Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 23 Ionawr 2019.
Diolch am eich ateb. Weinidog, gyda phrosiectau mawr fel Wylfa a'r morlyn llanw yn ei chael hi'n anodd cychwyn, ymddengys i mi ei bod bellach yn bryd canolbwyntio ar gynhyrchu ynni ar raddfa lai yn y gymuned, fel y gall cymunedau fod yn gyfrifol am gynhyrchu eu hynni, ac yn bwysicach, mwynhau'r arian a gaiff ei arbed. Pa gynlluniau sydd gennych i annog mwy o gyrff y sector cyhoeddus, grwpiau cymunedol a busnesau i fanteisio ar y gwasanaeth ynni?