Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 23 Ionawr 2019.
Cawsom ddatganiad gweinidogol gennych ddoe, wrth gwrs, ar eich paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb a'r effaith andwyol y byddai hynny'n ei chael ar amaethyddiaeth a sectorau eraill yng Nghymru. Yn y datganiad hwnnw, fe ddywedoch chi, ac rwy'n dyfynnu, eich bod wedi ymrwymo i weithio gyda sectorau allweddol i gynllunio mecanweithiau cymorth mewn perthynas â'r heriau difrifol hyn.
Ond heddiw gwelwn adroddiadau fod NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon ynglŷn â chael eu cau allan o'ch proses gynllunio ar gyfer Brexit 'dim bargen'. Eu hunig gyfraniad hyd yn hyn yw un cyfarfod bwrdd crwn a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, mae amser yn brin, Weinidog, felly does bosibl na ddylai grŵp cynllunio wrth gefn Llywodraeth Cymru gynnwys cynrychiolwyr y diwydiant, fel y gwelwyd yn y gorffennol, wrth gwrs, yn ystod yr achosion o glwy'r traed a'r genau yn 2001 a 2007. Felly, a allwch egluro inni pa rôl allweddol y bydd y rhanddeiliaid hynny'n ei chwarae yn eich trafodaethau 'dim bargen' dros yr wythnosau nesaf? Oherwydd ychydig wythnosau yn unig sydd gennym ar ôl.