Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 23 Ionawr 2019.
Rwy'n croesawu'r Gweinidog i'w swydd. Rwy'n falch o allu dechrau drwy longyfarch Llywodraeth Cymru ar yr hyn sydd, yn ôl pob golwg, yn delerau cadarnhaol iawn ac eithaf hael ar gyfer y fenter hon. Ond dywedai'r datganiad i'r wasg na fydd angen dechrau ad-dalu'r benthyciad hyd nes y bydd y cartref newydd wedi'i gwblhau a morgais wedi'i drefnu, ac yna mae'n dweud:
'bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu sicrhau plot drwy dalu blaendal o 25% o gost y plot. Llywodraeth Cymru fydd yn darparu gweddill y cyllid drwy Banc Datblygu Cymru.'
A yw hynny'n golygu na fyddant ond yn talu 25 y cant o gost y tir ac y gellir benthyca'r holl gost adeiladu gan y banc datblygu wedyn? Pan ddywedwch na fydd angen ad-dalu, a yw hynny hefyd yn golygu nad oes llog, neu a oes llog y bydd angen ei ad-dalu ar ôl ei gwblhau?