Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:01, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Buaswn. Fel y dywedais, rwy'n agored iawn i unrhyw awgrym i newid y fformiwla ariannu bresennol y gellir ei gytuno drwy'r grŵp llywodraeth leol. Mae'n bendant yn rhywbeth rydym yn dod i gytundeb â llywodraeth leol yn ei gylch. Roeddem yn awyddus iawn i fod yn rhywbeth y mae llywodraeth leol yn ei chyfanrwydd yn gallu ei gefnogi a rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei gefnogi hefyd. Felly, rwy'n bendant yn croesawu unrhyw awgrymiadau neu unrhyw ymchwil sy'n dangos ffordd wahanol o'i wneud.