Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 23 Ionawr 2019.
Mae gennyf ddiddordeb mawr yn system bandio Gwynedd. Rwy'n credu eu bod wrthi'n ymgynghori ac yn treialu a bod penderfyniad i'w wneud ym mis Ebrill. Byddwn yn edrych yn ofalus iawn i weld sut y mae'n gweithio. Yn amlwg, rydym eisiau gweld pobl sydd ag angen blaenoriaethol yn cael llety, ond mae a wnelo system Gwynedd â galluogi pobl leol i gael llety'n lleol. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld ble y gallwn gael y cydbwysedd cywir rhwng annog pobl leol i aros yn lleol a sicrhau bod anghenion blaenoriaethol pobl yn cael eu diwallu. Yn aml iawn, mae gan bobl angen go iawn i fod yn y gymuned y maent yn teimlo'n rhan ohoni. Felly, mae'n ymwneud â'r cydbwysedd. Rwy'n awyddus iawn i weld sut y mae Gwynedd yn datrys hynny a gweld beth y gallwn ei wneud o ran edrych ar hynny ar draws Cymru.