Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 23 Ionawr 2019.
Dywed gwefan Llywodraeth Cymru mai nod y gwasanaeth ynni yw datblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy ac mae'n darparu cymorth technegol, ariannol ac arbenigol arall ar gyfer prosiectau ynni. Fe gyfeirioch chi at weithio gyda grwpiau cymunedol ac eraill. Cafodd y cynllun peilot effeithiol gwreiddiol, y cynllun cynhesrwydd fforddiadwy lleol a lansiwyd yn sir y Fflint rai blynyddoedd yn ôl, ei ddatblygu drwy gydweithio â'r trydydd sector a chynlluniau effeithlonrwydd ynni a oedd yn bodoli eisoes. Sut y sicrhewch y bydd yn magu gwraidd wrth symud ymlaen, ac nad yw'n rhaglen a reolir i lawr o neuadd y sir? Yn olaf, sut y bwriadwch fynd i'r afael â'r pryder, gyda phrisiau tanwydd yn amrywio, fod llawer o gartrefi nad ydynt ar y grid nwy wedi gweld gwelliannau yn ddiweddar yn eu tystysgrifau perfformiad ynni heb fod unrhyw addasiadau wedi'u gwneud i'w heiddo nac unrhyw welliannau o sylwedd i berfformiad amgylcheddol yr adeiladau dan sylw?