Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 23 Ionawr 2019.
Mae'n amlwg yn faes rydym wedi gweithio arno gyda Llywodraeth y DU, oherwydd, os cofiwch, dywedwyd wrthym gan Lywodraeth y DU, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, na fyddem yn colli ceiniog o gyllid. Felly, ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn y sefyllfa lle rydym yn dweud wrthynt, 'Fe wnaethoch chi addo inni na fyddem yn colli ceiniog', ac yn sicr, mae fy mhortffolio—fel y dywedais mewn ateb cynharach i Rhun ap Iorwerth—yn nofio mewn cyllid Ewropeaidd. Mwy na thebyg mai fy mhortffolio i sy'n derbyn y swm mwyaf o arian. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gael y trafodaethau hynny, gan y gwyddom am yr effaith y byddai'n ei chael, nid yn unig ar amaethyddiaeth a physgodfeydd, ond hefyd ar yr amgylchedd.