Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:53, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Nid yw Paul Davies erioed wedi gofyn imi ymddiheuro. Ymddiheurais pan ddigwyddodd yn ystod yr haf y llynedd. Ymddiheurais ar unwaith. Gofyn i'r Prif Weinidog ymddiheuro a wnaeth Paul Davies yr wythnos diwethaf, ac fel roedd y Prif Weinidog yn iawn i'w ddweud, ymdriniwyd â'r mater pan ddigwyddodd, ac mae bellach ar ben. Hoffwn ychwanegu hefyd fod tystiolaeth yn dangos bod y rhan fwyaf o achosion o TB buchol yng Nghymru yn deillio o drosglwyddiad o un buwch i'r llall.