Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:42, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am egluro rhai o'r rhesymau pam y daethpwyd â'r elfen cynllunio i'r adran. O'm rhan i, yn sicr, credaf fod hynny'n ddefnyddiol, mae'n debyg. Roeddwn bob amser wedi meddwl bod cynllunio'n rhywbeth sy'n rhychwantu sawl adran wahanol. Ond roeddwn bob amser o'r farn y byddai ei gyfuno â thai yn gwneud pethau'n haws o bosibl.

Wrth gwrs, mae angen inni ymateb i'r angen am dai, ond ceir dadl hefyd nad yw'r system gynllunio bob amser yn ymateb i anghenion lleol sy'n mynd i'r cyfeiriad arall, pan fydd gennym benderfyniadau cynllunio o bryd i'w gilydd sydd wedi cael eu gwrthod gan gynghorau lleol, ond sy'n cael eu cymeradwyo wedyn wrth i'r arolygydd cynllunio farnu'n erbyn hynny. Nawr, yn amlwg, nid wyf am sôn am unrhyw achos penodol, gan na fyddai modd i chi roi sylwadau arnynt, ond a ydych yn credu bod dadl ddilys i'w chael nad yw cynllunio'n ddigon ymatebol i anghenion lleol?