Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Ionawr 2019.
Nid wyf yn hollol siŵr sut y mae'r cwestiwn hwnnw'n ymwneud â datblygu marchnadoedd ar gyfer cig coch Cymru, ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch faint o gyllid y byddwn yn ei golli. Ac ar draws fy mhortffolio, fe fyddwch yn gwybod am y cyllid sylweddol a ddaw o’r UE. Roeddwn yn edrych ar brosiect LIFE yn gynt, a’r cyllid y mae'r mathau hynny o brosiectau wedi’i ddarparu i Gymru, a'r manteision i'n hamgylchedd. Felly rydym yn dal i fod yn obeithiol na fyddwn yn cael Brexit ‘dim bargen’—rydym o’r farn na ddylai ‘dim bargen’ fod yn opsiwn. Ond hyd yn oed gyda'r cytundeb a gynigiwyd gan y Prif Weinidog, credaf y bydd hyn yn cael effaith ofnadwy ar ein swyddi a'r economi.