Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 23 Ionawr 2019.
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyflwyno'r mater pwysig hwn ar lawr y Cynulliad heddiw, ac am y cyfle i roi llais i bryderon pensiynwyr ASW. Hoffwn ddweud ar y cychwyn fod pensiynwyr ASW wedi dioddef annhegwch difrifol iawn. Mae pobl wedi gweithio'n galed, maent wedi talu i mewn, maent wedi cynllunio ar gyfer eu dyfodol, ac maent wedi gwneud y peth iawn, a heb fod unrhyw fai arnynt hwy, gwelsant eu bod yn cael eu hamddifadu o'r hyn y gallent fod wedi disgwyl ei gael yn rhesymol.
Bydd yr Aelodau'n gwybod, wrth gwrs, fel y clywsom, nad yw materion pensiwn wedi'u datganoli i Gymru, ond serch hynny, rydym yn cefnogi'r cyn-weithwyr ASW yn eu hymgyrch dros adfer eu pensiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o bleidleisio o blaid y cynnig trawsbleidiol hwn heddiw a gobeithiwn y bydd y Cynulliad yn anfon neges glir ac unfrydol i Lywodraeth y DU.
O'r cychwyn cyntaf, bu Llywodraeth Cymru'n gyson yn ei chefnogaeth i weithwyr ASW cyn ac ar ôl cau'r gwaith yng Nghaerdydd yn 2002. Roedd ein cefnogaeth yn cynnwys gweithgarwch helaeth yn gysylltiedig â chau ASW, gyda chyfraniad personol cadarn gan y Prif Weinidog ar y pryd, a oedd yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd â gweinyddwyr a chynrychiolwyr gweithwyr ASW a mwy o gyfarfodydd ar wahân gydag ymddiriedolwyr annibynnol cynlluniau pensiwn ASW i drafod materion a godwyd gan aelodau; cymorth ymarferol i weinyddwyr ASW ddod o hyd i bartïon â diddordeb ar gyfer y gwaith yng Nghaerdydd fel busnes gweithredol, gan arwain at ailagor y gwaith yn llwyddiannus gan Celsa yn 2003; a sylwadau niferus gan Weinidogion Cymru i Lywodraeth y DU ar ran holl aelodau cynllun pensiwn ASW.
Ysgrifennodd Gweinidogion Cymru yn gyntaf at Weinidogion Llywodraeth y DU a oedd yn gyfrifol am faterion pensiwn ym mis Awst 2002 i dynnu sylw at amgylchiadau cyn-weithwyr ASW ac i ofyn iddynt ystyried pob llwybr posibl o gymorth a chefnogaeth o fewn y drefn bensiynau a chyflogaeth. Ym mis Mehefin 2003, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau gynnig yn ymwneud â'r gronfa diogelu pensiynau—y PPF, y clywsom amdani yn y ddadl hon—i ddiogelu hawliau pensiwn cronnus ar gyfer cynlluniau pensiwn â buddion wedi'u diffinio a fyddai'n dechrau dirwyn i ben ar ôl mis Ebrill 2005. Pwysodd Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU yn sgil hynny i ystyried o ddifrif sefydlu trefniadau ôl-weithredol i'w gwneud hi'n bosibl cynnwys cynlluniau pensiwn fel un ASW.
Gan weithio'n agos gydag ymddiriedolwyr annibynnol cynlluniau pensiwn ASW a chynrychiolwyr cyn-weithlu ASW a etholwyd yn ddemocrataidd, parhaodd Llywodraeth Cymru i gefnogi'r achos dros aelodau'r cynllun pensiwn drwy ohebiaeth a chyfarfodydd â Gweinidogion Llywodraeth y DU a oedd yn gyfrifol am faterion pensiwn.
Cyfarfu Gweinidogion Cymru hefyd â chyn-weithwyr ASW i glywed eu pryderon yn uniongyrchol. Croesawodd Llywodraeth Cymru y cyhoeddiad ym mis Mai 2004 gan yr Ysgrifennydd pensiynau ynglŷn â gwelliant i'r Bil Pensiynau i ddarparu ar gyfer y cynllun cymorth ariannol. Bwriad y cynllun cymorth ariannol oedd darparu cymorth i aelodau cynlluniau pensiwn lle'r oedd y cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr cyn sefydlu'r gronfa diogelu pensiynau.
Hefyd, croesawodd Llywodraeth Cymru y ffaith bod cynllun pensiwn ASW wedi'i gynnwys yn y cynllun cymorth ariannol ym mis Hydref 2005. Fodd bynnag, daeth yn amlwg na fyddai'r cynllun cymorth ariannol ond o fudd i ganran fach iawn o aelodau cynllun pensiwn ASW. Ar y pryd, roedd y cynllun yn gyfyngedig i gynnig cymorth i aelodau cymwys o fewn tair blynedd i oedran pensiwn arferol eu cynllun. Byddent yn derbyn taliadau atodol hyd at oddeutu 80 y cant o'u pensiwn disgwyliedig, wedi'i dalu o'r adeg pan fyddent yn 65 oed ni waeth beth oedd oedran ymddeol y cynllun, ac roedd hyn yn ddarostyngedig i gap o £12,000. Pwysodd Llywodraeth y DU am welliannau i'r cynllun cymorth ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer y rheini a oedd fwy na thair blynedd o'r oedran ymddeol, ac roedd llawer iawn o'r rheini o fewn y cynllun ASW.
Cafwyd galwadau hefyd i ailasesu lefel y cyllid ar gyfer y cynllun cymorth ariannol. Cyhoeddwyd estyniadau i'r cynllun cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU yn 2006 a 2007. Y mwyaf nodedig oedd y cyhoeddiad ym mis Rhagfyr 2007 y byddai holl aelodau'r cynllun cymorth ariannol yn cael 90 y cant o'u pensiwn cronnus ar ddyddiad cychwyn y broses o ddirwyn i ben, yn ddarostyngedig i gap, a oedd yn £26,000 ar y pryd, ac o fis Ebrill 2018 ymlaen, mae bellach yn £35,256. Byddai cymorth yn cael ei dalu hefyd o oedran ymddeol arferol y cynllun, yn amodol ar derfyn oedran is o 60 oed.
Yn fy marn i, mae hyn oll yn dangos bod lobïo cyson dros y tymor hir gan weithwyr ASW ac eraill wedi arwain at welliannau cynyddrannol, a dyna pam nad ydym yn rhoi'r ffidil yn y to a pham nad ydym am roi'r gorau i ddadlau'r achos. A hoffwn gydnabod—.