Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 23 Ionawr 2019.
Nid wyf wedi cael trafodaethau penodol gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ond rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Yn amlwg, mae fy niddordeb yn y maes yn ymwneud ag ailstocio'r coetiroedd, fel y dywedais yn fy ateb i Huw Irranca-Davies yn awr. A chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod y cymysgedd o rywogaethau coed yn briodol iawn i bob lleoliad. Gwn na fydd angen yr un rhywogaethau coed ar bob ardal rhwng eich dwy etholaeth. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn fod hynny'n briodol mewn mannau penodol iawn. Unwaith eto, mae'r amcanion mewn perthynas ag ailstocio yn amrywio yn ôl cynlluniau adnoddau coedwigaeth lleol. Ond fel y dywedaf, rydych yn gwneud pwynt da iawn, yn fy marn i, ynglŷn â thwristiaeth, ac rwy’n fwy na pharod i drafod hynny gyda Ken Skates.