Lleihau Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 1:59, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, pa fodel bynnag a ddefnyddiwch ar gyfer rheoli a mynd i'r afael â llygredd aer, mae gennyf yn fy etholaeth i, ar yr A470 rhwng cyffyrdd Nantgarw a Threfforest, un o ardaloedd mwyaf llygredig Cymru. Gwn fod cyfyngiadau cyflymder ar waith, ond tybed a allech amlinellu'r mesurau a roddwyd ar waith a pha gamau pellach y gellid eu cymryd. Oherwydd nid yn unig ei bod yn ardal â thagfeydd traffig anferthol, ond mae amodau'r aer yno yn wirioneddol beryglus, ac mae'n ardal sydd angen monitro brys a sylw parhaus.