Diogelu Bywyd Gwyllt Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:05, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae pob un ohonom wedi bod yn darllen adroddiad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, 'State of Birds in Wales 2018', felly mae'n eithaf amlwg mai'r cwestiwn yw bod niferoedd adar yn cwympo—mae yno ostyngiad cyflym—ac rwy'n aelod o'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, felly rwyf am ddatgan hynny nawr. Felly, o ran y pethau da rydym wedi'u gwneud, fel gwahardd saethu ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru, rhoi diwedd ar saethu gwyddau talcenwyn—pethau fel hynny, gwarchod pethau penodol—maent yn bethau da iawn. Ond rwy'n tybio, o ran rheoli tir, y bydd fy nghwestiwn yn ymwneud â pharthau perygl nitradau a'r effaith a gaiff rhai ohonynt ar ein bywyd gwyllt, a beth y bwriadwch ei wneud, Weinidog, i sicrhau ein bod yn cyflwyno cynllun cynaliadwy lle na cheir crynodiadau o nitradau a allai ddinistrio unrhyw gynefin sy'n ceisio byw y tu hwnt iddynt.