Marchnadoedd ar gyfer Cig Coch Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:36, 23 Ionawr 2019

Mae'n ddiddorol iawn, yn tydi, gweld marchnadoedd newydd yn cael eu datblygu ar hyd a lled y byd, tra rydym ni'n dal yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd? A gwag iawn ydy sôn am gyfleoedd o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac, yn wir, dŷn ni'n gwybod cymaint o gyfleon sydd yna i'r diwydiant cig, y diwydiant bwyd, a'r economi wledig yn gyfan gwbl, o fod yn rhan o strwythurau Ewropeaidd, yn cynnwys y cronfeydd strwythurol. A dwi wedi gweld ymchwil newydd sydd wedi cael ei ryddhau heddiw gan y Conference of Peripheral Maritime Regions—y corff y mae'r Llywodraeth yma yng Nghymru yn rhan ohono—sy'n dweud bod Cymru yn wynebu colli allan ar symiau mawr o'r cronfeydd rhanbarthol mewn blynyddoedd i ddod. Mae'n nhw'n amcangyfrif, pe bai'r Deyrnas Gyfunol yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, y byddai'n gymwys i dderbyn £13 biliwn o gyllid rhanbarthol rhwng 2021 a 2027, sy'n 22 y cant o gynnydd o'i gymharu â'r cyfnod 2014-20. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi, felly, bod hyn yn cryfhau eto y ddadl dros gael pleidlais y bobl, er mwyn cael cyfle i wneud yr achos dros gynnal hyn, er mwyn ein diwydiannau gwledig ni?