Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 23 Ionawr 2019.
Fel y dywedais, rwyf eisoes wedi cael cyfarfod da iawn y bore yma gyda'r is-bwyllgor cyllid, i sôn am y fformiwla ariannu. Byddaf yn cyfarfod â CLlLC ddydd Gwener. Mae gennym weithgor, a gadeirir gan Derek Vaughan, yn edrych ar y ffordd y gwnawn waith rhanbarthol gyda'n gilydd, ac edrychaf ymlaen at gael perthynas dda a chynhyrchiol gydag awdurdodau lleol yn gyffredinol.