Ad-drefnu Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:49, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a ydych yn derbyn nad oes angen 22 awdurdod lleol ar wahân ar Gymru a bod ymdrechion Gweinidogion blaenorol i ddatrys y broblem heb ad-drefnu llywodraeth leol wedi arwain at wastraff sylweddol a biwrocratiaeth?

Ddydd Llun, cyfarfûm â grŵp o benaethiaid o fy rhanbarth i drafod yr argyfwng ariannu mewn addysg, ac roedd un o'u prif bryderon yn ymwneud â'r haen ychwanegol o lywodraethu a ychwanegir gan y consortia rhanbarthol a'r gwastraff a gyflwynwyd yn sgil hynny. Weinidog, a ydych yn cytuno gyda chomisiwn Williams y byddai Cymru'n cael ei gwasanaethu'n well gan nifer llai o gynghorau mwy o faint, gan gael gwared ar yr angen am gonsortia rhanbarthol?