Setliad Ariannol Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:06, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs ein nod bob amser yw talu grantiau'n unol ag amodau'r grant. Os dymuna'r Aelod ddwyn unrhyw enghreifftiau penodol i sylw, rwy'n hapus i edrych ar hynny. Byddaf yn ceisio gweithio ar draws y Llywodraeth gyda chyd-Weinidogion sydd â phortffolios llywodraeth leol â gwariant mawr—maent yn amlwg iawn: mae gan y cyd-Weinidogion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac addysg ac ati bortffolios ag iddynt wariant mawr yng nghyswllt llywodraeth leol—i wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno darlun mor glir ac agored ag y bo modd i lywodraeth leol, o ystyried yr anawsterau y maent yn eu cael gydag agenda cyni. Mae'n amlwg fod angen iddynt allu cynllunio eu gwariant mor fedrus ag y gallwn wneud iddynt ei wneud.