr ymbarél, cyn iddi fwrw glaw. A dyma beth yr oeddem yn gobeithio y bu Llywodraeth y DU yn ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond dyma ni nawr yn ystyried paratoadau ar gyfer dilyw. Felly, rwy'n croesawu'r datganiadau hyn. Wrth gwrs, mae Malaia yn ardal o'r byd lle y mae un o gefnogwyr mwyaf amlwg Brexit wedi penderfynu lleoli ei bencadlys—yn Singapore—ar ôl penderfynu eisoes y byddai ei weithgynhyrchwyr ceir trydan yn Singapore hefyd. Pan ddisgrifiodd rhai o gefnogwyr Brexit y potensial ar gyfer Brexit a Brexit â 'chytundeb caled' fel, 'Byddem ni fel Singapore', yn gorwedd ychydig oddi ar orllewin Ewrop, nid wyf yn credu eu bod wedi bwriadu y byddai holl gefnogwyr Brexit yn ffoi i'r cyfeiriad arall i Singapore, ond dyna ni.
Tybed a fyddai'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i grŵp yr wyf i newydd gyfarfod ag ef, ynghyd â David Rees ac eraill, sef y grŵp dur—y grŵp dur yn Tata, sy'n agos at fy etholaeth i, sydd â miloedd o weithwyr, ond hefyd eu teuluoedd, sy'n ddibynnol ar fuddsoddiad. Pob clod i Tata, sy'n buddsoddi—ac mae'r pontio i'r perchnogion newydd yn datblygu—mae'n rhaid inni weld y canlyniad, ond maen nhw'n buddsoddi arian sylweddol yn y safle hwnnw. Ond fe wnaethon nhw'r pwynt wrthyf cyn i mi adael y cyfarfod bod 30 y cant o'r dur y maen nhw'n ei weithgynhyrchu yn mynd i'r diwydiant moduron; mae 80 y cant ohono yn mynd i'r diwydiant moduron yn y wlad hon. Mae effaith Brexit arnyn nhw, er eu bod yn buddsoddi, yn sylweddol, ac maen nhw'n ceisio sicrwydd, yn y baradwys y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio ato, y mae rhai wedi ei ddisgrifio fel, 'bydd yn hawdd; byddwn ni'n camu oddi ar y clogwyn, a hei, bydd hi'n fusnes fel arfer'—nid ydyn nhw'n gweld y sefyllfa yn yr un modd, ac maen nhw'n ceisio sicrwydd y byddan nhw'n cael eu diogelu rhag effaith a thariffau, mewn gwirionedd, os ydym ni'n gadael. Nid rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn unig, mewn gwirionedd, maen nhw'n gofyn, 'Wel, beth mae'r Llywodraeth yn eu sefydlu fel rhwystrau newydd, oherwydd gallem ni gael llwyth o fewnforion rhad? Rydym ni wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen o ran dur yn y wlad hon.' Felly, dyma'r realiti caled. Felly, pa sicrwydd, fe fyddwn i'n gofyn i'r Gweinidog, y gallwn ni ei gael ar eu cyfer, a'n bod yn ystyried hyn?
A gaf i ofyn iddo a yw'n cytuno â mi ai peidio hefyd nad mater o godi bwganod ac ati yw hyn, fel sydd wedi ei nodi heddiw, ac ailadrodd ymgyrch i godi ofn, oherwydd nid dim ond y Blaid Lafur yw hyn. Yn wir, heddiw rydym yn gweld penawdau sy'n dweud y gallem fod ag, un, dau neu dri dwsin o Weinidogion Ceidwadol yn ymddiswyddo, mewn gwirionedd, oni bai y cânt bleidleisio yn y Senedd i atal Brexit heb gytundeb. Maen nhw'n deall hyn yn dda iawn. Mae'r Ysgrifennydd busnes, Greg Clark, wedi dweud ar goedd y bydd hyn yn achosi difrod anfesuradwy i'r DU. Mae'r Gweinidog amddiffyn, Tobias Ellwood, yn un arall, gan ystyried yr effaith ar amddiffyn. Mae prif weithredwr y gwasanaeth sifil wedi dweud na fydd y DU byth yn gwbl barod ar gyfer Brexit, ac mae'n bwriadu symud 5,000 o staff i ganolfan gorchymyn a rheoli argyfwng. Ac mae'r Gweinidog busnes—hynny yw, mae'r rhain yn bobl sydd yn y rheng flaen o ran ymgysylltu â phobl y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw—Richard Harrington, wedi datgan heddiw bod ymadael heb gytundeb yn drychineb llwyr i'r wlad ac mae'n darogan y gallai orfodi safleoedd Jaguar a Mini i gau. Gallwn i fynd ymlaen ac ymlaen. A fyddai'n cytuno â mi, mewn gwirionedd, yn hytrach nag ymgyrch codi ofn a chodi bwganod, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yn y fan yma yw llunio naratif gwirioneddol am y risgiau ac yna'r hyn y gallwn ni ei wneud, fel y gwnaed y prynhawn yma, i baratoi ar eu cyfer mewn gwirionedd?
Rwy'n cytuno â'i ddadansoddiad ef nad mater o ba un a gawn ni ein taro gan Brexit heb gytundeb yw hyn; mae'n fater o ba mor galed. Ond a gaf i ofyn dau gwestiwn olaf? Rwyf wedi edrych yn fanwl ar wefan Paratoi Cymru/Preparing Wales a byddwn yn argymell wrth bob aelod eu bod nhw'n edrych arni. Byddwn yn gofyn iddo, fel Gweinidog Brexit a'r Cwnsler Cyffredinol: beth arall allwn ni ei wneud i ledaenu honno? Oherwydd mae'n eglur, mae'n ddealladwy iawn, mae hi yn y math o iaith y gall busnesau yn fy etholaeth i a'm hetholwyr eu hunain edrych arni. Mae'n cyfeirio at gymorth, cefnogaeth a chyngor. Beth arall allwn ni, fel Aelodau Cynulliad, ei wneud a beth arall all y Llywodraeth ei wneud, i rannu'r wybodaeth honno mewn gwirionedd?
Yn olaf, diolch iddo ef a'r Prif Weinidog am ymddangos o flaen y grŵp cynghori ar Ewrop a hefyd pwyllgor monitro'r rhaglen yr wythnos ddiwethaf ac rwy'n edrych ymlaen at eu croesawu'n ôl unwaith eto. A fyddai'n cydgysylltu â Gweinidogion eraill yn y Llywodraeth sydd hefyd yn rhan o'r gwaith o greu cynlluniau wrth gefn ar gyfer Brexit a chynllunio ar gyfer ymadael heb gytundeb, dim ond i dynnu eu sylw at y ffaith ei bod yn bosibl iawn y gallai rhai o'r pwyllgorau hyn—pwyllgor monitro'r rhaglen a'r grŵp cynghori ar Ewrop—hefyd ofyn iddyn nhw fod ar gael ar ryw adeg i weld y cynlluniau parodrwydd mewn gwahanol rannau o'r Llywodraeth ar gyfer y sefyllfa ymadael heb gytundeb?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Soniodd am y sector dur a'r sector moduron, ond ceir hefyd y diwydiant awyrofod, peirianneg uwch—mae pob un o'r sectorau hyn yn sectorau a fydd yn dioddef oherwydd rhwystrau tariff a di-dariff. Felly, yr ateb byr i gwestiwn yr Aelod yw, yng nghyd-destun ymadael heb gytundeb ac yng nghyd-destun cytundeb y Prif Weinidog, nid oes sicrwydd y gellir ei roi. Dyna'n union pam yr ydym ni, fel Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, yn 'Sicrhau Dyfodol Cymru', yn disgrifio'r math o berthynas ar ôl Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd a allai fod y ffordd orau o ddiogelu, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, y diwydiannau y mae'n sôn amdanyn nhw, lle mae gennym undeb tollau, rhan lawn yn y farchnad sengl a chyfres flaengar o hawliau ar gyfer pobl yng Nghymru yn eu gweithleoedd a safonau amgylcheddol ac eraill—nid dim ond wedi'u rhewi mewn amser o heddiw ymlaen ond yn cyfateb yn gynyddol i rai ein cymdogion Ewropeaidd eraill. Dyna'r rheswm sylfaenol pam yr ydym wedi argymell y math hwnnw o berthynas dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae'n syndod i mi, mae'n rhaid imi ddweud, na fu'n bosibl i Lywodraeth y DU gyflawni lefel debyg o eglurder yn llawer, llawer cynt nag y mae wedi gallu ei wneud. A hyd yn oed heddiw, nid oes gennym ni'r eglurder hwnnw.
Mae'n sôn am Paratoi Cymru a'r hyn y gallem ni ei wneud. Wel, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud pob ymdrech i sicrhau bod pobl yn gwybod lle i ddod o hyd i Paratoi Cymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud, fel y bydd wedi'i weld ar y wefan honno, yw, o ran bywydau bob dydd pobl yng Nghymru, nid ydym yn gofyn iddyn nhw wneud penderfyniadau gwahanol heddiw nag y bydden nhw wedi bod yn eu gwneud ddoe. Rydym ni'n gweithio gyda'r gwasanaethau cyhoeddus ar draws amrywiaeth o sectorau i sicrhau eu bod yn gydnerth i'r graddau gorau y gallwn ni ac, fel y clywsoch chi Weinidog yr economi yn dweud yn gynharach, i sicrhau bod busnesau yn ymgysylltu â'r asedau y mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu eu bod ar gael i sicrhau eu bod yn deall effaith Brexit mewn gwahanol sefyllfaoedd ar eu busnesau, er mwyn iddyn nhw allu bod mor barod ag sy'n bosibl mewn amgylchiadau ansicr ac anodd iawn, er mwyn wynebu'r posibilrwydd o Brexit.
A'r pwynt olaf a gododd oedd ynghylch y grŵp cynghori ar Ewrop a phwyllgor monitro'r rhaglen. Mwynheais yn fawr y ddau gyfarfod hynny a diolch iddo am y gwahoddiad i fod yn bresennol. Sylweddolais pa mor bwysig ydyw inni gymryd y cyfle hwn i ymgysylltu yn gyson ac yn barhaus â'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ledled Cymru. Mae hon yn her anodd ar gyfer unrhyw ran o'r Llywodraeth. Mae'n her anodd ar gyfer unrhyw sector ac ar gyfer unrhyw un sy'n rhedeg sefydliad neu fusnes yng Nghymru, a'r ffordd orau o geisio bod mor barod ag y gallwn fod, ac i wneud yr hyn allwn ni i helpu lliniaru risgiau gwaethaf Brexit yw'r union fath o waith partneriaeth y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Heb ddymuno gwthio llais y Cwnsler Cyffredinol yn hir y prynhawn yma—. Roeddwn yn myfyrio, wrth wrando ar yr Aelod dros Orllewin Clwyd, yn gwneud ei orau i ymddangos fel cynrychiolydd San Steffan yn y fan yma, yn sôn, mewn modd cwbl anghyfrifol, yn fy marn i, am y modd y gallai ein cymunedau ni, cymunedau yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli ar bob ochr o'r Siambr, gael eu heffeithio gan Brexit heb gytundeb. Rwy'n credu y clywsom, gan y Gweinidog sydd ar ei draed ar hyn o bryd ond hefyd gan Weinidogion eraill yn ystod y dydd, am y drychineb lwyr y byddai ymadael heb gytundeb, ymadael yn sydyn o'r Undeb Ewropeaidd—trychineb i'n cymunedau ac i'n heconomi, ond hefyd trychineb i'n gwleidyddiaeth. Cwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod yr hyn a welsom dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf wedi bod yn drychineb i'n gwleidyddiaeth, lle'r ydym wedi methu—ac rwy'n golygu ar y cyd fel y Deyrnas Unedig—â dangos yr arweinyddiaeth, mewn gwirionedd, y mae pobl y wlad hon, rwy'n credu, ei hangen ar hyn o bryd. O wrando ar yr Aelod dros Orllewin Clwyd, roeddwn yn ystyried yr araith yr oeddwn yn ei darllen y bore yma—araith olaf Nye Bevan i Dŷ'r Cyffredin ym mis Tachwedd 1959—pan geryddodd y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd, gan ddweud eu bod yn wynebu methiant oherwydd nad oedden nhw wedi dysgu'r gwersi o'r ugeinfed ganrif. Ac wrth wrando ar yr Aelod dros Orllewin Clwyd y prynhawn yma, roeddwn i'n meddwl bod gormod o bobl yn y Blaid Geidwadol, yn y fan yma ac yn San Steffan, nad ydynt wedi dysgu gwersi'r unfed ganrif ar hugain. Agwedd gwbl angharedig tuag at y bobl yr ydym ni yma i'w cynrychioli, sydd, rwy'n credu, yn sefyllfa drychinebus i ni fod ynddi.
A ydych chi'n cytuno â mi, Cwnsler Cyffredinol, bod angen amser a chyfle i gynnal y ddadl hon, ac mae angen yr wybodaeth arnom y gallwn ni seilio a gwreiddio ein dadl arni? Clywais eiriau'r Prif Weinidog yn gynharach a'ch rhai chi ar achlysuron eraill, ac rwy'n cymeradwyo yn fawr iawn y gwaith sydd wedi'i wneud gan y Llywodraeth yn y fan yma a gan Weinidogion unigol. Yn fy marn i. dylem ni fod yn gofyn i Lywodraeth y DU, erbyn hyn, nid i atal erthygl 50 ond i ddirymu erthygl 50 i ganiatáu i'r wlad hon gael y drafodaeth aeddfed a'r ddadl wybodus sydd ei hangen arnom i wneud penderfyniad ynghylch pa un a ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau yr ydym yn gwybod amdanyn nhw ac yn eu deall heddiw—nid yr hyn a ddywedwyd wrthym dair blynedd yn ôl, ond y telerau yr ydym ni'n eu deall heddiw—neu nad ydym yn dymuno gwneud hynny o ran y ffordd yr ydym ni'n symud ymlaen. Ond rwy'n gobeithio, beth bynnag a wnawn ni dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, y byddwn ni'n gallu adennill tôn yn ein gwleidyddiaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r chwerwder sydd wedi dod yn arf gwleidyddol yn rhy aml dros y cyfnod hwn, a chynnal dadl sy'n llawer dyfnach, dadl fwy gwybodus, a dadl sydd wedi ei gwreiddio yn yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn y dyfodol ar gyfer ein cymunedau a'n gwlad. A phan yr wyf i'n gwrando ar bobl yn sôn am Brexit heb gytundeb a'r cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig, rwy'n meddwl am y biliwnyddion lawer sydd wedi symud eu hasedau, eu hadnoddau, eu cronfeydd, allan o weinyddiaeth y Deyrnas Unedig rhag ofn, ac rwy'n credu, wrth ystyried, Darren, nad oes llawer o bobl ym Mlaenau Gwent â'r gallu i wneud hynny. Ac fel yr ydym ni wedi ei weld gyda chyni, nid y bobl hynny ym mwytai SW1 fydd yn talu'r pris am fethiannau eu polisïau; y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli yn ein cymunedau a fydd yn talu'r pris. [Torri ar draws.]
Felly, Cwnsler Cyffredinol, a yw'n bosibl i ni gymryd y cyfnod nesaf i ddirymu erthygl 50, i Lywodraeth Cymru ddadlau dros wneud hynny, i'n galluogi ni i gael y ddadl ddyfnach, wybodus honno am y dewisiadau yr ydym yn eu hwynebu, ac yna i wneud penderfyniad mewn modd gwybodus? [Torri ar draws.] Gallwch chi weiddi cymaint ag y dymunwch chi a byddaf i'n eich clywed chi, ond rwy'n dweud wrthych chi nawr na fydd gweiddi yn ennill yn yr achos hwn. Rydych chi wedi gweiddi digon ac rydych chi wedi dweud digon. Yr hyn sydd ei angen bellach yw dadl wybodus a dyfnach sy'n seiliedig ar ddadl a dadansoddiad deallus ac nid dim ond gweiddi ar draws y Siambr.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau yna? Mae e'n taro'r hoelen ar ei phen, onid yw, pan ddywed bod cefnogwyr Brexit yn rhy aml yn bobl na fyddan nhw mewn unrhyw berygl o ran y naill ganlyniad na'r llall, pan fo'u hadnoddau a'u cyfoeth a'u hunan-ddiogelwch yn eu rhoi mewn sefyllfa, beth bynnag fydd y canlyniad, sydd yn gwestiwn o fodelu ariannol ac yn gwestiwn o symud eich asedau o un lle i'r llall? Ac ni allwn dderbyn dyfodol y Deyrnas Unedig yn cael ei reoli gan bobl sydd â chyn lleied yn y fantol yn y canlyniad y maen nhw'n dadlau 0'i blaid.
Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd ef yn ddiddorol iawn, yn yr ystyr ei bod hi'n ymddangos i mi fod y ddadl yn ymwneud â Brexit, am ddwy flynedd a mwy, yn aml wedi bod yn wleidyddiaeth uchel ar yr un llaw neu'r effaith weithredol, o ddydd i ddydd ar y llaw arall. Yr hyn y dylem fod yn canolbwyntio arno, yn ogystal ag ar y trafodaethau yr ydym wedi eu cael heddiw am yr effaith ymarferol, yw'r syniad hwnnw o weledigaeth o'r Gymru yr ydym eisiau ei gweld os yr ydym yn parchu canlyniad refferendwm 2016—mae sut yr ydym yn mynd ati i greu Cymru sy'n parhau i fod wrth galon Ewrop a pharchu'r refferendwm hwnnw ar yr un pryd, a chael Brexit nad yw'n gwneud y math o ddifrod yr ydym wedi clywed amdano, a dweud y gwir, y dadleuwyd o'i blaid yn y Siambr hon heddiw. Rwy'n credu mai'r weledigaeth honno ar gyfer perthynas ôl-Brexit yw'r math o beth sydd wedi ei nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a byddwch yn gwybod bod galwad y Prif Weinidog am estyniad i Erthygl 50 er mwyn i'r math hwnnw o gytundeb gael y cyfle gorau o ddod i'r amlwg o'r trafodaethau yn y Senedd, ac, yn absenoldeb hynny, i'r bobl gael y gair olaf.
Diolch i'r Gweinidog.