Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 23 Ionawr 2019.
Ond mae problem fwy sylfaenol byth yma, wrth gwrs: beth yw'r angen lleol am dai? Mae eich Llywodraeth wedi dweud wrth awdurdodau lleol yn awr fod eich amcanestyniadau ar gyfer y boblogaeth wedi dyddio, a dyna oedd yn sail, wrth gwrs, i'r cynlluniau datblygu lleol y mae pobl yn pryderu amdanynt, ac rydym wedi gweld tir ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer tai ac angen nad yw'n bodoli, yn amlwg. Felly, a wnewch chi dderbyn bod hynny'n anghywir? Ac a wnewch chi hefyd, felly, gyfarwyddo eich swyddogion i ganiatáu i gynghorau ddad-ddyrannu safleoedd tir glas er mwyn diogelu ein hamgylchedd a'n cymunedau?