Ansawdd Dŵr yn Etholaeth Ogwr

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:11, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae cynllun rheoli basn afon 2015 wedi dangos bod afon Llynfi ac afon Garw yn cyflawni statws 'cymedrol' tra bo afon Ogwr a'i his-afonydd yn cyflawni statws 'da' o dan y gyfarwyddeb fframwaith dŵr. Ledled Cymru, mae 37 y cant o'r crynofeydd dŵr yn cyflawni statws 'da' ar hyn o bryd, gyda gwaith ar y gweill i gynyddu'r ffigur hwn i 42 y cant erbyn 2021.