Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 23 Ionawr 2019.
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaeth eto. Nid wyf wedi cael unrhyw gyfarfodydd penodol gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot. Rwy'n dechrau ar y daith weinidogol o Gymru sy'n arferol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan fyddwch yn cael eich rhoi yn y portffolio hwn. Felly, dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddaf yn cael cyfarfodydd unigol â phob awdurdod lleol yng Nghymru, ac rwy'n mynychu cyfarfod o CLlLC ddydd Gwener, lle byddaf yn gallu siarad â grŵp o arweinwyr awdurdodau lleol. Wrth gwrs, rwyf wedi cyfarfod ag arweinwyr cyngor Castell-nedd Port Talbot ar nifer o achlysuron, ond nid yn y portffolio hwn hyd yma.