Polisïau Gosod Tai Cymdeithasol

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod polisïau gosod tai cymdeithasol awdurdodau lleol a phartneriaethau tai ar draws Cymru yn addas i bwrpas? OAQ53259

Photo of Julie James Julie James Labour 3:03, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mewn byd lle mae'r galw am dai cymdeithasol yn llawer uwch na'r cyflenwad, mae'n hanfodol fod polisïau gosod tai yn adlewyrchu dull teg a strategol o ddiwallu anghenion tai. Mae gan bartneriaethau tai lleol gyfrifoldeb i wneud y defnydd gorau o'r tai cymdeithasol sydd ar gael a darparu'r dewis ehangaf o lety i'r rhai sy'n ei geisio.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Mae’r broses o gofrestru ar gyfer tŷ cymdeithasol yn gallu bod yn gymhleth, ac unwaith mae’r unigolion ar y rhestr, yn aml mae’r system sy'n cael ei defnyddio i benderfynu pwy sydd yn cael pa dŷ yn gallu arwain at ganlyniadau sydd yn annheg. Mae Cyngor Gwynedd newydd gychwyn ymgynghoriad ac yn ystyried newid o system bwyntiau i system fandio, a fydd yn rhoi ystyriaeth i angen, ond hefyd ystyriaeth i gysylltiadau lleol y darpar denantiaid. Ydych chi’n credu bod angen creu systemau dynodi tai cymdeithasol sydd yn fwy addas i bwrpas, a hynny ar draws Cymru?

Photo of Julie James Julie James Labour 3:04, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf ddiddordeb mawr yn system bandio Gwynedd. Rwy'n credu eu bod wrthi'n ymgynghori ac yn treialu a bod penderfyniad i'w wneud ym mis Ebrill. Byddwn yn edrych yn ofalus iawn i weld sut y mae'n gweithio. Yn amlwg, rydym eisiau gweld pobl sydd ag angen blaenoriaethol yn cael  llety, ond mae a wnelo system Gwynedd â galluogi pobl leol i gael llety'n lleol. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld ble y gallwn gael y cydbwysedd cywir rhwng annog pobl leol i aros yn lleol a sicrhau bod anghenion blaenoriaethol pobl yn cael eu diwallu. Yn aml iawn, mae gan bobl angen go iawn i fod yn y gymuned y maent yn teimlo'n rhan ohoni. Felly, mae'n ymwneud â'r cydbwysedd. Rwy'n awyddus iawn i weld sut y mae Gwynedd yn datrys hynny a gweld beth y gallwn ei wneud o ran edrych ar hynny ar draws Cymru.