Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 23 Ionawr 2019.
Rwyf wedi gweld yr adroddiad hwnnw, ac yn sicr, mae'r dirywiad mewn rhai rhywogaethau adar brodorol yn peri cryn bryder. Credaf y bydd llawer o ffactorau yn cyfuno i achosi newid yn y boblogaeth adar dros amser yng Nghymru, a chredaf fod angen inni sicrhau bod cynefinoedd Cymru yn y cyflwr gorau posibl i roi'r cyfle gorau i boblogaethau adar allu gwella.
Nid wyf wedi gwneud unrhyw beth penodol ynglŷn â pherthi, ond rwy'n sicr yn fwy na pharod i ystyried y mater. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r nifer sylweddol o berthi—. Un o'r pethau a wnaeth argraff arnaf pan euthum allan i Seland Newydd i edrych ar ffermydd yno—. Os ewch i ffermydd yng Nghymru, y perthi gwych sydd yma, sy'n amlwg yn hybu rhywogaethau adar yma, nid ydych yn eu gweld draw yno. Felly, credaf eich bod yn llygad eich lle, mae perthi yn rhan o'r gwaith y mae angen ei wneud i sicrhau bod gennym y boblogaeth adar rydym am ei gweld yma.