Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 23 Ionawr 2019.
I egluro, Jenny Rathbone, er eich budd, ni ddywedais nad oedd ganddi ddim i'w wneud â'r peth. Yr hyn a ddywedais oedd nad oedd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi hawliau gorfodadwy i unigolion ac felly, nid dyna oedd y cyfrwng priodol i ymdrin â'r holl faterion a godwyd gan Darren Millar. Nid yw hynny'n golygu nad yw'n ddarn gwerthfawr o ddeddfwriaeth a all wneud pethau eraill defnyddiol iawn.