– Senedd Cymru am 3:59 pm ar 23 Ionawr 2019.
Eitem 6 ar yr agenda yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar bensiynau Allied Steel and Wire a galwaf ar Bethan Sayed i wneud y cynnig. Bethan.
Cynnig NDM6919 Bethan Sayed
Cefnogwyd gan Andrew R.T. Davies, Mike Hedges, Helen Mary Jones, Leanne Wood, David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw cyn-weithwyr Allied Steel and Wire wedi cael gwerth llawn eu pensiynau o hyd, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU.
2. Yn nodi bod gweithwyr, o dan gytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, wedi cael addewid o union yr un driniaeth â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol.
3. Yn nodi bod gan weithwyr, yn sgil newidiadau yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol, yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn. Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag chwyddiant.
4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru.
Diolch. Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r ymgyrchwyr, yn enwedig John Benson, sydd, er gwaethaf blynyddoedd o ymladd dros eu hawliau a thegwch a chyfiawnder sylfaenol, heb roi'r gorau i obeithio a heb ildio i Lywodraethau yn San Steffan sydd naill ai wedi eu trin â dirmyg neu ag anwybodaeth sylfaenol a distawrwydd dros y blynyddoedd. Nid ydym eisiau cyflwyno'r ddadl hon i'r Cynulliad eto. Pan siaredais â rhywun y bore yma, dywedodd, 'O, y ddadl honno eto. Y mater hwnnw eto.' Wel, yr unig reswm y cyflwynwn y ddadl hon yma heddiw yw oherwydd nad yw pethau wedi cael eu cywiro, nid ydynt wedi'u datrys mewn perthynas â phensiynau gweithwyr Allied Steel.
Felly, mae'r ddadl hon wedi bod yn mynd rhagddi ers blynyddoedd lawer. Canfu gweithwyr Allied Steel and Wire yng Nghaerdydd eu bod yn wynebu colli eu pensiynau yn 2002. Roedd ASW yn gyflogwr mawr yng Nghaerdydd, ac mae'n hawdd anghofio yn awr, gyda'r newidiadau sydd wedi digwydd yn y ddinas hon, sut roeddem yn denu'r cyflogwyr diwydiannol mawr hynny. Gweithiodd rhai o'r gweithwyr sydd yma heddiw yn ASW am 40 mlynedd cyn i'r cwmni fynd i'r wal. Roeddent wedi talu tuag at bensiynau y credent eu bod yn ddiogel. Roeddent yn credu y caent eu gwobrwyo am eu blynyddoedd o waith caled â phensiwn ymddeol a fyddai'n adlewyrchu eu blynyddoedd o wasanaeth, ac roeddent yn anghywir.
Rwy'n deall bod hon yn ddadl a gawsom o'r blaen yn y Cynulliad. Yn wir, sefydlais grŵp trawsbleidiol gyda llawer ohonoch yn y Siambr hon yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad i geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Ac rwy'n deall hefyd nad yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Buaswn o ddifrif yn gobeithio, pe bai'n fater wedi'i ddatganoli, y byddem wedi cywiro'r anghyfiawnder hwn ac y byddem wedi gwneud rhywbeth gwahanol iawn yn wir. Ond nid yw'n fater datganoledig, a diben y ddadl hon yma heddiw yw ceisio gweithio gyda'r ymgyrchwyr a chodi hyn yn uwch eto ar yr agenda wleidyddol. Rwyf wedi dweud mewn nifer o ddadleuon a gawsom—boed ar faterion rhyngwladol, boed ar faterion nad ydynt wedi'u datganoli—fod yn rhaid inni ddangos arweiniad moesol ar y materion hyn os na allwn wneud y penderfyniadau gwleidyddol yma yng Nghymru.
Nawr, pan oeddwn yn ymwneud ag anghydfod pensiynau Visteon o'r blaen—neu Ford, fel y byddai llawer o'r ymgyrchwyr ar y pryd wedi'i alw—roeddwn i ac eraill yn dweud mai cyflog wedi'i ohirio yw pensiwn, nid bonws hawdd, nid taliad diswyddo, nid parasiwt aur. Cyflog gohiriedig ar ffurf cyfraniad gweithwyr ydyw er mwyn sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd yn eu henaint. Mae pawb ohonom yn disgwyl hynny. Mae pawb ohonom eisiau hynny. Yn wir, dyna a drafodwyd gennym yn y ddadl flaenorol yma heddiw, ynglŷn â sut rydym eisiau'r parch hwnnw pan fyddwn yn hŷn. Ond pam na wnawn ni hynny yn achos gweithwyr ASW sy'n haeddu'r hawl i gael y pensiwn hwnnw? Felly, ar gyfer pobl megis pensiynwyr ASW, gweithwyr Visteon, neu'r rhai sy'n gysylltiedig ag Equitable Life a chynifer o gwmnïau eraill sydd wedi colli rhan o'u pensiynau, dyma beth y dylem ei alw; dylem ei alw'n lladrad gan y cwmnïau hynny sy'n cymryd y cyflogau haeddiannol hynny, y pensiynau haeddiannol hynny allan o bocedi'r bobl y dylent fod yn eu cynnal. A dylem gadw hynny mewn cof drwy'r ddadl.
Credaf ei bod yn werth mynd drwy linell amser yr ymgyrch hon yn fyr iawn, er mwyn inni atgoffa ein hunain pa mor galed yw hi wedi bod ar yr ymgyrchwyr hyn. Felly, aeth ASW i'r wal a mynd i law'r derbynnydd yn 2002. Cafodd y rhan fwyaf o'r gweithwyr eu diswyddo, ac er i'r cwmni Sbaenaidd Celsa gaffael y ffatri flwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn rhy hwyr i lawer o'r rhai a gyflogid yn flaenorol. Daeth yn amlwg yn ystod trafodaethau rhwng ASW, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU ar y pryd fod diffyg o £21 miliwn yng nghronfeydd pensiwn y cwmni. Er bod rhywun wedi prynu'r safle, nid oedd hyn yn cynnwys enillion pensiwn gwarantedig ar gyfer gweithwyr a ddiswyddwyd. Yn y pen draw, cyngiwyd oddeutu 40 y cant o werth disgwyliedig eu pensiwn i'r rhan fwyaf o'r gweithwyr—nad oedd yn agos at yr hyn a haeddent. Felly, dechreuwyd ymgyrch, ac roedd llawer yn credu ei bod wedi llwyddo pan gyhoeddodd Llywodraeth Lafur y DU ar y pryd gynllun cymorth ariannol, a'r gronfa diogelu pensiynau flwyddyn yn ddiweddarach.
Nawr, mae'n hawdd anghofio nad oedd y system bresennol sydd gennym yn bodoli yn 2002. Ar y pryd, roedd bwgan cynyddol yr hyn a elwid yn drefniadau dirwyn i ben—lle nad oedd gweithwyr mwyach yn cael y pensiynau a addawyd iddynt ac y talasant i mewn iddynt yn seiliedig ar hyd gwasanaeth a'u cyflog terfynol adeg ymddeol, a lle y byddent yn lle hynny yn cael beth bynnag y gallai'r cynlluniau fforddio ei dalu ar ôl sicrhau bod pensiynau'r rhai a oedd eisoes yn bensiynwyr wedi'u diogelu. Pwynt trefniadau dirwyn i ben oedd bod yn ddull sydyn ac uniongyrchol o dorri costau ar draul gweithwyr, lladrata oddi wrth y gweithwyr, gyda rhai ohonynt wedi bod yn talu i'r cynlluniau pensiwn ers llawer iawn o flynyddoedd. Cafodd degau o filoedd o weithwyr ledled y DU mewn amrywiol ddiwydiannau eu heffeithio mewn rhyw ffordd gan gau safleoedd, gan gwmnïau a'r modd yr aent i'r wal, a dyna sut y cafodd eu pensiynau eu trin mor amharchus.
Felly, mae'r ffaith bod ymgyrch gref a chyhoeddus gweithwyr ASW, gyda chefnogaeth pobl megis Ros Altmann—y Farwnes Ros Altmann bellach—wedi llwyddo i newid y gyfraith a chyflwyno cynlluniau diogelu pensiynau wedi'u cefnogi gan y Llywodraeth yn gamp aruthrol. Gwn y bydd Aelodau yma heddiw'n arswydo wrth feddwl am yr hyn a allai fod wedi digwydd i nifer fawr o weithwyr Cymru pe bai cynllun fel y gronfa diogelu pensiynau heb gael ei sefydlu, er mor amherffaith yw'r cynllun hwnnw. Ond ni chafodd gweithwyr ASW gyfran deg na thriniaeth deg gan Lywodraethau olynol y DU, er gwaethaf gwaith caled yr ymgyrchwyr. Felly, y sefyllfa heddiw o hyd yw nad yw ymgyrchwyr wedi cael unrhyw beth yn debyg i 90 y cant o werth eu pensiynau. Mewn gwirionedd, nid yw'r ymgyrchwyr sydd bellach yn y cynllun cymorth ariannol yn cael unrhyw amddiffyniad mynegai chwyddiant ar eu cyfraniadau cyn 1997, ychydig iawn a gânt ar gyfraniadau ar ôl 1997, ac maent yn gorfod dioddef cap ar daliadau hefyd. Po hwyaf y bu rhywun yn gweithio i'r cwmni hwn, y gwaethaf yw'r sefyllfa y maent yn debygol o fod ynddi. Mae yna bobl yn y grŵp ymgyrchu a roddodd 40 mlynedd o wasanaeth i gynhyrchu dur yng Nghaerdydd—ac nid yng Nghaerdydd yn unig. Mae yna bobl yng Nghaint sy'n wynebu sefyllfa yr un mor real, pobl sydd wedi gweithio'n galed ar hyd eu hoes mewn swyddi medrus ar gyflogau da, ac sy'n wynebu'r poen meddwl ariannol hwn yn ystod eu blynyddoedd diweddarach. Ac mae'n warthus yn fy marn i. Gwarth a anwyd yn y ddeddfwriaeth wreiddiol ac un nad yw eto wedi'i gywiro gan Lywodraeth y DU.
Nawr, rwy'n ymwybodol o'r amser, a hoffwn gau drwy ddarllen dyfyniad gan John Benson sydd wedi bod yn ddiwyd yn cadw mewn cysylltiad â mi ac ACau eraill yn yr ystafell hon ar y mater hwn. Er nad wyf yn cynrychioli ei ranbarth, gwn fod cyfiawnder pensiwn yn rhywbeth rwy'n malio'n fawr amdano, er nad wyf wedi cyrraedd oedran pensiwn fy hun eto. Er hynny, rwyf wedi gweithio'n ddiwyd, mor galed ag y gallaf, gyda'r ymgyrch hon a chyda phensiynwyr Visteon yn y gorffennol i geisio ymladd am y pensiynau y maent yn eu haeddu. Ac mae'n brofiad anhygoel bod yn rhan o ymgyrch Visteon—roedd pobl yn treulio'u holl amser wedi iddynt ymddeol yn ymgyrchu yn hytrach na mwynhau ffrwyth eu llafur. Felly, dyma'r hyn a ddywedodd John, ac fe fyddaf yn gorffen gyda hyn: 'Mae bron 17 o bobl wedi marw ac maent yn dal i gael y pensiynau y cawsant eu hannog gan y Llywodraeth i'w cynilo wedi'u dwyn oddi arnynt. Mae'r freuddwyd honno o ymddeoliad wedi ei dryllio gan ddeddfwriaeth ddiffygiol Llywodraethau. Rhaid dweud bod llawer o'r dynion a menywod gweithgar a pharchus hyn wedi cael eu bradychu mewn ffordd anynnol gan Lywodraethau olynol. Nid ydynt yn haeddu cael eu trin mor annheg; maent wedi rhoi eu ffydd mewn Llywodraethau a bradychwyd y ffydd honno.'
Mae gennym ddyletswydd i gefnogi a helpu'r cyn-weithwyr dur ASW hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn wneud cyfiawnder â'u hachos a pharhau i godi'r mater hwn ar y lefelau uchaf o ymwneud gwleidyddol, sicrhau y cymerir camau, a chefnogi John a phobl debyg iddo.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon ac yn benodol, menter y Llywydd ar ddechrau'r Cynulliad hwn i gyflwyno dadleuon ar fformat o'r fath fel y gall Aelodau gyflwyno materion fel hyn nad ydynt o fewn y cymhwysedd datganoledig, ond sy'n effeithio ar lawer o'n hetholwyr, a materion y mae gennym farn arnynt. Ac rwy'n talu teyrnged arbennig i John a Phil sydd yn yr oriel y prynhawn yma, ac yn benodol i'r ymgyrchwyr hefyd sydd wedi bwrw iddi gyda'r ymgyrch hon, oherwydd mae a wnelo â chyfiawnder, ac mae a wnelo â chyfiawnder naturiol yma.
Pan oeddwn yn edrych ar y mater hwn dros yr ychydig ddyddiau diwethaf i atgoffa fy hun am yr ymgyrch, darllenais fod Llywodraeth y DU wedi dweud bod taliadau'n dilyn y gofynion cyfreithiol. Wel, mae yna ofyniad moesol yma, rhaid imi ddweud, ac mae Llywodraethau olynol wedi methu cyflawni eu rhwymedigaethau moesol yn y maes penodol hwn.
Dywedodd Bethan yn ei sylwadau wrth gloi, 'Nid wyf yn bensiynwr eto', ac nid wyf yn golygu hyn mewn ffordd fychanol o gwbl, ond mae pawb ohonom yn meddwl ynglŷn â'r hyn rydym ei eisiau wedi inni ymddeol, ac mae llawer ohonom, os nad pob un ohonom, yn ceisio sefydlu rhyw fath o ddarpariaeth, ac mae'r gweithwyr yr effeithir arnynt—gan y diffyg hwn sydd wedi digwydd ar amrantiad, os ydych am fod yn garedig; mae lladrad yn air arall amdano os ydych am fod yn greulon o onest—wedi cael eu dyfodol wedi'i gymryd oddi arnynt. Fe wnaeth yr unigolion dan sylw y peth cywir—rhoesant ganran o'u hincwm mewn pot. Roeddent yn credu bod y pot hwnnw'n ddiogel a phan ddeuai'n adeg iddynt ymddeol, byddai wedi darparu'r cysuron a'r gallu i gael yr ymddeoliad roeddent wedi cynllunio ar ei gyfer ar hyd eu bywydau gwaith.
Ac ar draws y gweithlu, byddai mwy gan rai i'w golli nag eraill, ond mae pob un o weithwyr ASW, a llawer o weithfeydd eraill ledled y Deyrnas Unedig, nid yma yng Nghymru yn unig, wedi gweld yr ymddeoliad hwnnw'n cael ei gymryd oddi arnynt. Ac mae gorfodaeth ar wleidyddion, o ba gefndir bynnag, ac o ba blaid wleidyddol bynnag, i gyflawni'r ddyletswydd foesol sydd ei hangen arnom i unioni'r anghyfiawnder hwn. A chredaf yn gryf yn hyn, oherwydd rwyf wedi cyfarfod â'r ymgyrchwyr, a John yn benodol, a Phil, ar sawl achlysur ac ni allaf weld unrhyw ddadl resymegol y gellir ei rhoi'n ôl iddynt pan welwch y pwyntiau y maent yn eu gwneud. Ac nid yw'n iawn fod pensiynau pobl yn cael eu tocio am nad oes ganddynt amddiffyniad rhag chwyddiant wedi'i gynnwys yn y pecyn iawndal a oedd ar waith. Chwyddiant yw gelyn creulon ymddeoliad. Pan symudwch ymlaen at incwm pensiwn sy'n sefydlog iawn, ac yn amlwg, yn gorfforol, rydych yn eich—mae llawer o bobl yn parhau'n brysur iawn yn ddiweddarach mewn bywyd, ond mae'n ffaith nad ydych yn gwneud yr un faint o waith nac yn cael yr un cyfleoedd â phan oeddech yn 20, 30 neu 40 ac mae eich gallu i ennill cyflog yn gyfyngedig, ac rydych ar yr incwm sefydlog hwnnw.
Ac felly, yn fy marn i mae rhwymedigaeth ar Lywodraeth y DU i ailagor hyn. A gwn mai Llywodraeth Geidwadol sydd yno heddiw. Llywodraeth Geidwadol/Democratiaid Rhyddfrydol oedd yno cyn hynny, a Llywodraeth Lafur cyn honno. Ac o ddechrau i ganol y 2000au, rwy'n derbyn bod camau unioni amrywiol wedi'u rhoi ar waith, ond roedd y camau unioni hynny'n ddiffygiol, a hynny i raddau helaeth iawn, ac ni all fod yn iawn, oherwydd bod cyfnod o amser wedi pasio, fod pobl mewn swyddi â dylanwad a grym yn credu y bydd yr amser hwnnw'n caniatáu i hyn gael ei ysgubo o'r golwg a'i anghofio. Ni ddylid caniatáu iddo gael ei ysgubo o'r golwg ac ni ddylid caniatáu iddo gael ei anghofio, oherwydd, fel y dywedais, gwnaeth yr unigolion sy'n destun yr anghyfiawnder hwn yr hyn a oedd yn iawn ac fel cymdeithas, mae angen inni wneud yr hyn sy'n iawn drwy roi eu pensiynau yn ôl iddynt, ynghyd â'r diogelwch hwnnw sydd ei angen yn ddiweddarach mewn bywyd.
Roeddem yn gwybod bod y pethau hyn yn digwydd yn y 1980au a'r 1990au. Nid oes ond angen inni edrych ar beth a ddigwyddodd gyda sgandal pensiynau Robert Maxwell a oedd yn digwydd gyda Mirror Group Newspapers. Nid oedd yn rhywbeth nad oedd pobl yn gwybod amdano, ac ar y pryd, ni chamodd rheoleiddwyr a gwleidyddion i mewn a'i gywiro. Wel, gwyddom bellach lle roedd yr anghysonderau hynny. Mae mesurau diogelu wedi'u hymgorffori yn y system, ond ni ddylid cosbi'r rhai a gafodd eu dal gan ddiffygion y system flaenorol yn eu hymddeoliad. A llwyr ategaf deimladau'r cynnig ar y papur trefn heddiw, ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda'r ymgyrchwyr i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau cyfiawnder iddynt, ein bod yn rhoi eu pensiwn yn ôl iddynt—pensiynau y maent wedi talu i mewn iddynt. Eu harian hwy ydyw, ac maent yn ei haeddu, ac ni wnawn ganiatáu i dreigl amser ganiatáu i'r anghyfiawnder hwn gael ei anghofio. Ac felly rwy'n croesawu gwaith trawsbleidiol yn y Siambr hon i wneud yn siŵr nad anghofir eu lleisiau, a byddaf yn gweithio gyda chyd-Aelodau, lle bynnag yr eisteddant, i wneud yn siŵr y cawn y newidiadau sydd eu hangen i'r cynllun.
Rwyf am siarad o blaid gweithwyr Allied Steel and Wire, am fod ganddynt achos cyfiawn iawn. Mae ganddynt hawl i gyfiawnder, ac mae'r ymgyrch a gynhaliwyd ganddynt hefyd yn un sy'n adlewyrchu anghysondebau yn y diwydiant pensiynau drwyddo draw, yn mynd yn ôl i ddechrau'r 1980au. Ac af yn ôl at y 1980au—hynny yw, diolch byth, bryd hynny o leiaf roedd gennych un linell sylfaen, sef y gyfarwyddeb pensiynau o'r Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs, gallem golli rhai o'r mesurau diogelu hyn yn y dyfodol. Bûm yn ymwneud am gyfnod, fel cyfreithiwr undeb llafur wrth gwrs, mewn achos cyfreithiol ar ran cymuned a aeth i'r Llys Ewropeaidd, a chafwyd llwyddiant rhannol yn yr ystyr bod y llys wedi cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi torri ei rhwymedigaethau ond wrth gwrs, ni osododd ofyniad am system o iawndal 100 y cant, a dyna oedd y methiant, a dyna roedd rheoliadau dilynol i fod i'w gywiro.
Mae angen inni fynd yn ôl hefyd at y ffaith bod holl faes dadreoleiddio'r diwydiant pensiwn yn ymgyrch benodol gan y diwydiant yswiriant, a diwydiant yswiriant sy'n parhau i fod â gormod o reolaeth o lawer ac sy'n ymwneud llawer gormod ym mholisïau'r Llywodraeth a pholisïau cyfredol penodol. A rhaid inni gofio hefyd mai Deddf 1986, o dan Margaret Thatcher, a arweiniodd at y dadreoleiddio hwnnw, a'r dadreoleiddio—mae angen inni feddwl yn ofalus am yr hyn a wnaeth mewn gwirionedd. Caniataodd i gwmnïau optio allan o'r rhwymedigaeth i ddarparu pensiynau galwedigaethol. Caniataodd i gwmnïau dynnu arian allan o warged pensiynau, a methodd ddarparu ar gyfer y risgiau a fyddai'n codi mewn perthynas â chwmnïau'n mynd yn fethdalwyr. A'r rheswm pam y diystyrwyd y risgiau hynny oedd bod y Llywodraeth ym mhoced y diwydiant yswiriant. A rhaid inni edrych, er enghraifft, ar yr hyn a ddigwyddodd i Gynllun Pensiwn y Glowyr, ac wrth gwrs roedd ymgyrch yn mynd rhagddi ynglŷn â hynny mewn perthynas ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr.
A'r hyn a ddigwyddodd oherwydd y dadreoleiddio hwnnw, ac oherwydd cau'r pyllau glo ar y pryd, oedd bod glowyr yn cael clywed, 'Dyna chi, gallwch dynnu eich cronfeydd pensiwn allan, gallwch eu trosglwyddo yn awr'—o'r hyn a oedd yn un o gronfeydd pensiwn mwyaf llwyddiannus y byd mae'n debyg—'a'u rhoi mewn cronfeydd pensiwn preifat.' A dyma'r ffordd y gweithiai'r diwydiant. Ai cynrychiolwyr yswiriant o gwmpas y glowyr unigol a dweud, 'O, na, na, rhowch eich arian yn y gronfa hon, bydd hi'n llawer gwell', ond yr hyn nad oeddent yn ei ddweud wrth y glöwr oedd y byddai'n talu arian i bobl y gwasanaethau ariannol eu hunain am y pum mlynedd cyntaf. Ac yna, ar ôl pum mlynedd, pan fyddent yn dechrau cronni rhywfaint o fudd, byddai rhywun yn dod ac yn dweud, 'O, mae hyn a hyn wedi mynd bellach, rwy'n credu bod angen inni adolygu', ac yna byddent yn gwneud yr un peth eto. Felly, byddent yn dwyn oddi wrth y glowyr yn barhaus. Ac roedd llawer o grwpiau eraill o weithwyr yn yr un sefyllfa. Ac yn wir, gwnaed asesiad gan gynghorwyr pensiwn proffesiynol—cynghorwyr proffesiynol yw'r rhain—a dywedodd 69 y cant ohonynt yn y bôn mai un o ganlyniadau dadreoleiddio Margaret Thatcher oedd nid yn unig iddi fethu gweld effaith ei rheoliadau ar gynlluniau pensiwn, ond cymaint o risg a wynebai aelodau o'r cynlluniau hyn pe bai’r cwmnïau'n mynd yn fethdalwyr, a dyna'n union a ddigwyddodd.
Nawr, rhoddwyd amryw o fesurau ar waith i geisio helpu ers hynny, ond yr hyn sy'n glir iawn yw bod gennym gors gyfan o reoliadau, a bellach mae gennym grwpiau cyfan o bobl lle y mae gwarged yn cael ei dynnu allan o bensiynau pan fo'n gyfleus naill ai i'r cyflogwr, y Llywodraeth, neu ddiwydiant penodol wneud hynny ac yna, pan fydd bylchau dilynol yno, y gweithwyr, y bobl sy'n talu eu pensiynau dros yr holl flynyddoedd, sy'n dioddef mewn gwirionedd. Felly, mae gennym—. Mae gennym weithwyr Allied Steel and Wire, ac mae pensiynau llawer ohonynt bellach yn llawer iawn llai o ran y swm y mae ganddynt hawl iddo yn rhinwedd eu cyfraniadau. Mae gennym Women Against State Pension Inequality, lle y newidiodd y Llywodraeth y rheoliadau ac yn sydyn mae gennych bobl bellach yn gorfod gweithio pum, chwe, saith mlynedd arall oherwydd newidiadau i bensiynau. Ac mae gennym Lywodraeth sy'n cymryd biliynau o bunnoedd allan o'r cynllun pensiwn gweithwyr mwyaf llwyddiannus yn y byd, cynllun pensiwn y glowyr, ac mae'r Llywodraeth yn gwrthod negodi ad-drefniant—nid diddymu'r trefniadau hynny, ond ad-drefnu.
Felly, rwy'n cefnogi hwn oherwydd nid yn unig fod gweithwyr ASW yn iawn, ond mae angen adolygiad llwyr o'r hyn a fu'n digwydd gyda phensiynau, yr hyn sy'n parhau i ddigwydd—y ddeddfwriaeth sy'n dod drwodd yn awr o blaid y diwydiant yswiriant ar draul hawliau pobl i gael iawndal, diwydiant yswiriant sy'n cael budd o bob deddfwriaeth, ac nid oes unrhyw dystiolaeth fod pobl yn cael budd o hynny mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod y ffaith bod gennym Lywodraeth sydd ym mhoced y diwydiant yswiriant yn peri pryder mawr. Felly, credaf fod comisiwn brenhinol ar bensiynau, adolygiad pensiynau—rhywbeth sy'n pennu'r nod o adfer cyfiawnder yn y bôn—ond ail-sefydlu cynllun pensiwn priodol hefyd er mwyn sicrhau, pan fydd gweithwyr yn talu i mewn i'r cynlluniau pensiwn hynny, fod hawl ganddynt i'r hyn y maent wedi ei dalu i mewn pan fyddant yn cyrraedd yr hawl i bensiwn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, er y byddai'n well gennyf pe na bai ei hangen. Mae rhai ohonom wedi bod yn Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ers amser hir iawn—ers y diwrnod cyntaf, mewn gwirionedd—fel roedd fy nghyn gyd-Aelod Plaid Cymru, Owen John Thomas, a oedd yn groch ei gefnogaeth i ymgyrchwyr pensiwn Allied Steel and Wire ar hyd yr amser.
Yn 2003—sef 16 mlynedd yn ôl—sicrhaodd Plaid Cymru ddadl plaid leiafrifol yn Nhŷ Hywel—roeddem yn yr hen adeilad ar y pryd, cofiwch—ar sgandal yr hyn a oedd wedi digwydd i bensiynau Allied Steel and Wire. Yn y ddadl honno, dywedodd Owen John Thomas:
Mae hwn yn gyfle perffaith i'r Llywodraeth Lafur hon ddangos ei phenderfyniad i roi chwarae teg i weithwyr. Deddfwriaeth Dorïaidd, a gyflwynwyd gan Margaret Thatcher, a achosodd y llanastr hwn drwy gyflwyno rheolau sy'n caniatáu i gwmnïau dalu eu holl gredydwyr eraill cyn anrhydeddu eu hymrwymiadau pensiwn wrth i gwmni gael ei ddirwyn i ben.
Roedd hynny amser maith yn ôl, ac rydym yn dal yma. Roedd y cynllun diogelu pensiynau a gefnogwyd gan y Llywodraeth yn gyflawniad arwyddocaol ar y pryd, ac roedd y ddeddfwriaeth i'w gweld yn newid blaengar gan Lywodraeth Lafur. Nid dyna fel y mae pethau wedi datblygu, ac ers blynyddoedd, ni wnaeth Llywodraethau Blair a Brown ddim byd o gwbl i unioni unrhyw anghyfiawnder a wynebai'r rhai o fewn y cynllun cymorth ariannol. Yn wir, gadawodd y Farwnes Ros Altmann y Blaid Lafur oherwydd y mater hwn yn 2007, mater a alwai'n 'sgandal'. Gwelliant ymylol a welwyd yn y cynllun cymorth ariannol ar ôl i'r Llywodraeth ar y pryd orfod mynd i'r llys, wedi iddi apelio ar ôl ei chael yn euog gan yr ombwdsmon o gamarwain pensiynwyr. Nid oedd y modd yr oedd y Llywodraeth Lafur flaenorol wedi trin pensiynwyr yn ennyn llawer o glod. Daeth y Llywodraeth ar y pryd o dan lach y Campaign for Plain English am fod yn ddauwynebog. Daeth y Ceidwadwyr i rym yn 2010 gyda'r disgwyliad y byddent yn cywiro'r problemau hyn yn y gyfraith pan gâi'r cynllun cymorth ariannol ei sefydlu. Ni wnaethant ddim heblaw cynnig cydymdeimlad mewn gwirionedd. Fe wnaethant benodi'r Farwnes Altmann i fod yn Weinidog pensiynau, ond nid oeddent yn barod i ddarparu iawndal i'r ymgyrchwyr hyn ac i eraill yn y cynllun cymorth ariannol. Y peth sy'n peri pryder yw nad yw'r Llywodraeth bresennol yn y DU wedi gwneud unrhyw beth i sicrhau iechyd hirdymor pensiynau preifat.
Nid yw ymgyrchwyr Allied Steel and Wire yn mynnu pethau ychwanegol; maent eisiau tegwch. Maent eisiau i'w cyfraniadau cyn 1997 gael eu hamddiffyn rhag chwyddiant. Maent eisiau i'r rhai yn y cynllun cymorth ariannol gael eu trin gyda'r un lefel o degwch a diogelwch â'r rhai sydd yn y gronfa diogelu pensiynau, a dileu cap ar daliadau ac iawndal fel y gallant gael yr hyn a gymerwyd oddi arnynt. Fel y dywedodd eraill—. Rydym wedi cael cyfraniadau go rymus y prynhawn yma: Bethan, roeddech yn wych wrth agor y ddadl; Andrew R.T. a Mick, aruthrol. Ceir emosiynau pwerus ynglŷn â hyn o hyd, ac fel y dywedodd Bethan, gan ddyfynnu llawer o bobl dros y blynyddoedd, nid bonws ar ddiwedd gwaith yw cyfraniad pensiwn, ond rhan ohiriedig o gyflog rhywun; mae ei gymryd yn lladrad.
Bu Plaid Cymru'n ymladd dros gyfiawnder i'r gweithwyr hyn ac eraill ers blynyddoedd, fel y clywsom. Sylwadau Owen John Thomas yn 2003 oedd y rheini. Roedd yn dal wrthi yn 2007, a dyfynnaf—mewn dadl gan Owen John a oedd yn dal yma ar y pryd:
Rhaid i Lywodraeth y DU wneud newidiadau i'r Cynllun Cymorth Ariannol fel bod cyn-weithwyr ASW yn cael yr hyn y byddai hawl ganddynt ei gael. Mae yma anghyfiawnder ofnadwy yn arbennig i'r rhai sydd o dan 50 oed ond sydd efallai wedi gweithio hyd at 35 mlynedd yn y gwaith dur, ond sy'n mynd i fethu cael unrhyw gymorth ariannol.
Roedd hynny 12 mlynedd yn ôl. Roedd hynny ynddo'i hun bum mlynedd wedi i'r mater hwn godi ei ben am y tro cyntaf, ac Allied Steel and Wire, ffatri anferth sydd ond dafliad carreg oddi yma—. Beth allwn ni ei wneud am y peth? Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i siarad yn y ddadl—Rebecca Evans.
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyflwyno'r mater pwysig hwn ar lawr y Cynulliad heddiw, ac am y cyfle i roi llais i bryderon pensiynwyr ASW. Hoffwn ddweud ar y cychwyn fod pensiynwyr ASW wedi dioddef annhegwch difrifol iawn. Mae pobl wedi gweithio'n galed, maent wedi talu i mewn, maent wedi cynllunio ar gyfer eu dyfodol, ac maent wedi gwneud y peth iawn, a heb fod unrhyw fai arnynt hwy, gwelsant eu bod yn cael eu hamddifadu o'r hyn y gallent fod wedi disgwyl ei gael yn rhesymol.
Bydd yr Aelodau'n gwybod, wrth gwrs, fel y clywsom, nad yw materion pensiwn wedi'u datganoli i Gymru, ond serch hynny, rydym yn cefnogi'r cyn-weithwyr ASW yn eu hymgyrch dros adfer eu pensiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o bleidleisio o blaid y cynnig trawsbleidiol hwn heddiw a gobeithiwn y bydd y Cynulliad yn anfon neges glir ac unfrydol i Lywodraeth y DU.
O'r cychwyn cyntaf, bu Llywodraeth Cymru'n gyson yn ei chefnogaeth i weithwyr ASW cyn ac ar ôl cau'r gwaith yng Nghaerdydd yn 2002. Roedd ein cefnogaeth yn cynnwys gweithgarwch helaeth yn gysylltiedig â chau ASW, gyda chyfraniad personol cadarn gan y Prif Weinidog ar y pryd, a oedd yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd â gweinyddwyr a chynrychiolwyr gweithwyr ASW a mwy o gyfarfodydd ar wahân gydag ymddiriedolwyr annibynnol cynlluniau pensiwn ASW i drafod materion a godwyd gan aelodau; cymorth ymarferol i weinyddwyr ASW ddod o hyd i bartïon â diddordeb ar gyfer y gwaith yng Nghaerdydd fel busnes gweithredol, gan arwain at ailagor y gwaith yn llwyddiannus gan Celsa yn 2003; a sylwadau niferus gan Weinidogion Cymru i Lywodraeth y DU ar ran holl aelodau cynllun pensiwn ASW.
Ysgrifennodd Gweinidogion Cymru yn gyntaf at Weinidogion Llywodraeth y DU a oedd yn gyfrifol am faterion pensiwn ym mis Awst 2002 i dynnu sylw at amgylchiadau cyn-weithwyr ASW ac i ofyn iddynt ystyried pob llwybr posibl o gymorth a chefnogaeth o fewn y drefn bensiynau a chyflogaeth. Ym mis Mehefin 2003, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau gynnig yn ymwneud â'r gronfa diogelu pensiynau—y PPF, y clywsom amdani yn y ddadl hon—i ddiogelu hawliau pensiwn cronnus ar gyfer cynlluniau pensiwn â buddion wedi'u diffinio a fyddai'n dechrau dirwyn i ben ar ôl mis Ebrill 2005. Pwysodd Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU yn sgil hynny i ystyried o ddifrif sefydlu trefniadau ôl-weithredol i'w gwneud hi'n bosibl cynnwys cynlluniau pensiwn fel un ASW.
Gan weithio'n agos gydag ymddiriedolwyr annibynnol cynlluniau pensiwn ASW a chynrychiolwyr cyn-weithlu ASW a etholwyd yn ddemocrataidd, parhaodd Llywodraeth Cymru i gefnogi'r achos dros aelodau'r cynllun pensiwn drwy ohebiaeth a chyfarfodydd â Gweinidogion Llywodraeth y DU a oedd yn gyfrifol am faterion pensiwn.
Cyfarfu Gweinidogion Cymru hefyd â chyn-weithwyr ASW i glywed eu pryderon yn uniongyrchol. Croesawodd Llywodraeth Cymru y cyhoeddiad ym mis Mai 2004 gan yr Ysgrifennydd pensiynau ynglŷn â gwelliant i'r Bil Pensiynau i ddarparu ar gyfer y cynllun cymorth ariannol. Bwriad y cynllun cymorth ariannol oedd darparu cymorth i aelodau cynlluniau pensiwn lle'r oedd y cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr cyn sefydlu'r gronfa diogelu pensiynau.
Hefyd, croesawodd Llywodraeth Cymru y ffaith bod cynllun pensiwn ASW wedi'i gynnwys yn y cynllun cymorth ariannol ym mis Hydref 2005. Fodd bynnag, daeth yn amlwg na fyddai'r cynllun cymorth ariannol ond o fudd i ganran fach iawn o aelodau cynllun pensiwn ASW. Ar y pryd, roedd y cynllun yn gyfyngedig i gynnig cymorth i aelodau cymwys o fewn tair blynedd i oedran pensiwn arferol eu cynllun. Byddent yn derbyn taliadau atodol hyd at oddeutu 80 y cant o'u pensiwn disgwyliedig, wedi'i dalu o'r adeg pan fyddent yn 65 oed ni waeth beth oedd oedran ymddeol y cynllun, ac roedd hyn yn ddarostyngedig i gap o £12,000. Pwysodd Llywodraeth y DU am welliannau i'r cynllun cymorth ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer y rheini a oedd fwy na thair blynedd o'r oedran ymddeol, ac roedd llawer iawn o'r rheini o fewn y cynllun ASW.
Cafwyd galwadau hefyd i ailasesu lefel y cyllid ar gyfer y cynllun cymorth ariannol. Cyhoeddwyd estyniadau i'r cynllun cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU yn 2006 a 2007. Y mwyaf nodedig oedd y cyhoeddiad ym mis Rhagfyr 2007 y byddai holl aelodau'r cynllun cymorth ariannol yn cael 90 y cant o'u pensiwn cronnus ar ddyddiad cychwyn y broses o ddirwyn i ben, yn ddarostyngedig i gap, a oedd yn £26,000 ar y pryd, ac o fis Ebrill 2018 ymlaen, mae bellach yn £35,256. Byddai cymorth yn cael ei dalu hefyd o oedran ymddeol arferol y cynllun, yn amodol ar derfyn oedran is o 60 oed.
Yn fy marn i, mae hyn oll yn dangos bod lobïo cyson dros y tymor hir gan weithwyr ASW ac eraill wedi arwain at welliannau cynyddrannol, a dyna pam nad ydym yn rhoi'r ffidil yn y to a pham nad ydym am roi'r gorau i ddadlau'r achos. A hoffwn gydnabod—.
Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Efallai nad wyf yn darllen hyn yn iawn, ond rwy'n credu y bydd y cynnig hwn yn pasio gyda chefnogaeth unfrydol y prynhawn yma. Rwy'n derbyn nad yw'r pleidleisiau hyn yn tueddu i fod yn ddarostyngedig i'r chwip—nid yw'r dadleuon Aelodau hyn—felly os yw'r bleidlais yn pasio gyda chymeradwyaeth unfrydol—ac mae'r Llywodraeth wedi dangos eu cefnogaeth—a wnewch chi ymrwymo fel Gweinidog i ddwyn y mater i sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn Llundain y tro nesaf y byddwch yn ei chyfarfod, ac yn arbennig, yr Adran Gwaith a Phensiynau, o safbwynt y Llywodraeth? Oherwydd, fel y nodwch yn gwbl briodol, mae lobïo helaeth a pharhad yr ymgyrch wedi dwyn ffrwyth yn y gorffennol, ac ni allwn fodloni ar 'nodi' y ddadl hon yng nghofnodion y Cynulliad a dim mwy na hynny.
Na allwn, rydych yn llygad eich lle, ac rydych wedi achub y blaen ar baragraff olaf fy araith y prynhawn yma. Ond cyn imi ddod at y pwynt hwnnw, hoffwn gydnabod y gefnogaeth drawsbleidiol sydd wedi bod i'r mater hwn dros y blynyddoedd, a chydnabod, er enghraifft, y llythyr a lofnodwyd gan arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad ar y pryd yn 2012, a nodi 10 mlynedd wedi i ASW fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Felly, er bod y sefyllfa wedi gwella i aelodau'r cynllun cymorth ariannol ers dyddiau cynnar y cynllun hwnnw, mae'n dal yn wir fod diffygion sylweddol yn parhau i lawer o bobl, gan gynnwys cyn-weithwyr ASW, o ran y cymorth a ddarperir.
Felly, i gloi, ar ran y rhai yr effeithir arnynt, mae Llywodraeth Cymru unwaith eto'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried y pryderon a godwyd gan aelodau'r cynllun cymorth ariannol a'u cynrychiolwyr er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol a haeddiannol. Ac rwy'n falch o roi'r ymrwymiad hwnnw heddiw y byddaf yn dwyn y mater i sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn uniongyrchol pan fyddwn yn cyfarfod yn gynnar ym mis Chwefror, ac yn sicr byddaf yn ystyried yr holl sylwadau a gawsom yn y ddadl hon y prynhawn yma.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Mike Hedges i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i bawb am y modd cadarnhaol y maent wedi siarad yn y ddadl hon. Fel arfer pan gawn ddadleuon, bydd rhai pobl yn siarad ychydig fel arall, hyd yn oed pan fyddant yn cefnogi, ond cawsom unfrydedd, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig. A gaf fi ymuno â Bethan Sayed i longyfarch yr ymgyrchwyr, yn enwedig John Benson, am ddal ati cyhyd? Ond a gaf fi annog cyd-Aelodau'r Cynulliad—a wnewch chi ymateb i negeseuon e-bost John Benson? Mae'n anfon negeseuon e-bost at bob un ohonom yn weddol rheolaidd. Nid yw pawb yn ateb. Rydym yn mynd i ddangos cefnogaeth yma—yn unfrydol gobeithio—ond a allwch adael iddo wybod ei fod wedi cael y gefnogaeth unfrydol honno drwy ateb y negeseuon e-bost y mae'n eu hanfon?
Mike, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Dim ond i bwysleisio'r pwynt hwnnw, credaf ei bod hi'n bwysig ein bod yn cael pleidlais yma y prynhawn yma. Byddaf yn gofyn am bleidlais, mewn gwirionedd, yn hytrach na dweud yn ddifeddwl, 'Mae'n mynd i fod yn unfrydol.' Credaf fod pobl yn haeddu gweld ein henwau wrth—a'n bod yn cofnodi ein cefnogaeth yn llawn. Felly, byddaf yn gofyn am bleidlais, ac os oes angen, bydd hynny'n golygu y bydd rhaid inni ddweud, 'Rydym yn gwrthwynebu iddo fynd drwodd heb bleidlais', oherwydd rwyf am weld pawb yn cael ei gofnodi'n dweud, 'Rydym yn cefnogi'r pensiynwyr 100 y cant.'
Diolch. Fel y mae'r Aelodau yma'n gwybod, rwy'n eich cynrychioli ar gronfa bensiwn Aelodau'r Cynulliad, ac mae pobl o wahanol grwpiau oedran yma a fydd mae'n debyg yn gwybod yn union faint o bensiwn sydd ar y ffordd iddynt. Rwy'n gofyn i chi sut y byddech yn teimlo pe bai'r hyn a ddigwyddodd i bensiynwyr ASW yn digwydd i chi. [Torri ar draws.] Gallaf ddweud wrthych beth sydd gennych, Bethan, pe baech am imi wneud hynny ryw dro arall. [Chwerthin.]
I bob pwrpas, cyflogau gohiriedig yw pensiynau, ac fel y dywedodd Bethan Sayed, nid yw staff Allied Steel and Wire wedi cael gwerth llawn eu pensiynau. Mae'r arian wedi'i ddwyn oddi arnynt. Yn anochel mae hyn yn mynd i olygu caledi ariannol nad oeddent yn ei ddisgwyl i rai unigolion. Roeddent yn gwybod faint y byddent yn ei gael—. Ac a gaf fi helpu pobl—? Po agosaf y dowch at oedran ymddeol, y mwyaf o ddiddordeb fydd gan bobl yn y swm o arian sydd ganddynt yn eu pensiynau. Mae pobl yn disgwyl i'w pensiynau fod yno fel oedd disgwyl iddynt fod, a heb eu hailraddnodi tuag i lawr. Mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder a dangos arweiniad moesol, ac nid yw'n swm mawr o arian o ran y Llywodraeth, ac rwy'n credu ei bod yn anffodus nad ydynt yn barod i ddod o hyd i swm cymharol fach. Byddent yn darparu digonedd o arian ar ei gyfer pe bai'n rhyfel.
Andrew Davies, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'r diffyg wedi amddifadu pobl o'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Effeithiwyd yn wael iawn ar ymddeoliad pob gweithiwr. Mae rhai wedi wynebu eu dyfodol yn cael ei wneud yn wahanol iawn i'r hyn a ddisgwylient. Mae'n anghyfiawnder, ac yn anghyfiawnder sydd angen ei gywiro. Mae angen inni ddangos ein bod yn eu cefnogi fel bod modd gwneud y peth iawn ar eu rhan.
Mick Antoniw—unwaith eto, mae'n achos cyfiawn iawn. Credaf fod hwnnw'n sylw a wnaethpwyd gan bawb a siaradodd. Mae ganddynt hawl i gyfiawnder. Nid yw hyn yn ymwneud â gofyn am elusen. Nid yw'n ymwneud â gofyn am rywbeth mwy na'r hyn y gall pobl ei ddisgwyl: mae a wnelo â chyfiawnder, ac i mi, yma, os rhywbeth, mae'n frwydr dros bobl lai cefnog nad ydynt yn cael cyfiawnder.
Mae anghysondebau yn y diwydiant pensiynau—credaf ei bod yn anffodus ein bod wedi symud i'r cyfnod wedi 1979 pan oedd trachwant yn dda a dadreoleiddio yn dda a phan ganiatawyd i gwmnïau optio allan, fel y dywedodd Mick Antoniw, ac i dynnu arian allan, nid darparu ar gyfer risg, a phan ddeuai'n bryd eu talu, câi bylchau yn y gronfa bensiwn eu talu gan y gweithwyr a dalodd i mewn i'r gronfa bensiwn honno. Credaf fod hynny'n hynod o drist i'r rhai dan sylw. A chofiwch, pe na baech yn eistedd yma yn awr, gallai eich cynnwys chi.
Credaf fod safbwynt Mick Antoniw ynglŷn â'r comisiwn brenhinol ar bensiynau yn un da iawn. Nid wyf yn meddwl y cawn un, ond credaf ei fod yn rhywbeth y dylem ofyn amdano. Dai Lloyd—cynllun diogelwch pensiwn a gefnogir gan y Llywodraeth, y credai pawb ei fod yn mynd i fod yn ateb. Wel, rwy'n credu bod gweithwyr ASW wedi darganfod nad oedd, a chredaf fod hynny'n drist, oherwydd pan gyflwynir cynlluniau y disgwylir iddynt fynd i'r afael â rhywbeth lle y mae pobl yn gwybod bod yna anghysondebau, mae'n drist iawn eu bod yn methu. Ac mae gweithwyr ASW yn barhaus—. Ac rwy'n mynd i ddal ati i ddefnyddio'r gair hwn—tegwch.
Ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi disgrifio ASW fel 'anghyfiawnder dybryd'. Maent wedi eu hamddifadu o'r hyn a ddisgwylient. Mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r cyn-weithwyr ASW, ac rwy'n falch eu bod yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n falch iawn—ac rwy'n credu bod Dai Lloyd wedi gwneud y penderfyniad iawn i alw am bleidlais a enwir i bawb sy'n ei gefnogi, ond ni all fod yn iawn fod pobl yn heneiddio bellach, pobl sydd wedi ymddeol yn eu 60au ac sydd, ar ddiwedd eu 70au yn dal i boeni am y pensiwn, ac fel y gall Bethan Sayed ddweud wrthych hefyd gydag ymgyrch Visteon, bu llawer o bobl farw tra'n aros am gyfiawnder pensiwn. Credaf mai dyna un o'r pethau tristaf o bosibl yw fod pobl yn aros am gyfiawnder ac nad ydynt byth yn ei gael, ac efallai y bydd cyfran ohono'n gwneud ei ffordd at eu perthnasau agosaf, ond ni fyddant hwy byth yn cael y cyfiawnder y buont yn ymgyrchu drosto ac yn ymladd amdano.
Credaf y dylem gefnogi gweithwyr ASW i'r carn. Dylem ddweud, 'Credwn eich bod yn haeddu cyfiawnder, a chredwn y dylai Llywodraeth San Steffan ddarparu'r arian', sydd, o safbwynt gwariant Llywodraeth, yn swm cymharol fach—un taflegryn yn llai efallai a gallem ei dalu. Rwy'n credu ein bod eisiau sefyllfa mewn gwirionedd lle y darperir yr arian a bod pobl yn cael yr hyn y maent yn ei haeddu. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pawb yn yr ystafell hon yn ei gefnogi.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.