Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 23 Ionawr 2019.
Nid oes gennyf ddarlun o Gymru yn fy meddwl mewn perthynas â'r amcanestyniadau poblogaeth gwahanol, felly ni allaf sôn am achosion penodol, ond rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod yr amcanestyniadau cywir ar waith gennym, a'n bod yn ymateb i'r angen yn y mannau cywir.
Rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod maint y datblygiadau'n gywir ac yn gymesur â'r ardal y maent yn ei gwasanaethu. Felly, yr hyn rydym am ei wneud, fel y dywedais, yw annog datblygwyr bach eu maint ledled Cymru i ddarparu safleoedd bach sy'n addas i'r angen lleol heb orfod cael dyraniadau mawr. Ac nid yw hynny'n feirniadaeth o unrhyw gyngor; fel y dywedaf, rwy'n siarad yn gyffredinol. Ond rwy'n gobeithio ailedrych ar ein hamcanestyniadau, o ran y fformiwla ar gyfer llywodraeth leol yn gyffredinol ac o ran angen amcanestynedig, er mwyn gweld i ble y gallwn fynd.