Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 23 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Gwn fod eich cyllid a—cyllid Cymru a chyllid Ewropeaidd, am ba hyd y bydd yn parhau? Ond canfu astudiaeth ddiweddar o gyflwr adar yng Nghymru fod un o bob tri math o adar yn dirywio'n sylweddol. Mewn rhai achosion, maent mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Un o'r rhesymau dros y dirywiad hwn yw dinistrio cynefinoedd adar, megis perthi. Mae perthi yn nodwedd bwysig o'r amgylchedd cefn gwlad, ac rwy'n deall bod rheoliadau'n golygu ei bod yn erbyn y gyfraith i ddileu'r rhan fwyaf o wrychoedd cefn gwlad heb ganiatâd gan yr awdurdodau lleol—caniatâd cynllunio. A gaf fi ofyn, Weinidog, beth a wnewch i annog plannu perthi yn lle adeiladu ffensys er mwyn diogelu ein hamgylchedd a gwrthdroi'r dirywiad ofnadwy yn ein poblogaethau adar, os gwelwch yn dda?