Ailgoedwigo

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:31, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n derbyn bod gorfod cwympo cymaint o goetir yng Nghymoedd de Cymru o fewn amser mor fyr wedi cael effaith ddinistriol iawn ar yr ardal, ac yn sicr, ni chredaf ei fod yn rhywbeth y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn awyddus i’w wneud o dan amgylchiadau arferol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio lleihau effaith cwympo coed ar gymunedau a busnesau lleol drwy ymgysylltu â chymunedau lleol, a gwn eu bod yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus, maent yn cynnal sesiynau galw heibio fel rhan o'u gwaith coedwigaeth, fel y gallant rannu eu hargymhellion gyda phobl yn ogystal â gofyn eu barn. Yn sicr, os gwyddoch am unrhyw gymuned benodol neu hyd yn oed etholwyr unigol sy’n awyddus i ymgysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ar y lefel honno, buaswn yn argymell ichi gysylltu â hwy, ac rwy'n siŵr y byddent yn ymgysylltu er mwyn clywed eu barn ar gynigion ar gyfer yr ystâd goetir.