Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 23 Ionawr 2019.
Mewn byd lle mae'r galw am dai cymdeithasol yn llawer uwch na'r cyflenwad, mae'n hanfodol fod polisïau gosod tai yn adlewyrchu dull teg a strategol o ddiwallu anghenion tai. Mae gan bartneriaethau tai lleol gyfrifoldeb i wneud y defnydd gorau o'r tai cymdeithasol sydd ar gael a darparu'r dewis ehangaf o lety i'r rhai sy'n ei geisio.