Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 23 Ionawr 2019.
Weinidog, yn amlwg, cwm Afan oedd un o'r mannau cyntaf i gael eu heffeithio gan y clefyd llarwydd ac un o'r mannau yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf difrifol, ac mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogwr, wedi tynnu sylw at y cyfleoedd a ddaw yn sgil ailgoedwigo. A ydych wedi cael trafodaethau gyda'ch cyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ynglŷn â sut y gallwn wella economïau'r cymoedd hynny? Mae twristiaeth yn agenda sy'n amlwg yn mynd i roi hwb i’r cymoedd hynny, ond os na fyddwn yn cael y gwaith ailgoedwigo ac os nad yw'r cynlluniau yn cael eu sefydlu, bydd hynny'n cael ei effeithio.