Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 23 Ionawr 2019.
Ie, mae'n olygfa ddigalon iawn, ac rwy'n falch o glywed eich ateb i Huw Irranca-Davies. Ond wedi edrych ar rai ffotograffau o'r modd y gwneir y gwaith ailblannu, mae rhai o'r coed ifanc cymysg hyn yn eithaf bach. Ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gennych ddiddordeb mewn siarad â'r Gweinidog Addysg ynglŷn â’r cyfle i blant a phobl ifanc mewn ysgolion fod yn rhan o'r cynlluniau ailblannu. Rwy'n cymryd bod yn rhaid i hynny fynd drwy Cyfoeth Naturiol Cymru ac amrywiaeth o bobl eraill, ond o ran bod hyn yn cynrychioli tirwedd fwy hanesyddol gywir i Gymru, mae sawl man, yn enwedig yn y cwricwlwm newydd, lle y gallai hyn ffitio'n eithaf taclus—unrhyw beth o hanes i wyddoniaeth, i unrhyw beth ym maes dysgu llesiant. Diolch.