7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfraddau Treth Imcwm Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:45, 23 Ionawr 2019

Mae'r rhain yn ddyddiau hanesyddol i ni fel cenedl. Maen nhw'n ddyddiau hanesyddol i ni fel corff democrataidd newydd. Mae yna drethi neilltuol Cymreig yn cael eu codi am y tro cyntaf yn yr oes fodern, ac mae o'n gam pwysig i ni o ran aeddfedrwydd y Cynulliad, aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru a'r angen am newid diwylliant—am feddwl mewn ffordd wahanol ynglŷn â gwaith y Llywodraeth.

Mae'r Llywodraeth yn cael ei gorfodi i feddwl mewn ffordd fwy creadigol. Yn hynny o beth, wrth gwrs, does dim rhaid newid cyfraddau trethiant er mwyn i bwerau trethiant fod yn werthfawr. Fel y clywsom ni gan lefarydd y Ceidwadwyr: cynyddu sail y trethiant sydd yn bwysig. Dyna'r her rŵan: gwneud yn siŵr bod cyfleon economaidd yn cael eu creu sydd yn creu rhagor o dreth i gael ei thalu i wario ar wasanaethau yng Nghymru. Dyna pam, yn sicr, rydym ni'n cyd-fynd â chymal 1 yn y cynnig heddiw—

'cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru'— ond yn wir am ychwanegu ato fo, oherwydd mae yna lawer fwy na hynny iddi hi. Beth y mae ein gwelliant ni yn ei ddweud ydy bod ishio ychwanegu at hynny fod angen

'pwysleisio blaenoriaethu sicrhau twf economaidd a chynnydd mewn refeniw drwy gefnogi busnes cynhenid.'

Mae hynny'n gwbl allweddol, wrth gwrs, a dwi'n gobeithio cael cefnogaeth i'r gwelliant hwnnw.

Er nad oes angen, yn angenrheidiol, newid cyfraddau treth, mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, fod yn barod i feddwl yn greadigol ynglŷn â sut i ddefnyddio pwerau i amrywio cyfraddau, a dyna pam na allwn ni gytuno i gefnogi cymal 2—nid oherwydd ein bod ni, fel plaid, ar hyn o bryd eisiau cynyddu treth incwm—dŷn ni ddim wedi dod i benderfyniadau ar hynny eto—ond am ein bod ni'n meddwl bod, rywsut, mynnu nad ydy'r Llywodraeth yn defnyddio'r pwerau yn gosod cynsail braidd yn anffodus ar ddechrau'r cyfnod yma o fabwysiadu pwerau trethiant am y tro cyntaf.

Mae'n rhaid inni fod yn barod i feddwl yn greadigol. Mi gawsom ni ein sefydlu fel corff a oedd yn gwario yn unig. Mae dod yn gorff sydd yn trethu yn rhan o aeddfedrwydd sydd yn rhan o'r daith genedlaethol rydym ni'n mynd arni hi fel gwlad. Doedden ni ddim yn deddfu ar y dechrau. Rydyn ni'n deddfu erbyn hyn, ac mae hynny, dwi'n gobeithio, yn mynd i'n galluogi ni i ddatblygu dros amser ffordd Gymreig o ddeddfu. Mi oedd gennym ni yn hanesyddol, wrth gwrs, ffordd wahanol neilltuol Gymreig o ddeddfu, ac rydw i'n meddwl am ddeddfau Hywel Dda, a oedd yn drawiadol o wahanol i'r math o ddeddfu sydd wedi dod yn nodwedd o'r Deyrnas Unedig fodern. Does yna ddim byd a ddylai ein hatal ni rhag datblygu model trethu sy'n wahanol ac sy'n neilltuol Gymreig, a dyna pam fynnwn ni ddim gweld cyfyngu ar bŵer unrhyw Lywodraeth i wneud penderfyniadau a all fod o les i bobl Cymru. Beth rydym ni'n ei ddweud yn ein hail welliant ni, sydd yn dileu pwynt 2 y Ceidwadwyr, ydy ein bod ni am

'annog trafodaeth sifig aeddfed ynglŷn â sut orau i ddefnyddio pwerau trethiannol datganoledig newydd er budd economaidd a chymdeithasol Cymru.'

A beth rydym ni'n ei feddwl wrth hynny ydy ein bod ni'n mynd ar daith tuag at greu model Cymreig o drethiant, ac rydw i'n gwahodd y Ceidwadwyr hefyd i wneud hynny.